daflog » Fideo

Oes y Cyfrifiaduron
Roedd Ffenestri yn fand synthpop Cymraeg ar ddechrau’r 80au. Aelodau’r band oedd Geraint James a Martyn Geraint (a ddaeth yn enwog wedyn fel diddanwr a cyflwynydd rhaglenni plant). Fe wnes i brynu eu albwm Tymhorau yn 1986 neu 87 a’i chwarae drosodd a throsodd.

Mae’r albwm yn cynnwys cân ‘Oes y Cyfrifiaduron’ wnaeth argraff arna’i ar y pryd mae dal yn ffefryn. Fe es i ati i wneud fideo ar gyfer y gân. Roeddwn am ddefnyddio fideo a lluniau dan drwydded Creative Commons ond roedd e’n gythreulig o anodd i ganfod deunydd addas, yn enwedig o wledydd Prydain. Dyna pam mae’r rhan fwyaf o’r deunydd yn tarddu o America.

Rwy’ am drafod y gân nes ymlaen ond dyma’r fideo i ddechrau (cliciwch y botwm sgrîn llawn i gael fersiwn HD).

Ar yr olwg gynta mae’n gân ysgafn am fyw yn oes y cyfrifiaduron. Mae’r geiriau ar y llaw arall yn sôn am fyd lle mae ‘cyfrifiaduron’ yn rheoli bywyd a dwyn swyddi. Cafodd y gân ei sgrifennu ynghanol diweithdra mawr yr 80au – “Y’ni eisiau’n gwaith yn ôl, mae’n ddiflas ar y dôl”. Oedd yna fai ar gyfrifiaduron?

Yng Nghymru, fe gollwyd y rhan fwyaf o’r swyddi yn y diwydiant glo a gweithgynhyrchu. Roedd y diwydiant electroneg a chyfrifiaduron yn un o’r meysydd prin lle roedd swyddi yn cael eu creu. Fe wnaeth y cwmni AB Electronics o Abercynon gynhyrchu nifer o gyfrifiaduron cynnar fel mae Amgueddfa Cymru yn esbonio.

Efallai roedd pethau’n edrych yn ddu yn nirwasgiad yr 80au ond roedd y math o broffwydo ar Tomorrow’s World yn eitha pell ohoni. Roedd yna deimlad y byddai cyfrifiaduron a’r robotiaid yn gwneud popeth drosto ni a fydde ni’n rhydd i fyw bywyd o hamdden mewn dinasoedd glan modern. Yn sicr mae robotiaid wedi disodli nifer o swyddi diflas mewn ffatrïoedd. Mae’n bosib dadlau hefyd mai gwarchod swyddi mae nhw’n wneud drwy wneud cynhyrchu nwyddau yn fwy effeithiol a felly’n gwneud hi’n bosib i gadw cwmnïau cynhyrchu mewn gwledydd fel Cymru lle mae cyflogau yn gymharol uchel.

Erbyn hyn dwi’n meddwl fod cyfrifiaduron wedi creu mwy o waith mewn meysydd cwbl newydd tra’n lleihau’r baich o weinyddu mewn meysydd eraill. Hyd at y 90au cynnar roedd swyddfeydd mawr yn arfer cyflogi stafelloedd llawn o bobl (menywod i fod yn gywir) oedd a’r gwaith penodol o deipio dogfennau a llythyrau. Doedden nhw ddim mwy na cyfrifiaduron dynol gyda gwirydd sillafu a geiriadur. Erbyn hyn mae pawb yn teipio – yn paratoi dogfennau a delio gyda’u gohebiaeth eu hunain, a hynny ar gyfrifiadur.

Doedd y swydd dwi’n wneud nawr ddim yn bodoli yn 1985. Roedd yna swyddi tebyg ar gael wrth gwrs mewn banciau, cwmni cyfrifydd neu yswiriant. Yr unig le arall fase swydd tebyg oedd mewn prifysgolion lle roedd sylfaen y dechnoleg dwi’n ddefnyddio nawr yn cael ei ddyfeisio a’i ddatblygu.

Felly ydi’r cyfrifiaduron wedi cymryd ein swyddi neu ydyn nhw wedi creu byd lle mae’n bosib creu swyddi gwbl newydd? Mae’n gân bop gwych ond hir oes i’r cyfrifiaduron.

Yr Uwchdraffordd Wybodaeth
Nôl yn y 90au, roedd y rhyngrwyd a’r we wedi dod yn gyfarwydd iawn yn y byd academaidd. Roedd tipyn o ffordd i fynd er mwyn argyhoeddi’r cyhoedd am y chwyldro. Yn 1994, roedd rhaglenni fel ‘The Net’ ar BBC 2 yn cyflwyno’r dechnoleg newydd i’r gwylwyr.

Yng Nghymru fe ddangoswyd cyfres o dri rhaglen o’r enw ‘Cyber Wales’ ar BBC Wales yn 1995. Dyma glip o ddechrau’r rhaglen sy’n cael ei gyflwyno gan Gareth Jones.

Roedd y llywodraeth yng Nghymru, yn bennaf drwy’r WDA, yn ceisio codi ymwybyddiaeth hefyd. Roedd y dechnoleg yn cael eu gyflwyno mewn llefydd fel y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod. Tua’r un adeg yn 1995, roedd arddangosfa (yng Nghaerdydd neu Gasnewydd?) i bobl gael gweld nid yn unig dechnolegau’r rhyngrwyd ond datblygiadau eraill fel ‘fideo ar alw’. Yn y clip nesa,  mae Gareth Jones yn siarad ar Heno am y dechnoleg newydd.

Maureen Rhys
Mae John Ogwen yn cael dipyn o sylw dyddiau ‘ma ond rhaid peidio anghofio ei wraig hyfryd, Maureen Rhys. Dyma gyfweliad â hi ar Wedi 7 ym mis Rhagfyr 2006.

Hen hysbyseb
Dyma hen hysbyseb o bapur newydd. Oes rhywun eisiau dyfalu o le ddaeth hwn? Mi wnai ddatgelu fory rhywbryd a mae cysylltiad rhwng hwn a’r cofnod cynt ynglŷn a phapurau newydd.

Mae’r hysbyseb yn fy atgoffa fi o hwn (John Bwts a’i acen cocni gorau).

Caerdydd mewn dwy funud
Fideo gan John F. O’Sullivan

Aduniad ar y paith
Fe wnaeth perthynas i mi fynd allan i Batagonia yn 2006 a chymeryd dyddiadur fideo o’r trip. Yn ystod ymweliad a’r ysgol Gymraeg yn Nhrelew, fe wnaeth hi weithdy dawns gyda’r plant. Roedd hi’n defnyddio CD o ganeuon Cymraeg addas yn cynnwys Aduniad gan Lo-Cut a Sleifar. Roedd yn rhaid i fi wneud rhywbeth gyda hyn… felly gwyliwch y fideo yma.

Achub Mynydd
Dwi wedi esgeuluso’r blog ychydig dros yr wythnosau diwetha yn bennaf oherwydd prysurdeb gwaith ac oherwydd fod y Twitter ddieflig yn tynnu ychydig o’r sylw.

Mae gen i gasgliad o glipiau sain/fideo yr hoffwn i wneud rhywbeth gyda nhw ond byth yn cael yr amser. Fel arbrawf bach felly dyma ychydig o nonsens wnes i roi at ei gilydd heddiw:

<object width="640" height="385"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/TUkcLwgGYo0&hl=en_GB&fs=1&"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/TUkcLwgGYo0&hl=en_GB&fs=1&" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="640" height="385"></embed></object>

Fideo 9.0
Dwi wedi bod yn casglu gwybodaeth am fideos Cymraeg ar YouTube ers tipyn ac eisiau gwneud rhywbeth gyda nhw yn defnyddio API YouTube. Dwi am esbonio sut wnes i hyn isod ond os ydych chi yn ddi-amynedd neu ddim eisiau gwybod y manylion technegol, ewch draw i wylio’r fideos.

Y bwriad oedd creu ‘jiwcbocs’ o fideos fyddai’n chwarae’n ddi-dor. Mae yna lawer o fideos gan fandiau Cymraeg ar YouTube – rhai wedi eu cymeryd o fideos ‘swyddogol’ a wnaed ar gyfer rhaglenni teledu fel Fideo 9, Y Bocs, Syth a Bandit. Mae eraill yn fideos amatur o gigs neu rhai wedi eu creu gan y defnyddwyr. Dwi wedi dewis defnyddio y fideos swyddogol wnaed ar gyfer y teledu (sy’n cynnwys perfformiadau byw mewn stiwdio) am mai rheina ar y cyfan sydd o’r ansawdd orau ac yn ddiddorol i’w gwylio.

Wnes i ddarganfod cod JavaScript ar y we gan rhywun oedd wedi sgrifennu sgript i ddangos ‘playlist’ o fideos a defnyddiais hwnnw fel sail. Roedd y sgript yn defnyddio rhestr o fideos wedi ei cofnodi yn y cod eu hunan, ond roeddwn i eisiau rhywbeth oedd yn gofyn i’r gweinydd am fideo newydd ar hap. Roedd angen tipyn o newidiadau felly i ychwanegu galwad i’r gweinydd drwy Ajax. Wedyn wnes i sgrifennu ychydig o god PHP ar y gweinydd er mwyn rheoli pa fideos oedd yn cael eu chwarae.

Unwaith mae fideo yn gorffen chwarae, mae’r cod yn danfon yr hen ID i’r gweinydd er mwyn cofnodi sawl gwaith mae’r fideo wedi ei ddangos. A mae’n danfon ID newydd yn ôl (wedi ei ddewis ar hap ond ddim yr un ID ac o’r blaen). Mae gwybodaeth am y gân yn cael ei ddanfon hefyd er mwyn dangos yn yr adran ‘Yn Chwarae’.

I orffen, wnes i adeiladu ffurflen bach syml er mwyn derbyn cynigion am fideos newydd – mae’r ffurflen yn chwilio os yw’r fideo ar gael yn barod. Ac yn olaf – enw. Dewisiais i ‘Fideo 9.0‘ mewn teyrnged i’r gyfres arloesol Fideo 9 (lle daw llawer o’r fideos ar y rhestr).

Dwi wedi treulio tua 3 noson ar adeiladu y system mor belled felly beth allwn i wella ac ychwanegu?

Gwneud y fideos i chwarae gefn wrth gefn yn fwy llyfn (ond dwi’n credu mai cyfyngiad gyda’r ffordd mae YouTube yn gweithio yw hyn)

Dangos jingl neu hysbyseb bob 30 munud

Cadw cofnod o’r fideos sydd wedi eu gwylio fel nad yw cân yn cael ei ail-ddangos o fewn yr un sesiwn

Creu tudalen sy’n rhestru’r caneuon sydd ar gael yn y gronfa ddata, i’w wneud yn haws i bobl gynnig fideos newydd

Cyfyngu y rhestr chwarae i ganeuon o gyfnodau arbennig (80au, 90au, 00au) neu math o berfformiad (fideo ar ffilm, gig byw, fideo amatur)

Rhoi mwy o wybodaeth am ffynhonnell y fideo. Dwi’n cofnodi peth o hwn yn barod, ond dyw pob fideo ar YouTube ddim yn rhoi’r wybodaeth

Mae llawer o’r fideos wedi eu recordio o’r darllediad teledu ac yn cynnwys cyflwyniadau o’r rhaglen neu ddarnau o’r gân flaenorol neu’r un dilynol. Er fod hyn yn ddiddorol yng nghyd-destun hanesyddol, dwi eisiau dechrau/gorffen y fideo yn y man cywir. Dwi wedi ceisio gwneud hyn yn barod ond fe fydd angen gwella’r dechneg.

Ar hyn o bryd mae 76 o draciau yn y gronfa sydd yn 5 neu 6 awr o gerddoriaeth. Mi fasen i’n falch o gael ymateb, cwestiynau neu unrhyw welliannau.

Isdeitlo
Mae’r comedïwr Rhod Gilbert yn gallu bod yn eitha doniol er mod i ddim yn hoff iawn o’i arddull stand-up.

Dyma glip o rhaglen beilot a wnaeth e ar gyfer BBC Three, sy’n nodedig yn bennaf am fod yr isdeitlau scymraeg wedi eu cyfieithu drwy ein hen ffrind InterTran. Ydi hyn yn ychwanegu at ‘ddoniolrwydd’ y sgets? Efallai.

<object width="425" height="344"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/bGlY1wDOUg8&hl=en_GB&fs=1&"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/bGlY1wDOUg8&hl=en_GB&fs=1&" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="425" height="344"></embed></object>

Nadolig Llawen
<object width="425" height="344"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/APgzky3RujA&hl=en_GB&fs=1&"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/APgzky3RujA&hl=en_GB&fs=1&" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="425" height="344"></embed></object>

Os ydych chi’n hoffi mootboxle, mae ganddo albym nadolig yn yr un dull i’w lwytho lawr am ddim.