Dim Cwsg Tan Cwrlwys

Dwi’n mwynhau gwylio y gyfres Your Channel ar Aitsh Ti Fi Cymru Wêls ITV1 Wales sy’n edrych nôl ar 50 mlynedd o ddarlledu annibynnol yng Nghymru. Roedd y sioe ddiwethaf yn edrych ar ‘oes aur’ y sianel yn yr 80au pan roedd digon o arian ar gael i’r darlledwr (neu o leia’ roedd e’n oes aur i mi, gan fy mod i’n blentyn ar y pryd).

Mae digon o glipiau difyr wedi ymddangos yn y rhaglenni yn cynnwys nifer o raglenni Cymraeg HTV. Os ydych chi eisiau gweld rhaglenni llawn o’r gorffennol mae nifer ohonyn nhw ar wefan ITV Lleol Cymru.

Yr un gorau o’n rhan i yw Miri Mawr! Synnwch wrth weld Geraint Jarman yn blaco lan mewn perfformiad hynod wleidyddol anghywir o ddyn indiaidd. Syfrdanwch gyda’r dechnoleg chwyldroadol chroma-key. Ac wrth gwrs mae Calimero. Y gwesteion yn yr ogof yw Margaret Pritchard (lawr, fechgyn) a Huw Jones (a’i wallt). Gwych.

Ewch i adran 1973-79 – Miri Mawr yw’r olaf ar y rhestr a mae’n werth gwylio Ar y Lein hefyd.

Sefyllfa comedi

Fe soniais i o’r blaen am archif rhaglenni’r BBC, a dwi’n falch gweld fod rhaglen Gymraeg arall wedi ei ychwanegu, sef pennod eisteddfodol o Fo a Fe o’r 1970au.

Dwi’n gwybod fod y 70au yn ‘oes aur’ i comedi sefyllfa – dim ond tri sianel deledu oedd ar gael a roedd teledu, fel dull o adloniant, ar ei anterth. Ond rhaid gofyn y cwestiwn – os oedd mawrion fel Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones wedi gweld potensial y teledu i greu adloniant poblogaidd yn Gymraeg pam nad oes ganddon ni bobl tebyg yn gwneud yr un peth heddiw? Roedd cael actorion gwych fel Ryan Davies yn help mawr wrth gwrs – fe fyddai ei gymeriad ‘Twm Twm’ a’i fratiaith hyfryd yn rhoi harten i ‘amddiffynwyr’ safonau iaith heddiw.

Mae comedi sefyllfa wedi dod yn boblogaidd (ac safonol) unwaith eto yn saesneg a mae hyd yn oed cymdeithas Gymreig yn cael eu adlewyrchu ar gomediau fel Gavin a Stacey a rhaglenni Rob Brydon.

Felly lle mae’r comediau Cymraeg wedi mynd? Allwn ni ddim dibynnu ar ail-ddarllediadau o C’mon Midffild am byth. Oes yna hyd yn oed awduron fyddai’n gallu greu gomedi sefyllfa lwyddiannus a phoblogaidd heddiw? Neu fel fyddai Twm Twm yn dweud “os na rw’yn lan i’r job?”

Archif rhaglenni’r BBC

Dwi wedi bod yn cymryd rhan yng nghyfnod prawf Archif y BBC, lle mae’n bosib gwylio rhaglenni o archif helaeth y BBC. Cyfyng iawn yw’r dewis sydd ar gael, nid yn unig oherwydd y gwaith o drosglwyddo’r rhaglenni i fformat ddigidol ond oherwydd y broblem o glirio hawliau. Mae fwy o bwyslais ar rhaglenni dogfen a newyddion oherwydd hynny ond mae esiamplau o bob math o raglenni teledu a radio o’r 1930au hyd heddiw.

Mae’r rhaglenni teledu yn ymddangos mewn sgwâr maint 320×240 picsel (fel Youtube) felly er fod hi’n ffordd ddifyr o gael cipolwg ar hen rhaglenni, nid yw mor addas ar gyfer profiad gwylio ‘trymach’ fel dramau. Nid dyna bwriad yr archif wrth gwrs ond mae’n debyg y bydd yr archif yn ddefnyddiol i fesur ac ymchwilio i pa bynciau sy’n boblogaidd – a efallai creu cyfle i ail-ddarlledu y rhaglenni ar sianeli teledu arferol.

Ychydig iawn o ddeunydd Cymreig penodol sydd yno. Mae 6 rhaglen yng nghasgliad ‘Cymru’ (allan o 780 rhaglen yn yr archif) yn cynnwys cyngerdd Max Boyce o’r 70au a rhaglen Joan Bakewell o’r 80au yn trafod mewnfudo i Gymru. Mi wnes i ofyn am gynnyrch yn Gymraeg a mae nhw wedi ychwanegu un rhaglen, sef rhaglen ddogfen gan Ifor ap Glyn yn edrych ar hanes cerddoriaeth cyfoes Cymraeg. Fel mae’n digwydd, mae gen i’r rhaglen hwn ar dâp fideo, mewn gwell cyflwr na’r fideo ar lein.

Mi allwch chi helpu cael deunydd Cymraeg i’r archif drwy chwilio catalog enfawr y BBC a phleidleisio am raglenni. Beth am y rhaglenni addysg wnes i wylio yn yr 80au fel Hwnt ac Yma a Hyn o Fyd?

Neu rhaglenni plant fel Yr Awr Fawr a Bilidowcar?

Beth am bennod cynnar o Bobol y Cwm neu drama dditectif Bowen a’i Bartner?

Beth am Beti George ar Heddiw o 1976 neu cyfweliad o sioe siarad Hywel Gwynfryn?

Efallai rhywbeth o Radio Cymru fel sesiwn Datblygu o 1992 ar Heno Bydd Yr Adar yn Canu neu rhaglen o Pesda Roc 1984?

Dwi’n meddwl fod ni’n haeddu cael mwy na un rhaglen fach unig yn yr archif ac yn sicr yn rhywbeth cynharach na 1992 (os nad yw BBC Cymru wedi ailgylchu’r tapiau wrth gwrs).

Gyrru drwy y nôs…

…mae e mor gyffrous. Ydych chi wedi gweld yr hysbyseb reit greadigol gan Volkswagen sy’n defnyddio llais Richard Burton yn darllen pwt allan o Under Milk Wood? Mae yna wefan slic iawn hefyd, lle mae’n bosib chwilio am neu greu ‘deithiau’r nôs’ eich hunain.

Cerdyn Nadolig

Dyma gerdyn nadolig S4C eleni, sy’n gwneud defnydd dychmygus o setiau teledu fel addurniadau ar y goeden. 7 mlynedd yn ôl roeddwn i’n gweithio ar wefan hyrwyddo i S4C ar gyfer y Nadolig ac y ‘Mileniwm’ newydd. Dwi ddim yn gwybod faint welodd y wefan – ychydig iawn o bobl oedd ar y we bryd hynny, neu o leia felly oedd hi’n teimlo. Yn rhan o’r cynnwys roedd clipiau fideo gyda rhai gyflwynwyr y sianel yn dymuno Nadolig Llawen.

Dwi wedi ail-ddarganfod un o rhain, gyda Beca, Ffion a Heledd mewn arddull “babes ‘n guns” fel Charlie’s Angels. (mae yna out-take lled-adnabyddus o un o’r hysbysebion ffilmiwyd). Wnes i drio arbrofi ychydig drwy ail-gymysgu y clip fideo byr a ychwanegu trac cefndir. Mae’n ymgais braidd yn amrwd falle ond yn hwyl i’w wneud. Dyma’r unig neges Nadoligaidd cewch chi ar y blog yma (a does dim clychau’r nadolig ar y fideo)! Dyma’r merched felly: