Carl Sagan – Cosmos remix

Fel plentyn yn yr 80au gyda diddordeb yn y gofod, Patrick Moore a James Burke oedd y cyflwynwyr teledu wnaeth ddylanwadu fi. I Americanwyr, Carl Sagan oedd y dyn wnaeth boblogeiddio’r pwnc ar y teledu gyda’r gyfres Cosmos. Wnes i ddim darganfod y dyn na’r gyfres tan y 1990au.

Dyma fideo gwych sy’n samplo y rhaglenni:

Comed Holmes

Es i allan neithiwr i edrych am gomed Holmes (dim perthynas i Sherlock). Yn yr wythnos ddiwetha mae wedi dod yn ddigon llachar i’w weld gyda’r llygad yn unig. Gan ei fod yn tywyllu mor gynnar mae fwy o gyfle i’w weld hefyd – neithiwr roedd yr awyr yn glir tan tua 9 o’r gloch cyn iddi gymylu.

Gyda’r llygad, mae’n edrych fel seren. Drwy delesgôp neu finocwlar mae’n ymddangos fel pelen niwlog. Mae’n reit hawdd i’w weld – edrychwch i’r gogledd-ddwyrain i ddechrau. Yn uchel yn yr awyr mae siap ‘W’ cyfarwydd Cassiopeia. Yn dilyn lawr ac ychydig i’r dde, mi ddylech chi weld triongl o sêr. Ar ben y triongl mae’r seren lachar Mirfak. Y seren ar y chwith yw Comed Holmes.

Dyma fwy o wybodaeth ar sut i wylio’r gomed.

Taith i Pluto

Flwyddyn nesa, fe fydd NASA yn danfon chwiledydd ‘New Horizons‘ i blaned Pluto (dwi ddim yn hoff iawn o’r bathiad Cymraeg – Plwton, sy’n swnio fel gronyn bach fel electron neu broton). Dyma fydd y siawns cynta erioed i gael golwg iawn ar y blaned bell.

Mi fydd NASA yn cynnwys rhestr o enwau ar y llong, sydd yn ffordd dda o godi diddordeb yn y prosiect fydd yn cymryd 10 mlynedd hir i gyrraedd Pluto – ychwanegwch eich enw!