Archif ar gyfer Categori 'Gwaith'

Dwynwared #2

Friday, April 20, 2007 12:01

Cwpl o flynyddoedd yn ôl fe wnaeth y gwerthwyr tai Peter Alan ail-lansio ei gwefan. Alla’i ddim hawlio mod i wedi gweithio ar hwn rhyw lawer ond dwi’n gyfrifol am reoli ei gweinydd, sydd yn brysur tu hwnt. Mae 80% o’r traffig yn dod o’r canghennau ei hunan ond mae canran sylweddol yn dod o [...]

Dwynwared #1

Thursday, April 19, 2007 13:02

Tra’n edrych am faner Catalonia bore ‘ma, fe wnaeth cyd-weithwyr ddod ar draws gwefan sy’n rhoi gwybodaeth am ardal Gogledd Catalonia, sy’n rhan o Ffrainc yn wleidyddol ond yn ieithyddol yn rhan o wledydd y Catalan.
Roedd y wefan yn edrych yn hynod o gyfarwydd i mi. Yn wir mae’r wefan yn gopi neu ddynwarediad o [...]

Hiraethog

Thursday, February 15, 2007 14:16

Newydd lansio gwefan fach hyfryd i ardal Hiraethog yn y gogledd. Grêt.

Darllen y we

Thursday, January 25, 2007 15:11

Mae Readspeaker yn wasanaeth masnachol sy’n gosod technoleg testun-i-lais mewn ffordd hwylus o fewn gwefan. Mae’n defnyddio meddalwedd Festival a felly yn gallu ’siarad Cymraeg’ gyda’r llais a ddatblygwyd gan Ganolfan Bedwyr.
Mae Bwrdd yr Iaith newydd lansio hwn ar eu gwefannau (edrychwch am y botwm ‘darllennwch y dudalen’. Er fod y llais Cymraeg yn gwneud [...]

Y Syniad Mawr Nesaf

Thursday, February 2, 2006 23:29

Ychydig iawn o syniadau gwreiddiol i wneud arian mawr sydd yn y byd ‘ma, ond unwaith i un person lwcus wneud ei ffortiwn mae pawb arall yn meddwl ei fod hi’n hawdd i nhw wneud union yr un fath. Llynedd fe ddaeth nifer o storïau am wefannau yn llwyddo i dyfu mor fawr a dylanwadol fel fod cwmnïau arall am eu prynu. Yr enghraifft amlwg ym Mhrydain oedd Friends Reunited, a gafodd ei brynu gan ITV oedd yn gweld gwerth y wefan fel llwyfan hysbysebu.