daflog

PSB – Ie

Er mod i wedi colli diddordeb ynddyn nhw yn y blynyddoedd diwethaf, dwi’n dal i garu’r Pet Shop Boys. Felly dwi’n edrych ymlaen i’w albym newydd ‘Yes’ sy’n cael ei ryddhau ar yr 23ain o Fawrth.

Yn ôl y sôn mae nhw wedi cael help llaw Tchaikovsky ar un trac, sy’n dipyn o sgŵp! A mae hynny wedi fy atgoffa i o hyn:

3 gair bach

Dwi’n dal i garu Frankmusik. Dyma fideo o gân ar ei EP newydd ’3 Little Words’ gyda ysbrydoliaeth ‘Mawr’. Pop perffaith gan ddiawl golygus.

  • Cyhoeddwyd: Awst 19, 2008
  • Categori: Cerddoriaeth
  • Sylwadau: Comments Off

Popeth sy’n digwydd

Albym newydd gan David Byrne a Brian Eno – allwch chi feddwl am unrhywbeth gwell? Dwi’n dal i wrando ar hwn ond mae yna cwpl o draciau difyr mor belled.

Rhywbeth Da ’08

O’n i’n ffan mawr o’r Utah Saints yn y 90au a mae nhw wedi ail-ryddhau mics newydd o Something Good yn ddiweddar. Dwi’ ddim yn ffan mawr o’r mics newydd ond mae yna fideo difyr i fynd gyda’r trac.

‘Sdim cysylltiad â Chymru fel y cyfryw (sori Wedi 7) dim ond fod cyfarwyddwr y fideo eisiau dewis rhywle ‘obscure‘ fel lleoliad ar gyfer dyfeisiad y ddawns ‘rhedeg‘, fel welwch chi:

Dyn hapus

Dwi wedi bod yn hymian cân drwy’r dydd ond does gen i ddim unrhyw glem lle glywais i e a beth oedd enw’r gân/grŵp. Ar rhyw flog siwr o fod, gan mai dim ond blogiau dwi’n cael amser i ddarllen dyddiau yma.

Diolch i Youtube fe wnes i lwyddo dod o hyd i’r gân gyda fideo answyddogol (sydd ddim yn arbennig). Dal ddim yn siwr lle glywais fe.

Mae’r trac yma gan y band Covenant o Sweden. Dyma’r tro cynta i fi glywed amdanyn nhw ond mae nhw’n ffefryn yn barod. Mae’r saeson yn hoffi malu cachu mai nhw sy’n gwneud y caneuon pop gorau, ond ers y 90au Sweden sydd ar y blaen am gerddoriaeth pop/electronic deallus (dyna pam fod y cynhyrchwyr i gyd yn heidio yno).

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.