Dreigiau Cymru

Mae rhai aelodau o’r Cynulliad wedi bod yn grwgnach, yn ei modd arferol am ail-frandio y WDA a’r Bwrdd Croeso gyda logo newydd. Mae’n amlwg nad yw’r gwleidyddion yma yn deall rhwng brand a logo. Mae brand yn cwmpasu y ‘neges’ a’r syniadau sy’n cael ei cyfleu gan y cynnyrch – sef Cymru yn yr achos yma; fel gwlad, rhywle i wneud busnes a fel cyrchfan gwyliau.

Nid y logo sy’n cyfleu hynny ond y ddelwedd o’r cynnyrch sy’n cael ei werthu drwy ddeunydd marchnata, a thrwy profiad pobl sy’n ymweld a Chymru am fusnes neu pleser. Mae logo yn bwysig fel symbol i ddal sylw ond nid gwerthu tiniau Coke yw’r pwrpas, ond delwedd ac adnabyddiaeth. I ddweud y gwir, wrth werthu gwlad a diwylliant, rhan fach o’r ateb yw logo – mae pobl yn llawer mwy tebygol o gofio ac ymateb i ddelweddau o dirlun, adeiladau a phobl.

Mae Mike German wedi cwyno am “logo draig arall eto”. A mae Nick Bourne yn dweud fod y ddelwedd yn ystrydebol cyn mynd ymlaen i ddweud “if it’s not, broke don’t fix it” sydd ychydig yn gymysglyd a dweud y lleia. Mae’n amlwg nad oedd defnydd o ddraig mewn logo wedi ‘torri’ a felly dyw hi ddim wedi ei ‘trwsio’.

Dreigiau haniaethol oedd logos y WDA a’r Bwrdd Croeso a mae yna ddau arall yn logo y Cynulliad a’r Llywodraeth. Dwi’n deall felly – roedd hi’n iawn i’r WDA a’r Bwrdd Croeso ddefnyddio logo draig jyst am ei fod felna erioed, ond dyw hi ddim yn iawn ail-ddylunio’r ddau logo a’i cyfuno (sy’n arbed arian yn y pendraw). Dwi ddim yn cofio’r gwleidyddion yn cwyno pan wnaeth y WDA wario (wastio) £160,000 er mwyn i gwmni o Lundain newid ei logo o un draig i… ddraig arall gyda lliw ychydig bach yn wahanol!
WDA logo loco

Gwefan Llywodraeth y Cynulliad

Mae gwefan newydd llywodraeth y Cynulliad yn fyw o’r diwedd, sydd am y tro cynta yn gwahaniaethu’n glir rhwng y Cynulliad fel sefydliad a’r llywodraeth. Mae’n well na’r hen un yn sicr ond beth sydd tu ôl y llenni?

Mae’n amlwg fod ymgais wedi bod i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddara gyda XHTML a CSS llawn, ond dyw’r cod ddim yn gwirio (un camgymeriad bach i ddweud y gwir). Mae yna fotwm RSS ar y wefan.. grêt! O, dyw e ddim yn gweithio..

Latest News And Events http://localhost:8080/

Dy’n nhw ddim wedi trefnu y dewislenni yn synhwyrol iawn – mae rhai adrannau newyddion yn dangos teitlau (hir) y storïau newyddion yn y ddewislen ar y chwith, sydd ddim yn gyfeillgar iawn. Mae enghreifftiau o Gymraeg Crap dros y wefan i gyd – cwis i chi, nodwch faint o gyfieithiadau chwithig, camgymeriadau teipio a sillafu yn y dudalen yma, er enghraifft. O ddarllen rhai o’r tudalennau mae’n debyg nad ydyn nhw wedi trafferthu defnyddio y termau safonol nac ychwaith cronfa terminoleg y Cynulliad ei hunain.

Mae’n debyg mai BBC Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am peth o’r gwaith yma, os nad y cyfan. Defnydd da iawn o dalent cynhenid Gymreig unwaith eto…