daflog

Trafod ffuglen wyddonol

Mae Nic wedi penderfynu gadael i aelodau o glwb cefnogwyr maes-e i greu cylchoedd trafod ei hunain o fewn y maes, sydd yn beth handi achos weithiau mae angen mas critigol defnyddwyr y maes i gychwyn diddordeb cyn iddo esgor ar wefannau trafod arall.

Mae’r cylch cyntaf wedi ei greu gan SerenSiwenna ar gyfer ffuglen wyddonol.

Scotty

Trist clywed fod James Doohan, Scotty o Star Trek wedi ei ‘belydru fyny’ am y tro olaf ar ôl marw, yn 85 mlwydd oed.

Blaidd Drwg

Dwi wedi cerdded fyny Parc y Gamlas ym Mae Caerdydd bob dydd gwaith ers blynyddoedd ar y ffordd i’r, wel, gwaith. Ddydd Gwener wnes i fentro ychydig ymhellach fyny’r parc i gael ychydig o luniau o graffiti enwog a roddwyd yno ar gyfer Dr. Who. (Mae yna ddamcaniaeth fod y graffiti yno’n barod a mai Bad Wolf yw tag rhywun o’r ardal, ond dwi ddim yn gwybod os yw hyn yn wir).

Fe roedd y lleoliad o gwmpas Sgwâr Loudoun yn eitha pwysig i’r bennod olaf. Ie, dwi’n gwybod fod hyn yn drist, ond mae’r lluniau gymerais i ar flickr.

Fe ddaethant o’r blaned Mawrth…

Fe ges i fy hudoli gan stori HG Wells – “War of the Worlds” yn eitha ifanc ac yn enwedig o wrando ar gampwaith cerddorol Jeff Wayne. Nawr wrth gwrs mae’r heip y ffilm newydd yn ei anterth. Does gen i ddim llawer o ysfa i weld y ffilm, ond mi fydd yn rhaid ei weld rhywbryd.

Mae gen i fwy o ddiddordeb mewn prynu’r set newydd o 6 CD a DVD yn cynnwys y recordiad gwreiddiol gyda llais arbennig Richard Burton.

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.