Ansawdd lluniau S4C yn dirywio

Wythnos ddiwethaf fe wnaeth sianel S4C Digidol symud lleoliad ar wasanaeth Freeview. Yr esboniad technegol yw fod y sianel wedi symud o amlblecs masnachol ‘Mux A’ i amlblecs ‘Mux 2′ sydd ar gyfer sianeli PSB. Mae’n rhaid cario Mux1/2 ar bob trosglwyddydd yn cynnwys y ‘relays’ llai, ond does dim rheidrwydd i wneud hynny ar gyfer yr amlblecs masnachol.

Mae’r newid i weld yn beth da felly, gan ei fod yn cynyddu cyrhaeddiad y sianel i wylwyr ym mannau anghysbell Cymru. Yn anffodus mae S4C nawr yn rhannu lle gyda holl sianeli ITV a Channel 4, a mae’n ymddangos fod ganddo llai o ofod nag o’r blaen.

Canlyniad hyn yw fod ansawdd y llun wedi dirywio yn amlwg, gyda llun llawer mwy ‘meddal’ a mwy o ‘blocio’ gyda sgîl-effeithiau cywasgiad MPEG-2 yn digwydd yn aml.

Mae ansawdd yr unig sianel Gymraeg nawr yn ddim gwell na rhai o’r sianeli siopa neu sianeli “+1″. Felly dwi’n gweld S4C yn cael ei drin fel sianel israddol ar draul sianeli gweddol di-bwynt sydd ar yr un amlblecs fel Channel 4+1 neu ITV2/3/4.

Fe wnes i gwyno am hyn i Wifren Gwylwyr S4C a fe ges i ymateb prydlon gan aelod o adran beirianneg S4C. Mae ganddyn nhw bryderon hefyd ynglŷn a ansawdd y llun a fe fyddant yn “medru man-diwnio yr MPEG encoding dros y misoedd nesaf”. Mae’n wir ei fod yn bosib gwneud tipyn o welliannau drwy ddefnyddio caledwedd amgodi newydd a tiwnio y proffil ar cyfer cywasgu y lluniau i MPEG-2.

Yn anffodus, mae hyn yn esiampl o nodweddiadol o sut mae’r diwydiant darlledu yn datblygu yn sgîl technolegau digidol – mae pwysau ar bawb i wasgu fwy a fwy o sianeli i’r un gofod ar draul ansawdd. Er fod ‘Mux 2′ ar gyfer sianeli ‘darlledu cyhoeddus’, sianeli masnachol ydyn nhw gyd sydd yn dibynnu ar hysbysebion – pob un heblaw am S4C wrth gwrs. Mae lle i ddadlau y dylai S4C fod ar amlblecs y BBC ond mae’n siwr fod rhesymau technegol/gwleidyddol dros beidio gwneud hynny.

Mi fydd S4C HD yn lansio mis Mawrth nesaf ar Freeview (unwaith i Cymru gyfan newid i ddigidol) a mi fydd hynny yn cynnig llun o ansawdd uchel iawn unwaith eto. Dwi’n edrych ymlaen at hynny, ond wrth gwrs ni fydd S4C HD ar gael i bawb yng Nghymru ar Freeview a fe fydd angen prynu cyfarpar newydd (eto) i’w wylio.

Dwi’n gobeithio y bydd rhyw ffordd o wella lluniau S4C yn ôl i’r ansawdd gwreiddiol a wnai drio rhoi enghreifftiau ar y blog cyn bo hir i ddangos y newid.

S4C mewn manylder uwch

Dyw e ddim yn syrpreis mawr, ond mae Channel 4/S4C wedi ennill slot ar gyfer teledu HD ar Freeview.

Beth sydd ddim yn amlwg yw sut y bydd S4C yn darlledu ei fersiwn nhw yn Nghymru yn ogystal a C4 – heblaw ein bod ni’n mynd nôl i’r hen ffordd o ‘opt-owts’ rhanbarthol. Wrth gwrs fe fyddai’n gwneud synnwyr i gael C4 HD a ‘S4C MU’ ar loeren hefyd erbyn yr amser hynny.

Fe wnaeth Tinopolis lot o ffys rhai blynyddoedd yn ôl fod eu cyfleusterau darlledu yn HD er nad oedd unrhyw fodd o ddarlledu rhaglenni fel Wedi 3 a Wedi 7 yn y fformat yna. Ydyn ni wir yn barod ar gyfer Angharad Mair mewn HD?

BBC Cymru oddi ar yr awyr

Wel mae hyn yn esbonio pam fod sianeli’r BBC wedi diflannu o Freeview heddiw. O’n i’n dechrau poeni fod rhywbeth wedi digwydd i fy mocs digidol am fod pob sianel BBC wedi eu nodi yn ‘scrambled’. Er dwi ddim yn deall pam y ddylai problem yng Nghymru effeithio sianeli fel BBC News.

Mae’n ddefnyddiol iawn fod hi’n bosib gwylio’r sianel newyddion ar y we (ac yn fuan, sianeli eraill y BBC hefyd). Mae’r sianeli lawr ers 3 awr nawr felly mae’n rhaid nad yw’r broblem yn hawdd i’w ddatrys. Mae’r sianeli analog dal ar yr awyr ond wrth gwrs mi fydd y rhain yn cael ei troi i ffwrdd yn 2009-2010. Mae’n siwr fydd yna nifer o gwestiynau i’w gofyn ynglyn a’r drafferth, yn enwedig pam nad oes system wrth gefn er mwyn sicrhau fod rhyw fath o wasanaeth yn bodoli.

S4C ac aitsh di

Mae’r defnydd o ffurf HD (manylder uwch yw’r term safonol sydd gan S4C) wrth ffilmio rhaglenni yn dod yn fwy cyffredin er fod y costau yn uwch. Mae rhai pobl yn dilorni’r dechnoleg (fel arfer y bobl hynny sydd ddim yn gallu fforddio teledu HD) gan ddweud nad yw’r llun yn well na DVD cyffredin.

Fe brynais i deledu HD 37″ yr haf diwethaf a doedd dim rhaid gwario ffortiwn, ond does gen i ddim ffynhonnell o raglenni HD heblaw o’r cyfrifiadur. Felly dwi wedi bod yn islwytho rhaglenni HD o’r rhyngrwyd a mae’n hawdd gweld ansawdd uchel y llun. Prynu chwaraewr Blu-ray fydd y cam nesa nawr fod y fformat hwnnw wedi ennill y frwydr.

Sylwais i fod y gyfres newydd Natur Cymru ar S4C wedi ei ffilmio mewn HD. Ar hyn o bryd does gan S4C ddim modd i ddarlledu rhaglenni HD yn eu gogoniant llawn, felly wnes i ddanfon ebost at wifren gwylwyr y sianel:

Mae’r gyfres newydd yma yn edrych yn wych, o ran cynnwys a diwyg. Mae llawer o ffys wedi wneud am y ffaith fod y gyfres wedi ei recordio mewn HD.

Ond ni fydd hi’n bosib i unrhyw yn weld y cynnwys ar ei ansawdd uchaf ar sianeli S4C, nawr neu yn y dyfodol agos – os byth.

A oes unrhyw gynlluniau i wneud peth o’r deunydd ar gael drwy ddulliau amgen e.e. ar y we, yn yr un modd a wnaeth y BBC gyda Planet Earth.

Dyma’r ymateb ges i:

Mae’r gyfres Natur Cymru wedi ei saethu ar ffurf HD, er, ni fydd hi’n bosib i wylio’r fersiwn HD ar hyn o bryd.

Ie, dyna pam o’n i’n gofyn y cwestiwn.

Ymhen rhai blynyddoedd – 2012 yw’r flwyddyn dan sylw, bwriedir medru darlledu rhai rhaglenni S4C mewn HD

O reit. Does dim rheswm technegol pam na allai sianel S4C HD fodoli ar system Freesat pan fydd yn lansio nes ymlaen eleni (mi fydd y gost i’r sianel yr un fath nawr ac yn 2012).

Fe fydd modd gwylio’r gyfres hon ar-lein – s4c.co.uk/gwylioyma – ac mae gwefan gynhwysfawr, s4c.co.uk/naturcymru i gyd-fynd â hi

Ie, dwi’n gwybod. Mae’n wefan da iawn hefyd, ond clipiau ansawdd isel sydd yno, yn wahanol i wefan Planet Earth fel wnes i sôn amdano.

Dwi’n meddwl mai’r unig obaith o weld y rhaglen HD y ddegawd hon yw os fydd S4C yn llwyddo gwerthu’r gyfres i sianel ryngwladol fel Discovery HD neu rhywle tebyg.

Dim Cwsg Tan Cwrlwys

Dwi’n mwynhau gwylio y gyfres Your Channel ar Aitsh Ti Fi Cymru Wêls ITV1 Wales sy’n edrych nôl ar 50 mlynedd o ddarlledu annibynnol yng Nghymru. Roedd y sioe ddiwethaf yn edrych ar ‘oes aur’ y sianel yn yr 80au pan roedd digon o arian ar gael i’r darlledwr (neu o leia’ roedd e’n oes aur i mi, gan fy mod i’n blentyn ar y pryd).

Mae digon o glipiau difyr wedi ymddangos yn y rhaglenni yn cynnwys nifer o raglenni Cymraeg HTV. Os ydych chi eisiau gweld rhaglenni llawn o’r gorffennol mae nifer ohonyn nhw ar wefan ITV Lleol Cymru.

Yr un gorau o’n rhan i yw Miri Mawr! Synnwch wrth weld Geraint Jarman yn blaco lan mewn perfformiad hynod wleidyddol anghywir o ddyn indiaidd. Syfrdanwch gyda’r dechnoleg chwyldroadol chroma-key. Ac wrth gwrs mae Calimero. Y gwesteion yn yr ogof yw Margaret Pritchard (lawr, fechgyn) a Huw Jones (a’i wallt). Gwych.

Ewch i adran 1973-79 – Miri Mawr yw’r olaf ar y rhestr a mae’n werth gwylio Ar y Lein hefyd.