Chris yn y Car

Mae Chris wedi fy herio i fynd ati i eto ail-gymysgu eu eiriau doeth. Wel dyma ymgais arall, mewn un awr o whare’ ambyti. Mae’r samplau yn dod o bost diweddaraf Chris wnaeth e tra’n gyrru i’r gwaith. Mae’r lŵps cerddorol yn dod o drac ‘Yr Oerfel Fawr’ (Chris talentog arall – mae fwy o mp3au ar ei wefan).

Cymal 3 – CC2 [1.95MB]

Chris Mics

Dwi’n mwynhau darllen a gwrando ar flog Chris Cope yn fawr iawn. Wrth ddal i fyny gyda rhai o’i negeseuon heno wnes i ystyried pa mor sampladwy yw ei ‘bostiau clywedol’, yn enwedig gyda’r newid sydyn o acen Cymraeg i saesneg Americanaidd.

Felly es i chwarae am ryw awr i greu trac bach syml munud o hyd. Dyma fe ‘te:

Cymal 3 – CC1 [1.16MB]

Gwrando ar Grindell

Dwi am fynd nôl i 1993 gyda tri trac gan ‘swynwr y synthau’ (y Rick Wakeman Cymraeg)… ie, John Grindell. Wnaeth e ryddhau caset ar label Sain y flwyddyn honno o’r enw Celt (C2066a) sydd yn gampwaith o chwarae synth prog-rocaidd. Yndi mae’n gawslyd ac yn anffasiynol ond dyna pam dwi’n ei hoffi. Mae yna rywbeth arbennig am lais John hefyd sydd yn gyfuniad perffaith gyda’r synth.

Mae nodiadau defnyddiol ar y clawr felly sdim rhaid i fi wneud dim – mae’r gân gyntaf Dianc yn “gân yn sôn am y pwysau ar y Cymry sy wedi’i osod arnom gan y Saeson a’r Saesneg… mae’r straen weithiau’n mynd yn ormod.. ac mae’n hawdd meddwl am ddianc yn lle wynebu’r problemau”

Yr ail gân (yma nid ar y caset) yw Y Teithiwr ’93 (vocoder ahoi) – “cân ysgafn… yn sôn am ddyn sy’n gofyn i ferch ymuno â fo yn ei long ofod a theithio trwy’r bydysawd“. Ffar owt..

Y drydedd yw’r gân wych Yr Ynys sy’n para am 13 munud (ond dim ond 4 munud dwi wedi ei roi yma) – “mae’r gân gonsept hon yn dangos dyheadau’r cyfansoddwr am ddyddiad roc progresif y saithdegau”

Dianc [6.11MB]
Y Teithiwr ’93 [4.58MB]
Yr Ynys [5.59MB]

Blogio mewn cerddoriaeth

Daeth tri CD drwy’r post yn ddiweddar o label R-bennig sydd yn werth eu trafod. Y cynta yw Hwiangerddi Satanaidd Cymru (R-BEN 087) sydd yn ddisg arbrofol ac amrwd. Mae 10 trac fer o ryw fwystfil yn griddfan a rhygnu mewn cornel bell o rhyw ogof fawr. Os ydych chi’n gwrando yn astud mae’n bosib deall ychydig o’r hyn sydd yn cael ei ddweud – ni fydd hyn yn taflu unrhyw olau ar y mater – ogof dywyll iawn sydd yma.

Dyw Johnny R ddim yn hoffi blogiau. Neu yn fwy penodol, dyw e ddim yn hoff o flogiau cyffesol. Mi fyddai’n hawdd dadle fod nifer o flogiau yn cynnig llawer mwy na hynny ond mae Johnny wedi dewis trywydd arall sef, wrth gwrs, cyhoeddi blog ar ffurf CD. Mae un yn Saesneg – There ain’t no Warhol in Oriel Môn (R-BEN 086) a’r llall yn Gymraeg – Barddoniaeth Bloglyd (R-BEN 088) a’r ddau yn gasgliad o straeon/sylwadau/rants wedi ei lleisio dros loops amrywiol. Mae yna eitemau reit ddifyr yma yn wir – y cynta dwi am roi fyny yw’r trac fer ‘Bloglyd’ sy’n gofyn y cwestiwn ‘Sgen ti flog?’

Mae gweddill y traciau yn gymysgedd o atgofion neu sylwadau ffraeth ar Gymru heddiw (yn cynnwys canllaw ar sut i fw-io Rhys Mwyn). Bw yn yr ystyr ‘boo’ seisnig hynny yw – slepjan geiriol.

Wnai orffen gyda dau drac difyr – un Saesneg yn dilyn ‘diwrnod mewn bywyd’ Johnny R (faint o wirionedd sydd yn hwn tybed?) a’r llall yn hel atgofion am yr ysgol.

Hefin Sgrech [1.90MB]
Bloglyd [642KB]
Day In The Life Of Me [4.34MB]
Atgofion Ysgol Rhan 1: Iawn Meds? [2.86MB]