Gwyddoniadur Cymru

Wyddoch chi mai Abertawe yw dinas wlypaf Prydain? (Oeddwn). Neu mai yng Nghymru y lladdwyd y blaidd olaf, yng Nghregina (Nag oeddwn, diolch am y ffaith hynod o ddiddorol hwn).

Mae hyn i gyd a llawer mwy yn y gyfrol Gwyddoniadur Cymru sy’n cael ei gyhoeddi mewn rhai misoedd. Nawr mae’n bosib archebu eich copi o flaen llaw ar wefan newydd.

Talu teyrnged

Mae’n hawdd ennill clod am newid y byd, os ydych chi’n wleidydd, ond mae’r llawer o’r gwaith pwysicaf yn cael eu wneud gan weision sifil yn gweithredu polisïau y gwleidyddion. Er hyn, ychydig o’r gweision hyn sy’n ddigon hyderus a galluog i herio’r sefydliad mewn ffordd dawel.

Fues i yn angladd fy wncl Handel ddydd Llun. Roedd nifer o’i hen gyd-weithwyr yno a roeddent yn cytuno y dylid cyhoeddi erthygl goffa amdano, rhywbeth pwysicach na phwt o hysbysiad yn y Western Mail. Diolch i dad a chymorth Meic Stephens felly, dyma ei obit yn yr Independent.

Trwy’r coed

Dyma un darn o’r olygfa sy’ gen i o’r swyddfa newydd. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr o edrych allan ar wal frics. Ydych chi’n gwybod be sy’n cuddio tu ôl y coed? (cliciwch am lun mwy)

Trwy'r Coed

Dwynwared #2

Cwpl o flynyddoedd yn ôl fe wnaeth y gwerthwyr tai Peter Alan ail-lansio ei gwefan. Alla’i ddim hawlio mod i wedi gweithio ar hwn rhyw lawer ond dwi’n gyfrifol am reoli ei gweinydd, sydd yn brysur tu hwnt. Mae 80% o’r traffig yn dod o’r canghennau ei hunan ond mae canran sylweddol yn dod o feddalwedd awtomatig neu ‘bots’ sy’n crafu’r wybodaeth er mwyn ei gynnwys mewn gwefannau arall.

Mae hyn yn ffordd amheus o gael ffynhonnell wybodaeth am ddim ond mae’n cael ei oddef am ei fod yn gallu gyrru traffig i’r wefan wreiddiol. Peth arall yw dwyn dyluniad gwefan yn gyfan, fel mae’r cwmni yma o Gaerdydd wedi wneud. Mae’n ddiddorol nodi fod graffeg botymau’r fwydlen wedi ei ddwyn o rywle arall, sef Fasthosts. Mae’r cwmni Property-Direct.co.uk wedi mynd i’r wal erbyn hyn er fod y wefan dal yn fyw.

Dwynwared #1

Tra’n edrych am faner Catalonia bore ‘ma, fe wnaeth cyd-weithwyr ddod ar draws gwefan sy’n rhoi gwybodaeth am ardal Gogledd Catalonia, sy’n rhan o Ffrainc yn wleidyddol ond yn ieithyddol yn rhan o wledydd y Catalan.

Roedd y wefan yn edrych yn hynod o gyfarwydd i mi. Yn wir mae’r wefan yn gopi neu ddynwarediad o wefan wnes i weithio arno am flynyddoedd, sef hen wefan y Bwrdd Croeso. Mae nhw wedi newid graffeg y pennawdau gyda union yr un arddull a chadw’r dylunio yr un fath heblaw am y cynnwys a’r lluniau wrth gwrs.

Fe ddiflannodd y fersiwn yna o wefan y Bwrdd Croeso (nawr yn Croeso Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru) yng nghanol 2002, felly mae’n rhaid fod y dynwarediad Catalanaidd tua 5 mlwydd oed.