Ar y gwifrau a’r tonnau

Mae’r Cymry yn enwog am gerddoriaeth a chanu. Efallai fod hi’n addas felly mai Cymro ddyfeisiodd y meicroffôn modern sy’n galluogi ni i drosglwyddo a recordio sain. Dyma un o gampau y gwyddonodd David Edward Hughes (cysylltiad i’r erthygl saesneg ar Wikipedia am fod fwy o fanylion yno) sydd o dras Cymreig er nid yw’n hollol glir lle’i ganwyd.

Fe wnaeth David Hughes lawer o waith arloesol ym myd cyfathrebu drwy wifrau gyda’r telegraff ac arbrofion gyda radio. Yn anffodus doedd ganddo ddim y gallu mathemategol i gofnodi a chyflwyno ei waith felly ni gafodd ei glod haeddiannol am flynyddoedd lawer wedi hynny.

Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am y gwyddonydd Cymreig pwysig yma, felly dwi’n falch o weld fod llyfr newydd wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar – Before We Went Wireless. Rwy am holi os ydi’r cyhoeddwyr yn America yn fodlon danfon copi i Gymru. Mae’r llyfr ar gael o rhai dosbarthwyr yn Lloegr ond am bris eitha uchel – dros £60.

Mae gan awdur y llyfr gysylltiadau â Chymru hefyd. Mae’n werth gwylio y fideo yma lle mae’r awdur, Ivor Hughes, yn esbonio ychydig am yr ymchwil hirfaith wnaeth e ar gyfer y llyfr.

Carl Sagan – Cosmos remix

Fel plentyn yn yr 80au gyda diddordeb yn y gofod, Patrick Moore a James Burke oedd y cyflwynwyr teledu wnaeth ddylanwadu fi. I Americanwyr, Carl Sagan oedd y dyn wnaeth boblogeiddio’r pwnc ar y teledu gyda’r gyfres Cosmos. Wnes i ddim darganfod y dyn na’r gyfres tan y 1990au.

Dyma fideo gwych sy’n samplo y rhaglenni:

Pasio dŵr yn y gofod

Ar wefan Golwg 360, mae Ifan Morgan Jones yn gofyn y cwestiwn:

Pam bod India yn chwilio am ddŵr glân ar y lleuad pam nad oes digon i’w gael ar gyfer ei phobol ei hun?

Cwestiwn digon teg, ond mae’n gwestiwn sy’n cael ei ofyn yn aml allan o anwybodaeth. Does dim angen dewis rhwng gwario ar un peth neu’r llall ond yn hytrach mi fydd llywodraethau yn blaenoriaethu eu gwariant yn y gwahanol feysydd. Rhaid edrych ar ffrwyth y buddsoddiad mewn unrhyw faes a sut mae’n gallu elwa y wlad a’r gymdeithas yn gyffredinol.

Mae India yn gwario tua 0.1% o’i GDP ar ei rhaglen ofod (asiantaeth ISRO), sy’n rhan bitw iawn mewn gwirionedd. Beth mae hyn yn gyflawni? Rhaid gwneud yn glir mai nid danfon lloerennau i’r lleuad yw prif bwrpas yr asiantaeth. Mae’n cyflogi gwyddonwyr yn India sy’n datblygu arbenigedd cynhenid ymhob maes technolegol sydd angen ar gyfer rhaglen ofod. Mae’n golygu fod India yn gallu lansio lloerennau eu hunain, sydd yn helpu gwyddonwyr i gadw llygad barcud ar pob math o newidiadau amgylcheddol o’r gofod – yn cynnwys rhewlifau yr Himalayas, defnydd y tir a newid tirwedd oherwydd tywydd garw neu ddaeargrynfeydd. Mae hyn yn hynod o bwysig i wlad fydd yn gorfod cyfyngu ar ei allbwn carbon deuocsid tra’n ceisio datblygu ei economi a safon byw eu phobl.

Mae buddsoddiad mewn gwyddoniaeth a technoleg yn gaffaeliad mawr i unrhyw wlad fodern a mae India yn iawn i wneud hynny. Ers llawer blwyddyn mae gan India enw da ym myd meddygaeth a technoleg gwybodaeth. Dyw hi ddim yn gam mawr i fynd o ddatblygu lloeren sy’n cylchdroi’r ddaear i ddatblygu lloeren sy’n gallu archwilio’r lleuad neu ymhellach. Mae e’n gyfrifol hefyd am gefnogi ymchwil wyddonol sylfaenol sy’n aml yn gymorth i ddatblygu technoleg sy’n gwella ein safonau byw ar y ddaear hefyd.

Mae’n wir i ddweud y bydd cyflenwi dŵr glan yn broblem sy’n mynd i gynyddu yn enbyd yn y dyfodol. Ond mae’r ymladd dros ddŵr yn digwydd yn barod rhwng India a Phacistan. Dyma ddau wlad sy wedi buddsoddi biliynau mewn byddinoedd ac arfau niwclear er mwyn amddiffyn eu ffiniau a felly hefyd eu hadnoddau naturiol.

Mae gwariant milwrol India nawr yn 3% o’i GDP, 30 gwaith yn fwy na’i gwariant ar y rhaglen ofod. Sut mae’r wlad yn elwa o hynny? Wel, mae nhw’n datblygu arbenigedd mewn pob math o ffyrdd o ladd pobl yn sicr. Os oes angen cwestiynu sut mae llywodraeth India yn gwario ei incwm, mae’n well edrych fan hyn gynta.

Mae llawer hefyd wedi beirniadu yr arian mae America, Rwsia a nifer o wledydd eraill wedi gwario ar yr Orsaf Ofod Rhyngwladol (ISS). Cwpl o ystadegau – mae gwariant milwrol America tua 4.7% o’i GDP yn 2009, sef $965 biliwn. Cyllid NASA am 2009 yw $17.6 biliwn.

Felly, un sylw i gloi. Mae’r ymchwil mae NASA wedi ei wneud dros y blynyddoedd wedi dod a pob math o fuddiannau i’n bywyd bob dydd – mae nifer o restrau ohonynt ar gael ar y we. Yn ddiweddar ar yr orsaf ofod mae nhw datblygu technoleg i ail-gylchu dŵr gwastraff yr orsaf ac o biso’r gofodwyr eu hunain. Y canlyniad yw dŵr glân sy’n ddigon da i’w yfed unwaith eto.

Mae technolegau o’r fath wedi eu datblygu ar raddfa fychan iawn ar gyfer defnydd ‘daearol’ hefyd, ond mae ymchwil NASA yn hollbwysig ar gyfer dangos fod hi’n bosib creu system ail-gylchu cynhwysfawr a’i fod yn gwbl ymarferol. Mae hynny’n hwb mawr a fe allai arwain at un o’r datblygiadau pwysicaf ar gyfer gwledydd tlotaf y byd – sicrhau cyflenwad dibynadwy o ddŵr glân mewn modd cynaladwy.

Diwrnod y Glec fawr

Dim ond 3 diwrnod sydd i fynd nes y bydd arbrawf yr LHC yn cychwyn yn CERN. Mi fydd yr arbrawf yn ail-greu y sefyllfa oedd yn bodoli ar ddechrau’r bydysawd (gyda ffracsiwn lleiaf o’r egni mae’n rhaid dweud).

Fydda’i ddim yn y gwaith y diwrnod hwnnw, felly dwi’n meddwl fydda’n dilyn y diwrnod gyda’r rhaglenni arbennig drwy’r dydd ar Radio 4.

A dyma fideo bach difyr i esbonio’r holl beth mewn 5 munud.

Comed Holmes

Es i allan neithiwr i edrych am gomed Holmes (dim perthynas i Sherlock). Yn yr wythnos ddiwetha mae wedi dod yn ddigon llachar i’w weld gyda’r llygad yn unig. Gan ei fod yn tywyllu mor gynnar mae fwy o gyfle i’w weld hefyd – neithiwr roedd yr awyr yn glir tan tua 9 o’r gloch cyn iddi gymylu.

Gyda’r llygad, mae’n edrych fel seren. Drwy delesgôp neu finocwlar mae’n ymddangos fel pelen niwlog. Mae’n reit hawdd i’w weld – edrychwch i’r gogledd-ddwyrain i ddechrau. Yn uchel yn yr awyr mae siap ‘W’ cyfarwydd Cassiopeia. Yn dilyn lawr ac ychydig i’r dde, mi ddylech chi weld triongl o sêr. Ar ben y triongl mae’r seren lachar Mirfak. Y seren ar y chwith yw Comed Holmes.

Dyma fwy o wybodaeth ar sut i wylio’r gomed.