Llabystiau Llanelli

Fe wnaeth edefyn am Llanelli ar faes-e atgoffa fi am record o’r 90au cynnar. Yr adeg hynny daeth Llanelli ac Abertawe i sylw’r wasg oherwydd digwyddiadau o drais, dwyn ceir, gwefryrru a drygioni anghymdeithasol cyffredinol. Dwi’n cofio Craig Charles yn gwneud eitem am hyn ar raglen BBC 1 (Them and Us o bosib). Fe samplwyd yr eitem mewn trac gwych gan fand dawns/rap o Lanelli. Does gen i ddim syniad beth oedd enw’r band.

Llanelli – Sodom and Gomorrah? [3.61MB]

Tich a Chile

Mae’n flwyddyn ers i Tich Gwilym farw mewn tân yng Nghaerdydd. Yn ogystal a bod yn gitarydd roc roedd gan Tich ddiddordeb mawr yng ngherddoriaeth De America. Roedd ganddo fand oedd yn chwarae cerddoriaeth o Chile ond dwi ddim yn gwybod llawer amdanynt. Dwi’n credu mai “Los Ionisos” oedd yr enw diweddar ond dwi wedi darganfod clipiau fideo ohonynt o dan yr enw “Los Guapos” (efallai fod fy sillafiad yn anghywir!).

Dyma ddau fideo o’i fand yn chwarae ar raglen y Sesiwn Fawr ar S4C yn 2000. Eto, dwi ddim yn siwr os ydw i’n sillafu teitlau’r caneuon yma’n iawn – doedd y Sesiwn Fawr ddim yn credu mewn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am y caneuon ar y sgrîn.

Itsi Matsai | Gau Chada

Mynd am bicnic

Pa Huw Stephens ydych chi’n nabod? Y cyflwynydd teledu, neu’r DJ radio? Neu efallai y crwtyn bach ar deledu yn perfformio triciau hud? Ond roedd ganddo dric arall fyny’i lewys…

Dyma fideo gan y band Pic Nic pan oedd Huw yn 16, oddi ar EP o’r un enw a gynhyrchwyd gan R-bennig. (hawlfraint fideos tsiep S4C, 1997)

Cyfeddach Cravos

Os ydych chi ar ddihun yn gynnar iawn bore fory beth am wrando ar y ‘Steffan Cravos Orgy’ (swnio’n hwyl). Mae’r sioe yn cael ei ddarlledu ar orsaf radio prifysgol Harvard am 13 awr o 5am i 6pm (amser Cymru) felly fe fydd siawns i diwnio mewn drwy’r dydd. Mae’n bosib gwrando ar y we drwy wefan WHRB.

A dyma’r newyddion…

Mae’r BBC wedi ryddhau fersiwn hir o gerddoriaeth agoriadol News 24. Dwi’n caru stwff fel hyn – mae cyfansoddiadau David Lowe yn wych. Mae’n cyfleu hunan-bwysigrwydd ‘Y Newyddion’ i’r dim gyda awgrym o goegni – sylwch gymaint o swooshes, blîps bach a drym riffs sydd yn cael ei wasgu fewn erbyn hyn. Dwi’n meddwl fod y thema newydd yn cyrraedd yr un lefel o wychrwydd o’r cyfnod ‘drymiau a baneri‘.