Methiant Arriva

Mae Trenau Arriva Cymru wedi lansio gwefan newydd o’r diwedd, dwy flynedd ar ôl apwyntio cwmni i ail-ddatblygu’r wefan. Mae yna lawer o bethau allwn i ddweud am ddyluniad y wefan newydd ond wna’i ddim, dim ond i ddweud nad yw’n edrych fel gwaith dwy flynedd.

Dwi wedi gweithio ar ddatblygiad gwefannau i gwmnïau trên ers degawd nawr a felly mae gen i beth profiad a diddordeb yn y maes. Fe wnaethon ni ddatblygu tri gwefan i gwmni ‘Wales and Borders’ yn 2002 (mewn llai na dwy fis fel mae’n digwydd!), gwefannau cafodd eu llyncu wedyn i fewn i gwmni Arriva yn 2005, pan wnaethon nhw – yn eu doethineb – apwyntio asiantaeth o Lundain i ail-ddatblygu’r wefan – dyma’r fersiwn oedd yn bodoli o 2006 hyd heddiw. Dwi’n dal i weithio ar wefannau i rai o’r cwmnïau trenau mawr yn Lloegr. Mae ganddyn nhw fwy o arian yn sicr, ond mae yna hefyd ymdrech galed i wneud ei gwefannau yn ddefnyddiol ac o safon uchel.

Mae cwynion wedi bod dros y blynyddoedd am ddiffyg darpariaeth Gymraeg ar wefan Trenau Arriva, yn bennaf yr adrannau sy’n defnyddio neu dderbyn gwybodaeth oddi wrth systemau craidd y system rheilffordd ym Mhrydain (adran wybodaeth National Rail sy’n cyflenwi rhestr o orsafoedd, amserlenni ac ati).

Does dim dwywaith amdani – mae hi’n her anferth i gyfuno’r holl systemau hyn mewn i un gwefan – dyna sy’n cymeryd rhan fwyaf o’n amser ni, a dim ond mewn un iaith mae hynny. Er hyn, does dim ymdrech o gwbl wedi bod gan Arriva i geisio datrys hyn dros 9 mlynedd. Mae tudalen yn nodi Polisi Dwyieithog y cwmni yn nodi pa wasanaethau sydd ddim ar gael yn Gymraeg:

Nid yw’r gwasanaethau canlynol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg:

Gwasanaeth Prynu Tocynnau Ar-lein
Journey Check – gwasanaeth gwybodaeth fyw
Rainbow Boards – gwasanaeth gwybodaeth fyw
Cyfrifiannell Tocyn Tymor
Argraffu Amserlen Personol
Gwaith Peirianyddol
Bwrdd Ymadawiadau/Cyraeddiadau
Chwilio am Orsaf

Mae hyn yn gyfaddefiad reit warthus. Os ewch chi i adran ‘wybodaeth fyw’ y wefan, does dim hyd yn oed ymdrech i gyfieithu tudalennau fel Bwrdd Ymadawiadau. Hyd yn oed yn waeth, ar dudalennau Gwaith Peirianyddol a Newid Gwasanaethau, does dim gwybodaeth o gwbl na dim yn eich cyfeirio at y fersiwn Saesneg lle mae’r wybodaeth i’w weld.

Mae’n wir i ddweud fod yr holl wybodaeth ‘fyw’ yn cael ei gyflenwi gan un cwmni canolog sydd ddim yn gallu darparu testun Cymraeg. Er fod angen ateb tymor hir i hynny, mae yna rhai ffyrdd o gwmpas y broblem hyn hefyd.

Ar ein fersiwn dwyieithog o’r wefan yn 2002, fe wnaethon ni ymdrech i gyfieithu peth o’r wybodaeth. Er enghraifft, mae’n hawdd iawn i god y wefan amnewid testun o’r ffynhonnell; pethau fel ‘Good Service’, ‘Expected Departure’, ‘To’, ‘From’ ac yn y blaen. Mae’n hawdd cyfieithu enwau y gorsafoedd hefyd. Ymgais fach oedd hyn i weithio o gwmpas y system a roedd ymhell o fod yn foddhaol.

Mae gan Arriva ‘esgusion’ dros beidio cyflenwi peth o’r wybodaeth ar ei gwefan. Does ganddyn nhw ddim esgus o gwbl am rhai adrannau. Mae’r gwasanaeth archebu tocynnau yn cael eu gyflenwi gan the ‘thetrainline’ – does dim rheswm pam na allai Arriva fod wedi comisiynu’r cwmni i ymestyn ei systemau i gynnig fersiwn Cymraeg.

Mae’r gwasanaeth ‘argraffu amserlen’ yn cael ei gyflenwi gan gwmni Hafas o’r Almaen (mae’n system amlieithog yn barod, ond ddim Cymraeg). Mae’r cwmni hefyd yn cyflenwi amserlennau trên ar draws Ewrop (yn cynnwys gwledydd Prydain) ac yn gallu cynnig hynny mewn nifer o ieithoedd. Pam felly nad yw Arriva, sy’n rhan o gwmni Almaenig arall – Deutsche Bahn – yn gallu defnyddio’r dechnoleg sydd ar gael iddyn nhw?

Yr Uwchdraffordd Wybodaeth

Nôl yn y 90au, roedd y rhyngrwyd a’r we wedi dod yn gyfarwydd iawn yn y byd academaidd. Roedd tipyn o ffordd i fynd er mwyn argyhoeddi’r cyhoedd am y chwyldro. Yn 1994, roedd rhaglenni fel ‘The Net’ ar BBC 2 yn cyflwyno’r dechnoleg newydd i’r gwylwyr.

Yng Nghymru fe ddangoswyd cyfres o dri rhaglen o’r enw ‘Cyber Wales’ ar BBC Wales yn 1995. Dyma glip o ddechrau’r rhaglen sy’n cael ei gyflwyno gan Gareth Jones.

Roedd y llywodraeth yng Nghymru, yn bennaf drwy’r WDA, yn ceisio codi ymwybyddiaeth hefyd. Roedd y dechnoleg yn cael eu gyflwyno mewn llefydd fel y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod. Tua’r un adeg yn 1995, roedd arddangosfa (yng Nghaerdydd neu Gasnewydd?) i bobl gael gweld nid yn unig dechnolegau’r rhyngrwyd ond datblygiadau eraill fel ‘fideo ar alw’. Yn y clip nesa, mae Gareth Jones yn siarad ar Heno am y dechnoleg newydd.

Cofio… 1995

Dwi wedi bod yn sganio hen doriadau papur newydd o gyfnod cynnar iawn y Rhyngrwyd. Mae’r storiau eu hunain yn ddigon diddorol ond mae’n ddifyr gweld sut roedd papurau newydd yn adrodd ar y cyfrwng newydd. Yn wahanol i’r disgwyl mae’r Cymro yn well na’r gweddill oherwydd dealltwriaeth eu gohebydd Dilwyn Roberts-Young (er does gen i ddim enghreifftiau o’r Cymro yn 1995).

Mae’n bosib fyddai’n darganfod mwy i’w sganio cyn bo hir ond fel cofnod, dyma’r set o luniau ar Flickr.

Stwnsho

Ddylwn i ddim synnu bellach am y fath o bethau rhyfedd mae pobl yn trafod ar y we, ond mae hwn yn newydd i fi.

Mae yna wefan ar gyfer pobl gyda fetish rhyfedd iawn sef gwylio pobl yn cael eu gungeio neu stwnsho. Diolch am Stwnsh Sadwrn ar S4C felly! Mae yna hefyd sianel fideo ar YouTube sydd a chlipiau o Stwnsh.

Dyma Tara Bethan yn ei chael hi:

Gwefannau ‘Cymraeg’

Dyma restr o wefannau Cymraeg i chi.

Cymraeg Vending – cwmni o’r Bari sy’n cyflenwi peiriannau gwerthu. Fe gafodd y wefan ei gynllunio yn y flwyddyn 2000 ond mae’n anodd iawn dweud.

Cariad Cymraeg – mi fase’n ddiddorol gwybod beth sydd i fod yma ond dyw’r perchennog ddim wedi gosod y wefan yn llawn eto.

Cymraeg Crystal – dyma rywun arall sydd ddim yn gwybod sut i gyfieithu ‘Welsh’ i olygu’r wlad nid yr iaith.

Mae Ci Cymraeg yn mynd i dudalen ymgyrch adnabyddus Bwrdd yr Iaith ond mae Cymraeg Ci yn mynd i wefan am gorgwn. Aww!

Cymraeg Clir – nid oes Cymraeg ar y dudalen hon, mae e’n glir.

A dyna ddigon o hynny am nawr..