Ffrancopop

Dwi wedi bod yn sycyr erioed am ganeuon pop ffrengig neu rwsieg. O’n i’n arfer tiwnio mewn i sianeli radio aneglur ar shortwave i wrando ar lleisiau a synau rhyfedd ac estron. Ar ôl darganfod sianel Ffrengig, un o’r caneuon cynta glywes i oedd ‘Voyage, Voyage’ gan Desireless. Aeth hynny ymlaen i ddeg uchaf siartiau Prydain yn 1988 – mae’r saeson yn ail-ddarganfod pop ffrengig bob hyn a hyn; dyna flwyddyn ‘Joe le Taxi’ hefyd.

Tra’n chwilio am wybodaeth am ‘Voyage, Voyage’ des i ar draws cover o’r gân wedi ei berfformio (yn Ffrangeg) gan gantores o Rwsia – Zamsha. Mae’r fersiwn yma yn codi’r bpm ac yn fwy techno-aidd, ddim mor rhamantaidd a’r gwreiddiol. Dwi’n cyflwyno’r ddau mp3 yma i chi:

Desireless – Voyage, Voyage (fersiwn 1988) [5.17 MB]
Zamsha – Voyage, Voyage [6.18 MB]

Clwb S4C

Pan o’n i’n 9 oed fe wnes i ‘sgrifennu llythyr at S4C yn awgrymu y dylsen nhw ddechrau rhyw fath o glwb ar gyfer plant ifanc; gyda rhif a cherdyn/bathodyn aelodaeth, gostyngiad ar nwyddau’r sianel, posteri neu gylchgrawn rheolaidd am ein hoff raglenni. Yn fyr, rhywbeth fase’n denu fwy o blant i wylio’r sianel mewn slot penodol ac adnabyddus. Ches i ddim ateb gan y diawled.

Flwyddyn yn ddiweddarach wnaeth y sianel lansio ‘Clwb S4C’. Dyna syrpreis! Er mwyn hyrwyddo’r clwb fe wnaethon nhw ryddhau sengl ar llipa-ddisc tryloyw coch. Y gyflwynwraig Siân Thomas oedd yn canu ynghyd a phlant Ysgol Coed y Gôf, Caerdydd.

Sengl Clwb S4C

Cân y Clwb – [4.32MB]
O Lyn y Felin i Blaned Sbot – [4.96MB]

Hanner Dwsin

Mae yna ychydig o bobl ar y maes wedi bod yn hel atgofion am y cartŵn Hanner Dwsin o’r 80au, felly es i ati i greu mp3 o’r sengl gafodd ei ryddhau gyda caneuon o’r gyfres. Cafodd y sengl 7″ ei ryddhau ar Sain (SAIN 112S) yn 1985 – Ysbryd Y Nos yn cael ei ganu gan Dewi Pws a O Dan Y Dŵr yn gael ei ganu gan Gillian Elisa. A dyma glawr y sengl:

Clawr sengl Hanner Dwsin

Ysbryd Y Nos [3.05MB]
O Dan Y Dŵr [2.64MB]

O Mr Quango

Mae’r ddau drac canlynol yn dod o sesiwn ar raglen Ian Gill (Hwyrach, Radio Cymru) o haf 1994.

Mae’r cynta, Deluth Lv’s Naomi (ydi mae’r camsillafiad yn fwriadol) yn trafod perthynas rhwng dau ferch ac o ran hynny yn weddol unigryw yng ngherddoriaeth bop Cymraeg fasen i’n meddwl. Awdur y darn yma oedd Danw November, y ffeminist hoyw radical (lle mae hi nawr?). Mae’r gân hefyd ar Lovespoon Economy Vol. 1 (R-BEN 030).

Mae’r ail yn gân fach ddel ond dychanol gan ‘Jane’ (mi wnaeth ‘Y Quango‘ ryddhau nifer o draciau eraill a fydd rheiny yn cael eu llwytho fyny rhywbryd).

Danw – Deluth Lv’s Naomi [3.93MB]
Y Quango – O Mr Quango [5.68MB]

Crafu a chosi

Mae’r grŵp Y Brodyr yn rhyw fath o Kraftwerk i gerddoriaeth Cymraeg – mae nhw wedi gwneud popeth 10 mlynedd cyn pawb arall. Dyma drac Crafu a chosi yn y flwyddyn 2020 a recordiwyd ar gyfer sesiwn Radio Cymru nôl yn 1983. Mae’n dal i swnio’n ‘fodern’ 23 mlynedd yn ddiweddarach. Dwi ddim yn gwybod os gafodd y traciau yma ei ryddhau ar y pryd ond mae pethau fel hyn llawer rhy bwysig i hel llwch yn archifau’r BBC!

Y Brodyr – Crafu a chosi yn y flwyddyn 2020 [4.95MB]