daflog

  • Cyhoeddwyd: Medi 30, 2005
  • Categori: Radio, Technoleg
  • Sylwadau: Comments Off

Radio Digidol

Mae’r BBC wedi cyhoeddi y bydd radio digidol (DAB) yn ehangu i dri drosglwyddydd newydd yng Nghymru, sef Blaenplwyf, Preseli a Llanddona, yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae’n bosib fod y sylw i radio digidol wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf gan fod sianeli radio i’w clywed ar lein a thrwy setiau teledu digidol. Er hyn mae angen parhau i ehangu cyrhaeddiad DAB gan ei fod yn cynnig posibiliadau diddorol ar gyfer y dyfodol – sianeli arbennigol fel Radio Acen er enghraifft, sydd ar gael yn ardal Abertawe.

Cymraeg ar Radio 1

Yn ôl cyfaill di-Gymraeg mae yna rhaglen Gymraeg ar Radio 1 heno. Ac ar ôl tsecio, oes yn wir mae ‘na, am 3am rhag dychryn gormod o bobl. Rhaglen Oneclick yw hi.

…militant rapper MC Slaver…

[ Gol. Mae hwn yn rhan o raglenni cywaith Voices, a mae yna fwy o bethau diddorol ymlaen yn ystod yr wythnos ]

  • Cyhoeddwyd: Gorffennaf 1, 2005
  • Categori: Iaith, Radio
  • Sylwadau: Comments Off

Nant Gwrtheyrn

Fe roedd rhaglen Open Country ar Radio 4 yn ymweld a Nant Gwrtheyrn yr wythnos yma. Rhaglen ddiddorol iawn a wnes i ddysgu tipyn nad oeddwn i’m gwybod am y Nant, fel y ffaith fod BP eisiau prynu’r safle yn wreiddiol er mwyn storio bareli olew yno!

Byd Bobs

Nôl yn yr 80au hwyr roedd Huw ‘Bobs’ Pritchard yn ganwr unigryw o dan yr enw Byd Afiach. Fe fyddai’n bosib ei ddisgrifio fel “un dyn a gitâr” ond gyda’r traciau ryddhawyd ar dâp mae yna gymysgedd o arddulliau o ganeuon acwstig syml i bop arbrofol.

Yn nechrau’r 90au fe roedd Bobs yn un o gyflwynwyr Hwyrach ar Radio Cymru gyda’i sioe Wplabobihocdw, a roedd ganddo sioe ‘Y Bocs’ ar S4C hefyd. Fe ‘laddwyd’ y Bobs (a Hwyrach yn gyfangwbl) gan nad oedd ei ffraethineb yn ddigon addas i agenda fasnachol newydd Radio Cymru.

Wrth dwrio drwy hen dapiau wnes i ddarganfod recordiad o sioe olaf y Bobs, yn 1992 dwi’n credu. Ar y pryd wnes i ddim sylweddoli pwysigrwydd yr achlysur a felly dim ond yr awr olaf gafodd ei recordio, a wnes i dorri allan rhai o’r caneuon. Ond mae’n werth gwrando arno beth bynnag. Mae’r recordiad yn agor gyda Tomos, mab Huw yn canu cân i ni. Mwynhewch!

Sioe olaf y Bobs [15MB]

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.