Hei Mr DJ

Mae’n amlwg fod rhai darllenwyr yn ysu am ychydig o hen ysgol SRG unwaith eto, felly dyma ni chwe cân oddi ar gaset amlgyfrannog Hei Mr DJ, a gyhoeddwyd ar Label 1 yn 1990 (CS007). Mae yna ganeuon gan yr Alarm, y Cyrff, Ffa Coffi Pawb, Llwybr Llaethog Geraint Jarman, Meic Stevens ar hwn ond dwi ddim wedi cynnwys rhain gan fod y caneuon ar gael ar gasgliadau neu albymau eraill gan yr artistiaid hynny.

Tynal Tywyll – Dinosaur [3.1MB]
Jecsyn Ffeif – Byw Mewn Gwlad [4.9MB]
Crumblowers – Syth [4.4MB]
Hefin Huws – Animal Farm [3.7MB]
Huw ‘Bobs’ Pritchard – Disgynnodd y Diafol i’w Cheg [5.8MB]
Ust – Breuddwyd [4.9MB]

Y Diliau

Mae gen i gysylltiadau gyda’r Diliau am resymau wnai esbonio rhywbryd arall. Ond am nawr dyma MP3 o dau drac oddi ar EP 12″ “Caneuon y Diliau” (QEP 4043) ryddhawyd ar ddechrau’r 60au gan Recordiau Qualiton o Bontardawe. 12/5 oedd pris y record, gyda llaw, nid fod hynny’n golygu dim i mi.

Mae’r gân gynta’n esbonio’r clawr beth bynnag.
Clawr Caneuon y Diliau

Y Felin Fach Ddŵr [3.65MB]
Tyred Yn Ôl [2.53MB]

Dwi’n credu fod e’n werth cofnodi manylion y clawr cefn (saesneg) yn ei gyfanrwydd yma. Mi fydd yr heip marchnata ynglyn a rhai grwpiau Cymraeg heddiw yn edrych yr un mor wirion mewn 40 mlynedd dwi’n siwr.

A breath of fresh air is currently blowing through the field of Welsh entertainment. The traditional Noson Lawen atmosphere is suddenly leavened with a new ingredient, and living Welsh culture brought into step with the sixties.

It is not without reason that this sleeve note is written in English. It is time that all should appreciate that Wales today can supply the needs of those who are abreast of the second half of the twentieth century. Songs of protest, love, work and praise, all have their place in the repertoire of the new generation of Welsh music-makers.

Amongst those “Y Diliau” produce sounds in the modern idiom with all the panache and professionalism of their Los Angeles, St. Germain or Barcelona equivalents. Their language is Welsh, but language in no way restricts the universality of their appeal. It is possible for a non-Welsh-speaker to listen to them with all the enjoyment he might derive from a South American or Hungarian Gypsy group. The Welsh speaker, of course, being familiar with the group, will expect from these songs a rich and worthwhile content.

We look to this record to provide a step forward in Welsh entertainment. What the “Triawd y Coleg” did for Welsh light music in the forties, we expect “Y Diliau” to do in the sixties. The group, already firm favourites on Welsh T.V., must be a musical milestone in the Welsh tradition which, if it is to live, must remain “alive” and must communicate beyond its native heath.

O’r Gad Mr Iwan

Yn 1991, fe ddedfrydwyd Alun Llwyd a Branwen Niclas i’r carchar am 12 mis ar ôl torri mewn i swyddfeydd y llywodraeth fel rhan o ymgyrch Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith.

Er mwyn codi arian at CyI yn sgîl hyn (a fel esgus da i ddathlu sîn gerddoriaeth iach iawn ar y pryd), fe ryddhawyd CD O’r Gad (Ankst 020). Mae yna lot o stwff da ar hwn felly mi fydd rhaid dewis yn ofalus. Mae’r traciau yma i gyd wedi ei ryddhau ar albymau yr artistiaid eu hunain am wn i.

Aros Mae – How! [3.14MB]
Bob Delyn a’r Ebillion – Ffair y Bala [4.53MB]
Geraint Jarman – Tracsiwt Gwyrdd [4.33MB]
Datblygu – Popeth yn Gymraeg [3.82MB]

Plyms Danjerus

Doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn cerddoriaeth yng nghyfrwng fy mamiaith cyn tua 1990 (am nad oeddwn i’n ffan mawr o roc, ar y pryd). Ond pan glywes i Eirin Peryglus.. waw synthpop Cymrâg!

Dyma ddau gân gan y grŵp hynny oedd yn sefyll allan ar y pryd (yn bennaf am fod Nia Melville yn eu chwarae o hyd) – Y Cyfarfod a Epilog yn A Fwyaf – mae yna bob math o bethau yn mynd ymlaen yn yr ail… synthpop gyda sampls, bach o decno blips, gitâr jangli a solo trwmped jazz. Roedd rhain ar EP 12″ gafodd ei ryddhau yn 1989 ar label Ofn (OFN 07B).

Eirin Peryglus – Y Cyfarfod [4.82MB]
Eirin Peryglus – Epilog yn A Fwyaf [7.04MB]

Slac Yn Dynn

Un o’r rhaglenni oedd yn gwneud hi’n cŵl i wylio S4C yn nechrau’r 90au oedd y gyfres ddrama Slac Yn Dynn a gynhyrchwyd gan Lluniau Lliw; yr awdur oedd Geraint Lewis dwi’n credu a roedd Gareth Potter yn actio’r brif gymeriad. Er fod y gyfres wedi ei ail-ddangos dwi ddim yn cofio llawer amdani nawr heblaw y gerddoriaeth dros y deitlau, wedi ei chyfansoddi a’i ganu gan Potter.

Ychydig dros funud yw’r trac yma ond mae’n siwr o ddod a atgofion nôl..

Slac Yn Dynn [1.49MB]