Archif ar gyfer Categori 'Y We'

Voksenlia

Thursday, December 20, 2007 14:39

Dyma fideo treiglad amser hyfryd o Voksenlia yn Norwy. Yn hytrach na defnyddio camera gwe cyffredin mae nhw’n defnyddio camera digidol i gymeryd lluniau ansawdd uchel bob 25 eiliad. Dyma’r wefan lle allwch chi weld y lluniau a’r fideo diweddaraf a pori drwy’r archif luniau nôl i 2003.

Dwli daearyddol

Friday, December 7, 2007 14:06

Dyma fapiau cartwnaidd o’r 19eg ganrif yn portreadu gwledydd fel personoliaethau ystrydebol - Cymru fel ‘Owen Glendowr’.

Stori’r Byd

Tuesday, December 4, 2007 14:20

Mae’r Cymry yn hoff iawn o siarad, o bwyllgora, ac o beidio mentro gyda unrhywbeth heblaw fod rhyw grant ar gael. Dyma saga trist Y Byd:

Tachwedd 2001 - Ymchwil ar sefydlu papur dyddiol Cymraeg
Ebrill 2002 - Papur dyddiol Cymraeg yn bosibilrwydd
Rhagfyr 2002 - Sefydlu Dyddiol Cyf i ddechrau codi arian
Ionawr 2004 - Papur dyddiol ‘mewn [...]

Gŵyl y Gaeaf Caerdydd 2007

Wednesday, November 14, 2007 18:14

Dwi newydd greu tudalen ar gyfer gwe-gamera sy’n edrych allan ar ganolfan ddinesig Caerdydd. Mae’r olwyn fawr yn rhan o atyniadau Gŵyl y Gaeaf yng Nghaerdydd fydd yn agor fory. Mae’r llun yn adnewyddu bob munud yn otomatig, ond mi fydd yr olygfa yn well ar ôl 7 o’r gloch pan fydd goleuadau’r swyddfa yn [...]

Dwdl i Gwgl

Monday, November 12, 2007 20:41

Yn ôl Wedi 7, mae merch o Gymru wedi cyrraedd 48 olaf cystadleuaeth arlunio Google i blant ysgol. Mae’n werth nodi fod ennillwyr yn cael eu dewis ymhob rhanbarth felly mae plentyn o Gymru ym mhob categori oedran. Fe allwch chi bleidleisio hefyd dros Gwyn Owen o fy hen ysgol sydd wedi ennill rhanbarth Cymru [...]