Archif ar gyfer Categori 'Fideo'

3 gair bach

Tuesday, October 28, 2008 23:46

Dwi’n dal i garu Frankmusik. Dyma fideo o gân ar ei EP newydd ‘3 Little Words’ gyda ysbrydoliaeth ‘Mawr’. Pop perffaith gan ddiawl golygus.

Diwrnod y Glec fawr

Sunday, September 7, 2008 17:02

Dim ond 3 diwrnod sydd i fynd nes y bydd arbrawf yr LHC yn cychwyn yn CERN. Mi fydd yr arbrawf yn ail-greu y sefyllfa oedd yn bodoli ar ddechrau’r bydysawd (gyda ffracsiwn lleiaf o’r egni mae’n rhaid dweud).
Fydda’i ddim yn y gwaith y diwrnod hwnnw, felly dwi’n meddwl fydda’n dilyn y diwrnod gyda’r rhaglenni [...]

Rhywbeth Da ‘08

Friday, March 14, 2008 22:35

O’n i’n ffan mawr o’r Utah Saints yn y 90au a mae nhw wedi ail-ryddhau mics newydd o Something Good yn ddiweddar. Dwi’ ddim yn ffan mawr o’r mics newydd ond mae yna fideo difyr i fynd gyda’r trac.
‘Sdim cysylltiad â Chymru fel y cyfryw (sori Wedi 7) dim ond fod cyfarwyddwr y fideo eisiau [...]

Cracyr ‘dolig

Thursday, December 20, 2007 18:25

Tua adeg yma’r flwyddyn dwi’n gwneud fideo nadolig i ddarllenwyr ffyddlon y blog. Eleni cawn olwg fach ar beryglon teledu byw.
Nadolig Llawen!

Voksenlia

Thursday, December 20, 2007 14:39

Dyma fideo treiglad amser hyfryd o Voksenlia yn Norwy. Yn hytrach na defnyddio camera gwe cyffredin mae nhw’n defnyddio camera digidol i gymeryd lluniau ansawdd uchel bob 25 eiliad. Dyma’r wefan lle allwch chi weld y lluniau a’r fideo diweddaraf a pori drwy’r archif luniau nôl i 2003.