Radio curiad

Dwi wedi bod yn arbrofi gyda darlledu ar-lein. Fel cam cyntaf dwi wedi agor gorsaf radio 24/7 i gerddoriaeth Cymraeg. Mae gen i gasgliad o mp3s Cymraeg wedi ei llwytho lawr o wefannau bandiau, rhai clasuron a rhai diweddar iawn. Wedyn wnes i wneud ‘rhestr chwarae’ o rhain i gyd – 8 awr a hanner i gyd. Mae’r rhestr yma yn chwarae ar hap drwy’r amser. Dim DJs crap, dim siarad gwag, jyst cerddoriaeth amrywiol.

Os ydych chi’n gwrando ar hwn, a dechrau syrffedu ar yr un traciau yn dod lan o hyd, mi fydd rhaid i fi chwilio am fwy o ffeiliau i ychwanegu i’r llyfrgell. I wrando ar y ffrwd mae angen chwaraewr mp3 a agor y cyfeiriad yma – http://radio.curiad.org:8000/byw.m3u ynddo.

Dwi’n gwybod fod y meddalwedd yma yn gweithio: WinAMP, XMMS, Windows Media Player. Mae rhai yn well na’i gilydd am ddangos manylion y traciau sy’n chwarae ar hyn o bryd. Hoffwn i wybod os ydych chi’n llwyddo gwrando ar yr orsaf drwy unrhyw feddalwedd arall.

Pum mlwyddiant Radio Amgen

Ar 24 Hydref 2001 fe gwe-ledwyd sioe gynta Radio Amgen (ar y cyfeiriad http://www.geocities.com/radio_amgen/ gyda llaw, chi ymchwilwyr o’r dyfodol) a fe symudwyd i’r parth radioamgen.com ym mis Mai 2002. Dyma eitem a ddarlledwyd heno ar Wedi 7 (o bob man) ynglyn a phenblwydd yr orsaf.