Bloglines yn cau lawr

Dwi wedi bod yn defnyddio Bloglines i ddarllen crynodeb o flogiau a newyddion ers 2004 (pan wnaeth Nic ei grybwyll fan hyn). O’n i’n hapus iawn gyda’r gwasanaeth a roedd e’n hwylus iawn.

Mae e wedi bod yn amlwg ers tipyn nad oedd perchennog y cwmni (Ask.com) yn ymroddgar iawn i’r gwasanaeth (does dim tâl i’w ddefnyddio a dwi ddim yn siwr os oedden nhw’n gwneud unrhyw arian ohono). Roedd ‘gwallau mewnol’ yn ymddangos drwy’r amser a dwi’n sylwi erbyn hyn mod i wedi bod yn colli llawer iawn o gofnodion.

Mae Bloglines yn cael ei gau ar Hydref 1af a maen nhw’n rhoi’r bai ar Twitter a Facebook. Dwi ddim wedi fy argyhoeddi gyda eu dadl nhw – efallai mai esgus yw e.

Beth bynnag, wnes i roi cynnig ar Google Reader yn 2005 a 2007 a doeddwn i ddim yn ffan (mae cofnodion maes-e yn ddefnyddiol iawn i gofio’r pethe ‘ma). O’n i’n gyndyn o newid i’r gwasanaeth hwn gan Google, a mi wnes i dreulio peth amser yn rhoi cynnig ar wasanaethau amgen fel Feed Bucket ac Alesti.

Yn y diwedd, wnes i benderfynu mai Google Reader oedd y wefan mwya hwylus a defnyddiol – dwi wedi symud ar draws ers tua wythnos a dwi’n eitha hapus.

Yn ôl logiau’r gweinydd, mae tua 15 o danysgrifwyr yn defnyddio Bloglines o hyd. Felly os ydych chi heb symud o Bloglines eto alla’i argymhell symud i Google Reader, ond dwedwch os oes yna wefannau arall sydd hyd yn oed yn well!

Canwalliad

Mae’n beth da iawn fod y Cynulliad yn rhoi fideos ar YouTube ond gyda presennoldeb mor gyhoeddus mae’n werth gwneud yn siwr ei fod wedi ei wneud yn iawn ondyw ‘e?

Neithiwr o’n i am sgrifennu blog bach yn cwyno am fideo newydd sy’n esbonio am sustem e-ddeisebau y Cynulliad (gollyngwch yr e- os gwelwch yn dda, ‘dyw stwff ar lein yn ddim byd newydd nawr). Ond mae nhw wedi llwytho fideo wedi ei gywiro heddiw. Da iawn felly ond byddech chi’n meddwl fydde’ rhywun yn gwylio’r fideo cyn ei roi ar y we?

Lwcus i mi gymryd copi felly. Dyma deitl gwall-us y fideo ddoe. Roedd y boi camera hefyd yn dweud ‘Start now..” cyn i Delyth Lewis ddechrau siarad a mae hwn wedi ei ddileu yn y fersiwn newydd.

Canwall i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Bocsys digidol Freeview HD

Mae hwn yn gofnod reit hir am focsys digidol Freeview a fy ymchwil i wrth drio prynu un newydd!

Dwi’n gwylio teledu digidol ar Freeview, gyda recordydd fideo personol (Personal Video Recorder neu PVR). Mae’r bocs sydd gen i – y Topfield 5800 – tua 5 mlwydd oed erbyn hyn ond dal yn ddigon defnyddiol. Mae ganddo system weithredu weddol agored felly mae datblygwyr wedi gallu cynhyrchu cadarnwedd (firmware) amgen i’r peiriant sy’n cynnig llawer o welliannau dros feddalwedd y gwneuthuriwr gwreiddiol.

Ers 2005, mae pethau wedi symud ymlaen yn sylweddol. Mae darllediadau Cymru nawr yn gwbl ddigidol a mae system ddarlledu newydd wedi ei gyflwyno ar Freeview (DVB-T2) sydd yn gwneud defnydd gwell o’r gofod a drwy gywasgiad MPEG-4 mae’n bosib darlledu sianeli HD.

Felly dwi wedi bod yn chwilio am galedwedd newydd i’w brynu sy’n gallu derbyn Freeview HD. Dwi’n awyddus i allu gwylio S4C Clirlun am fod ansawdd lluniau S4C dal yn wael ar Freeview. Mi fydd BBC One HD yn lansio cyn bo hir hefyd, felly mi fydd e’n gyfle grêt i weld yr holl ddarpariaeth newydd fydd ar gael bryd hynny. Dwi ddim yn gweld fy hun yn gwylio ITV HD rhyw lawer. Yr unig ddewis arall yw Channel 4 HD. Dyw hwn ddim yn cael ei ddarlledu yng Nghymru ond os dwi’n lwcus iawn mae’n bosib fyddai’n gallu derbyn y sianel o drosglwyddydd y Mendip.

Dwi’n hapus iawn gyda’r nodweddion ar y PVR sydd gen i ar hyn o bryd felly os ydw i am brynu peiriant newydd, rhaid iddo wneud popeth oedd yr hen un yn wneud. Yn anffodus o fy ymchwil i, mae’n ddyddiau cynnar iawn o ran dewis y peiriant ‘perffaith’. Er fod digon o ddewis ar gael, mae rhai wedi eu cynhyrchu yn rhad iawn a mae nifer o gwynion amdanynt. Mae rhai bocsys da ar gael gan gwmniau safonol fel Humax a Philips ond eto mae nifer o wallau neu nodweddion ar goll a felly mae defnyddwyr yn disgwyl am gadarnwedd newydd.

Mae peiriant diddorol arall ar gael gan 3View, sydd yn ceisio bod yn fwy o ‘ganolfan adloniant’ sy’n gallu chwarae ffeiliau fideo/sain/lluniau oddi ar gyfrifiadur neu storfa ar eich rhwydwaith cartref. Yn anffodus nid yw’r cwmni yma eisiau cefnogi holl safonau Freeview HD (gwasanaethau botwm coch er enghraifft).

Mae peiriant arall i’w lansio o dan yr enw Icecrypt, fel mae’n digwydd gan yr un bobl oedd yn dosbarthu peiriant Topfield ym Mhrydain. Mae hwn yn swnio’n addawol ond dyw e ddim ar gael eto a dwi heb weld unrhyw adolygiadau ohono.

Felly dwi wedi penderfynu gohirio prynu PVR newydd am nawr – mewn chwe mis dwi’n gobeithio bydd y dewis ychydig yn fwy amlwg, y gwallau wedi datrys a’r prisiau ychydig yn fwy rhesymol.

Yn y cyfamser, dwi dal eisiau gwylio Freeview HD, felly dwi penderfynu prynu bocs digidol heb ddisg galed gan Humax. Fel mae’n digwydd mi fydd y bocs yn gallu recordio rhaglenni i ddisg USB allanol ond falle ddim mor hyblyg a PVR. Pan ddaw’r peiriant, fe wna’i adolygiad ohono.

Meddalwedd gwebost

Ychydig o flynyddoedd yn ôl fe wnes i ddatblygu system ebost newydd i’r gwaith ac un o’r nodweddion pwysig ar gyfer y system newydd oedd gallu darllen cyfrif ebost ar y we ‘tebyg i Gmail’.

Mae ein system yn defnyddio IMAP ac yn storio’r holl ebost ar y gweinydd a felly mae hyn yn ddigon hawdd i’w ychwanegu. Roedd angen rhywbeth oedd yn rhedeg ar weinydd LAMP (sef Linux/Apache/MySQL a Perl, PHP neu Python – dim ots gen i pa iaith mewn gwirionedd).

Ar y dechrau wnes i ddefnyddio meddalwedd Squirrelmail, sy’n ddigon dda er ychydig yn hyll a’n drysu rhai defnyddwyr. Mae cyfieithiad Cymraeg ohono i gael ymysg nifer o ieithoedd eraill.

Felly tua blwyddyn yn ôl fe wnes i newid i feddalwedd Roundcube – mae hwn dal yn fersiwn cynnar ond mae’n cael ei ddatblygu yn gyson. Wnes i gyfieithu’r pecyn i’r Gymraeg a fe gyhoeddwyd fersiwn 0.4 o’r meddalwedd mis diwethaf.

Dyma sgrîn-lun o rhyngwyneb y meddalwedd:

Roundcube

Rhaglen creu rhaglenni

Peidiwch gofyn sut ond dwi wedi cael gafael ar raglen sy’n cael ei ddefnyddio yn fewnol gan S4C. Dwi wedi ei roi ar y we i bawb gael ei weld.

Mae’r teclyn yn creu syniadau ar gyfer rhaglen, ar hap, gan ddefnyddio cronfa ddata helaeth. Os ydych chi’n gynhyrchydd, efallai bydd hwn yn gymorth i chi feddwl am raglenni rhad wrth i’r toriadau ddod i mewn flwyddyn nesa.

Braidd yn ‘hit and miss’ yw hi, ond nawr ac yn y man mae’n dangos awgrym ar gyfer rhaglen fyddai’n berffaith ar gyfer gwylwyr S4C.

Os ydych chi am awgrymu unrhyw welliannau neu ychwanegu unrhyw wybodaeth i’r gronfa ddata, dwedwch wrtha’i isod!

Ewch ati i greu rhaglenni!