daflog

Llywodraeth y Cynulliad ar YouTube

Fe wnaeth Vaughan Roderick sôn rhai diwrnodau nôl fod sianel YouTube newydd ar gael o dan yr enw ‘Government of Wales’ ac yn wir mae’n ymddangos ar yr olwg gynta i fod yn sianel swyddogol.

Mae’r sianel yn dweud ei fod yn cynnig “information about Government News a (sic) general information about how the WAG and the National Assembly for Wales works”.

Ond mae yna rywbeth od iawn am y fideos sydd arno – dyw e ddim yn teimlo i fi fel rywbeth swyddogol o gwbl. Gyda llaw fe gafodd sianel ‘LlywodraethCymru’ ei greu hefyd nôl ym mis Mawrth 2009, ond does dim byd arno. Fe gafodd y sianel ‘GovernmentofWales’ ei greu ar y 30ain Hydref 2009 a dwi ddim yn meddwl fod unrhyw gysylltiad rhwng y ddau.

Mae’r fideos i weld yn slic ar yr wyneb am eu bod nhw yn defnyddio yr holl driciau a’r traciau sain sydd ar gael yn iMovie. O ran y cynnwys mae nhw’n amatur ac yn weddol ddi-bwynt. Mae yna fideo un munud o hyd a’i unig bwrpas yw dangos dau baragraff am gyfarfod y pwyllgor cyllid sydd wedi ei dynnu o stori gan y BBC! Os ydi hwn yn sianel swyddogol na fyddech chi’n disgwyl cyfweliad bach byr gan y gweinidog dan sylw – hynny yw rhywbeth gwerth ei roi ar ffurf fideo? Does dim byd yn y fideos yma na fyddech chi’n gallu darllen mewn 10 eiliad yn lle eistedd drwy fideo 60 eiliad.

Mae nifer o fideos arall yn dangos achlysuron ‘dadleuol’ a ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl – ‘Dafydd Wigley storms out’ (yn 1999) er enghraifft. Mae rhain yn cael eu cyflwyno heb esboniad na’r cyd-destun. Nawr mae hwn yn honni bod yn sianel y ‘Llywodraeth’ yn hytrach na’r Cynulliad fel corff, felly mi fydden i’n disgwyl ambell gic tuag at yr wrth-bleidiau, ond ai dyma y ffordd y mae Llywodraeth Cymru am gyflwyno eu hun? Ydi hwn yn helpu ein dealltwriaeth o Lywodraeth y Cynulliad a sut mae’n gweithredu?

Mae fideo rhyfedd arall yn sôn am app Cymraeg i’r iPhone. Nawr fe gyhoeddwyd rhywbeth am hynny ym mis Awst, ond dwi ddim yn defnyddio iPhone felly dwi ddim yn siwr os unrhyw ddatblygiadau arall (does dim byd newydd i’w weld ar y we). Mae’r testun yn y fideo yn cloi gyda’r sylw “The Minister for Heritage and Welsh Language made not (sic) comment” – a nid hynny yw ei deitl iawn ‘ta beth.

Fy nghwestiwn yw felly – ydi hwn wir yn sianel ’swyddogol’ gan y Llywodraeth neu yn beiriant propaganda gan y boi ‘na sy’n ‘ymchwilydd’ i aelod Llafur? Os y cynta, mae’r sianel yn tipyn o jôc fel ffynhonell ’swyddogol’ o wybodaeth gan y Llywodraeth. Os yr ail beth sy’n wir, yna dwi’n synnu dim a mae’n dweud i mi nad yw hon yn sianel i’w gymryd o ddifri.

Wrth gwrs, efallai fod y sianel yn adlewyrchiad perffaith o Lywodraeth y Cynulliad – amaturiaid anaeddfed sydd ddim wedi deall sut i gyflwyno gwybodaeth i’r cyhoedd, yn enwedig yn y cyfryngau newydd?

Pasio dŵr yn y gofod

Ar wefan Golwg 360, mae Ifan Morgan Jones yn gofyn y cwestiwn:

Pam bod India yn chwilio am ddŵr glân ar y lleuad pam nad oes digon i’w gael ar gyfer ei phobol ei hun?

Cwestiwn digon teg, ond mae’n gwestiwn sy’n cael ei ofyn yn aml allan o anwybodaeth. Does dim angen dewis rhwng gwario ar un peth neu’r llall ond yn hytrach mi fydd llywodraethau yn blaenoriaethu eu gwariant yn y gwahanol feysydd. Rhaid edrych ar ffrwyth y buddsoddiad mewn unrhyw faes a sut mae’n gallu elwa y wlad a’r gymdeithas yn gyffredinol.

Mae India yn gwario tua 0.1% o’i GDP ar ei rhaglen ofod (asiantaeth ISRO), sy’n rhan bitw iawn mewn gwirionedd. Beth mae hyn yn gyflawni? Rhaid gwneud yn glir mai nid danfon lloerennau i’r lleuad yw prif bwrpas yr asiantaeth. Mae’n cyflogi gwyddonwyr yn India sy’n datblygu arbenigedd cynhenid ymhob maes technolegol sydd angen ar gyfer rhaglen ofod. Mae’n golygu fod India yn gallu lansio lloerennau eu hunain, sydd yn helpu gwyddonwyr i gadw llygad barcud ar pob math o newidiadau amgylcheddol o’r gofod – yn cynnwys rhewlifau yr Himalayas, defnydd y tir a newid tirwedd oherwydd tywydd garw neu ddaeargrynfeydd. Mae hyn yn hynod o bwysig i wlad fydd yn gorfod cyfyngu ar ei allbwn carbon deuocsid tra’n ceisio datblygu ei economi a safon byw eu phobl.

Mae buddsoddiad mewn gwyddoniaeth a technoleg yn gaffaeliad mawr i unrhyw wlad fodern a mae India yn iawn i wneud hynny. Ers llawer blwyddyn mae gan India enw da ym myd meddygaeth a technoleg gwybodaeth. Dyw hi ddim yn gam mawr i fynd o ddatblygu lloeren sy’n cylchdroi’r ddaear i ddatblygu lloeren sy’n gallu archwilio’r lleuad neu ymhellach. Mae e’n gyfrifol hefyd am gefnogi ymchwil wyddonol sylfaenol sy’n aml yn gymorth i ddatblygu technoleg sy’n gwella ein safonau byw ar y ddaear hefyd.

Mae’n wir i ddweud y bydd cyflenwi dŵr glan yn broblem sy’n mynd i gynyddu yn enbyd yn y dyfodol. Ond mae’r ymladd dros ddŵr yn digwydd yn barod rhwng India a Phacistan. Dyma ddau wlad sy wedi buddsoddi biliynau mewn byddinoedd ac arfau niwclear er mwyn amddiffyn eu ffiniau a felly hefyd eu hadnoddau naturiol.

Mae gwariant milwrol India nawr yn 3% o’i GDP, 30 gwaith yn fwy na’i gwariant ar y rhaglen ofod. Sut mae’r wlad yn elwa o hynny? Wel, mae nhw’n datblygu arbenigedd mewn pob math o ffyrdd o ladd pobl yn sicr. Os oes angen cwestiynu sut mae llywodraeth India yn gwario ei incwm, mae’n well edrych fan hyn gynta.

Mae llawer hefyd wedi beirniadu yr arian mae America, Rwsia a nifer o wledydd eraill wedi gwario ar yr Orsaf Ofod Rhyngwladol (ISS). Cwpl o ystadegau – mae gwariant milwrol America tua 4.7% o’i GDP yn 2009, sef $965 biliwn. Cyllid NASA am 2009 yw $17.6 biliwn.

Felly, un sylw i gloi. Mae’r ymchwil mae NASA wedi ei wneud dros y blynyddoedd wedi dod a pob math o fuddiannau i’n bywyd bob dydd – mae nifer o restrau ohonynt ar gael ar y we. Yn ddiweddar ar yr orsaf ofod mae nhw datblygu technoleg i ail-gylchu dŵr gwastraff yr orsaf ac o biso’r gofodwyr eu hunain. Y canlyniad yw dŵr glân sy’n ddigon da i’w yfed unwaith eto.

Mae technolegau o’r fath wedi eu datblygu ar raddfa fychan iawn ar gyfer defnydd ‘daearol’ hefyd, ond mae ymchwil NASA yn hollbwysig ar gyfer dangos fod hi’n bosib creu system ail-gylchu cynhwysfawr a’i fod yn gwbl ymarferol. Mae hynny’n hwb mawr a fe allai arwain at un o’r datblygiadau pwysicaf ar gyfer gwledydd tlotaf y byd – sicrhau cyflenwad dibynadwy o ddŵr glân mewn modd cynaladwy.

Ymateb y Cynulliad

Ydych chi, fel fi, wedi syrffedu ar drafod fethiannau Golwg 360 a wedi cael llond bol o ddisgwyl iddo weithio’n “iawn”? Wel mae gen i un pwt bach arall i’w bostio, nid fod gen i lawer o newyddion da i’w gynnig i chi.

Deg diwrnod ar ôl lansiad (cynta) Golwg 360 ar Fai 15fed wnes i ddanfon llythyr ebost at Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Treftadaeth yn y Cynulliad. Roedd yr ebost yn mynegi fy mhryderon ynglŷn a safon y gwaith ar y wefan a’r ffaith fod tipyn o niwl dros bwy yn union ddatblygodd y wefan ac i le aeth yr arian. Erbyn hyn mae’r niwl wedi clirio cryn dipyn.

Fe ges i ymateb i’r ebost ar Fehefin 16eg gan swyddog ar ran y Gweinidog. Dwi am gyhoeddi (gyda chaniatad) darnau o’r ymateb gyda rhai sylwadau pellach gen i.

Rwy’n gwerthfawrogi eich pryder am y wefan newydd ond rydym yn gobeithio y caiff Golwg360 gyfle i ddangos ei photensial dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Dyma sydd wedi cael ei ddweud o hyd – arhoswch am ychydig wythnosau a misoedd (ar ôl aros am 12 mis ers i Golwg ennill yr arian). Os oedd y wefan wedi diwallu yr anghenion sylfaenol (h.y. dangos erthyglau newyddion mewn ffordd syml, deniadol a hawdd i’w ddefnyddio) fyddai neb wedi cwyno. Fe fyddai unrhyw ddatblygiadau pellach yn fonws. Os ydych chi’n ceisio creu gwefan ‘chwyldroadol’ (heb yr arian na’r arbenigedd) mi fyddwch chi’n siwr o syrthio’n fflat ar eich gwyneb. Gwell o lawer yw creu sylfaen cadarn a adeiladu wrth i’r gynulleidfa dyfu.

Mae cwmni Tinopolis (oedd yn rhan greiddiol o gais cwmni Golwg Cyf. a enillodd y tendr i ddarparu’r gwasanaeth – a hynny mewn cystadleuaeth agored) yn gweithio i gywiro’r problemau technegol ac mae’n dda gweld bod y gwasanaeth sylfaenol yn gweithio i bwrpas profi cychwynnol erbyn hyn, a bod Golwg Newydd a’i isgontractwyr yn glir ynglŷn â’r camau datblygu nesaf.

Mae’n wir fod Tinopolis yn gweithio i gywiro’r wefan ond y rheswm am hyn yw mai nid nhw ddatblygodd y wefan yn y lle cynta (er mai ei henw nhw oedd ar y tendr) a ni chafodd y wefan ei brofi yn ddigon da yn y lle cynta. 6 wythnos ar ôl lansio fasen i’n disgwyl iddyn nhw fod wedi cywiro y problemau sylfaenol o leia. Mae’n amlwg nad yw hi’n hawdd gwneud hyn oherwydd safonau isel y wefan i gychwyn.

Ni fyddai cwmni Golwg Newydd yn honni arbenigedd mewn adeiladu gwefannau, ond roedd gan TV Everywhere brofiad o redeg a datblygu cynlluniau o’r math hwn ac mae gan Tinopolis Interactive adran gref yn arbenigo yn y maes. Mae’r ddau gwmni hyn, y mae gan Golwg gytundeb â nhw, yn gwmnïau Cymreig.

Yn sicr mae Tinopolis wedi datblygu rhai gwefannau yn y gorffennol ond nid dyna eu cymhwyster craidd. Mae yna nifer o gwmnïau bach yng Nghymru sydd yn llawer mwy adnabyddus am adeiladu gwefannau, gyda llond llaw yng Nghymru yn cyflogi rhwng 15-40 o staff ers bron i bymtheg mlynedd. Mae TV Everywhere yn gwmni un-dyn sydd yn arbenigo mewn rhoi fideo ar y we ond ’sdim golwg o bortffolio ehangach o ddatblygu gwefannau aml-bwrpas.

Yn ôl cyfarwyddwr TV Everywhere, Iolo Jones, doedd gan Tinopolis ddim yr amser ac adnoddau i adeiladu’r wefan a felly fe ddaeth ei gwmni e i’r adwy drwy all-ffynonnellu’r gwaith i gwmni o India. Nid oedd gan TV Everywhere unrhyw rôl wrth ddatblygu’r wefan felly – heblaw “rheoli’r prosiect”. Fe dalwyd £8,400 am y gwaith yma ond nid arian cyhoeddus a ddefnyddiwyd yn ôl Mr Jones.

Mae datblygwyr yn India yn gallu gweithio am gost o tua $5-20 yr awr (wnawn ni fod yn geidwadol a dweud $15). Mae cost datblygwyr ym Mhrydain yn gallu amrywio cryn dipyn yn dibynnu ar faint a phrofiad y cwmni. Mi fyddai $75 yr awr yn gyfradd dda iawn os oeddech chi am gael gwaith safonol gyda rhywfaint o ddisgownt ‘noddiant’. Felly i gwmni yn ynysoedd Prydain mi fyddai’r cyllid ar gyfer y gwaith o leia 5 gwaith yn fwy – £40,000+

Mae £8,400 yn swnio fel bargen felly? Yn sicr mi fyddai’n fargen os oedd y wefan o safon uchel ac yn gyfatebol i’r gwaith allai fod wedi ei wneud gan gwmni Cymreig. Mewn ffordd – fyddai neb ddim callach a fyddai gan neb unrhyw reswm i ymchwilio i pwy adeiladodd y wefan.

Fe fydd y wefan yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ac mae darpariaeth ar gyfer gwasanaeth RSS, er bod Golwg Newydd hefyd yn gorfod ystyried yr agweddau masnachol sy’n rhan bwysig o gynllun busnes y cwmni. O ran dylunio, fe effeithiodd y problemau technegol ar y diwyg cychwynnol ond y mae gwelliannau wedi digwydd ers y lansio, a rhagor i ddod.

Mae ganddyn nhw gynllun busnes? Sut mae darparu RSS yn effeithio ar yr agwedd masnachol? Mae’r gwasanaeth RSS/Twitter gan Golwg Arall wedi profi’n llwyddiannus a ffordd effeithiol o hyrwyddo’r wefan (er fod pawb wedi syrffedu â’r problemau technegol parhaol). Mae’r ffaith fod y diwyg yn cael ei ‘wella’ wrth fynd yn ei flaen yn dangos nad oedd datblygiad y wefan yn un cadarn a safonol o’r dechrau a felly fe wastraffwyd yr arian wrth ddatblygu’r wefan.

Fe nododd y cwmni’n glir yn y lansio mai cyfnod prawf fyddai’r cyfnod cychwynnol ac y byddent yn falch o dderbyn sylwadau gan ddefnyddwyr. Yn anffodus, fe amharodd y problemau technegol ar y cyfnod prawf hwnnw, ond mae’n dechrau digwydd o ddifri nawr.

Oedden nhw ddim o ddifri i ddechrau? Mae’n edrych i fi fel petai pawb yn trio gwadu fod unrhyw gamgymeriadau mawr wedi’u gwneud o gwbl (stori debyg i’r aelodau seneddol a’u treuliau). Unwaith i’r Gweinidog dderbyn yr ‘adroddiad‘ gan y Cyngor Llyfrau ar y mater yma, gobeithio fe fydd rhywun yn cymeryd y cyfrifoldeb a phenderfynu ail-ddatblygu’r wefan o’r cychwyn gyda chynllun cadarn a chyllid addas.

Mi fyddai’n benderfyniad dewr ond yn un gwbl angenrheidiol os yw Golwg 360 am fod yn wefan newyddion llwyddiannus yn y tymor hir.

Sgriniau’r Senedd

Es i am dro o gwmpas adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd cwpl o wythnosau yn ôl, lle tawel iawn ar y pryd, er fod tipyn o waith atgyweirio yn mynd ymlaen ar yr adeilad sydd ddim ond yn 18 mis oed. Mi fase chi’n meddwl hefyd bod modd glanhau staens coffi oddi ar y soffas lledr drud.

Ond fel gîc be o’n i eisiau drafod oedd y mannau gwybodaeth ‘rhyngweithiol’ sydd o gwmpas yr adeilad. Mae’r sgriniau yn sefyll fel monolithiau gwyn ar ochr y Neuadd a’r Oriel (mae o leia 8 ac efallai mwy). Dwi wedi gweithio ar fannau gwybodaeth (neu ciosg) o’r math yma yn ystod y flwyddyn ddiwetha, felly mae gen i rhyw ddealltwriaeth o beth sy’n bosib ei wneud gyda’r dechnoleg. Mae’r rhan fwyaf o giosgs yn gweithio drwy gyffwrdd y sgrîn, i arbed cael llygoden, ac yn aml mae bysellfwrdd syml. Sgrîn yn unig (wel dau i ddweud y gwir) sydd yn rhai’r Cynulliad.

I ddechrau does dim byd arnyn nhw i ddweud fod hi’n bosib eu defnyddio i gael gwybodaeth a fod rhaid cyffwrdd y sgrîn i wneud hynny. Fe bwyses i sgrîn cwpl ohonyn nhw a wnaeth ddim byd ddigwydd, felly o’n i’n meddwl i ddechrau nad oedden nhw’n sgrîniau cyffwrdd. Dwi’n amau fod y ddau beiriant yna wedi ‘rhewi’, er mai peth syml mewn ciosg da yw gwneud yn siwr fod peiriant yn ail-ddechrau os yw’r system yn cloi lan.

Ar ôl dod o hyd i beiriant oedd yn gweithio, roedd tudalen ar y sgrîn yn barod. Hynny yw, er fod neb o gwmpas a fod y sgrîn wedi bod yn segur am beth amser, doedd y system ddim wedi dychwelyd i dudalen flaen a fyddai’n gallu rhoi cyflwyniad i ddefnyddwyr newydd, ynghyd a dewis iaith.

Wedi dechrau defnyddio’r man gwybodaeth fe sylweddolais yn gyflym iawn mai dim ond un pwrpas oedd ganddo, sef dangos lle roedd pob aelod yn eistedd yn y siambr (er, roedd e’n dal i ddangos hen aelodau’r Cynulliad o etholiad 2003). Does dim byd am gefndir yr adeilad a’r gwaith adeiladu na’r sefydliad eu hunan.

Ar gyfer defnydd arferol mae ciosg o’r fath yn defnyddio technolegau safonol fel PC yn rhedeg Windows a porwr gwe sy’n dangos gwefan yn dod o weinydd mewnol (neu o’r rhyngrwyd o bosib). Er bod angen cynllunio’n ofalus i wneud yn siwr fod y testun i’w weld yn glir ar faint penodol y sgrîn, dyw e ddim yn rhywbeth hynod o gymleth i’w adeiladu. Dim rheswm felly pam na allai’r sgrîn gael dolen drwy i wefan y Cynulliad (mae nhw wedi talu digon amdani).

Dwi’n dal i ddisgwyl am wybodaeth gan y Cynulliad am faint wariwyd ar y system yma ac os oes unrhyw fwriad ei ddefnyddio mewn dull mwy effeithiol.

Arfbais afiach

O dan y ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mae’n bosib gofyn am ddogfennau gael ei ryddhau gan yr Archifau Genedlaethol. Dyma ddarn bach diddorol o gofnodion cabinet (Ceidwadol) ym mis Chwefror 1953 o dan Churchill.

Mae’r cofnod yn trafod cynnig i ychwanegu at arfbais swyddogol Cymru, oedd wedi ei ddefnyddio ers 150 mlynedd. Mae barn Churchill (nid ffrind gorau Cymru) yn amlwg – “Odious design expressing nothing but spite, malice, ill-will and monstrosity.”. Cofnodir sylw gan Ll.G. (ie Lloyd George yw hwn, ond Gwilym Lloyd George, mab y cyn brif-weinidog, oedd wedi gadael y blaid Ryddfrydol a symud tuag at y blaid Geidwadol), lle mae’n nodi, yn deg – “We get no recognition in Union – badge or flags“.

Arfbais y Ddraig Goch

Dyw’r cofnodion ddim yn hynod o fanwl ond fis yn ddiweddarach, fe gyhoeddodd y Frenhines y byddai’r geiriau “Y Ddraig Goch Ddyry Cychwyn” yn cael ei ychwanegu i’r arfbais. Er mai baner y Ddraig Goch a ddefnyddiwyd ers 1959 fe barhaodd yr arfbais fel symbol swyddogol y Swyddfa Gymreig o 1964 hyd at sefydlu’r Cynulliad yn 1997.

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.