Archifau Awdur: dafydd

S4C a’i cynlluniau aneglur

Fe ymddangosodd y ddau Jôs o S4C o flaen “Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol” yn y Cynulliad ddoe. Fe ddatgelodd y prif weithredwr, Ian Jones, fod y sianel yn gobeithio lansio sianel HD ar loeren erbyn 2016. A stwffiwch bawb arall sy’n gwylio ar Freeview.

Roedd sianel S4C Clirlun ar gael ar lwyfan Freeview rhwng Gorffennaf 2010 a Rhagfyr 2012. Mae’r BBC yn gwneud camgymeriad drwy ddweud mai ar Freesat oedd S4C Clirlun – doedd y sianel erioed ar gael ar loeren er roedd bwriad i’w lansio ar Freesat rhywbryd.

Yn ôl S4C, fe arbedwyd £1.5m drwy gau Clirlun ar Freeview ond fe fydd Clirlun ar Freesat yn costio tua £1m. Dyw hyn ddim yn arian mân felly – mae’r arian a arbedwyd o gau Clirlun yn amlwg wedi ei wario ar raglenni ond nawr fe fydd angen gwneud arbedion o £1m eto.

Fel darlledwr cyhoeddus fe ddylai gwasanaethau S4C fod ar gael i’r mwyafrif ag yn hygyrch. Dyw dewis un llwyfan darlledu dros y llall ddim yn ateb y gofynion hyn.

Gan fod yna gost uchel iawn o ddarlledu S4C yn HD ar unrhyw lwyfan, fasen i’n argymell y byddai’n llawer gwell gwario arian ar lwyfan sy’n fwy agored i bawb – y we – a uwchraddio Clic i ddarparu ffrydiau HD a lawrlwythiadau. Mae fersiwn newydd o Clic mewn ‘beta’ ar hyn o bryd ond does dim sôn am welliannau i’r llun SD heb sôn am ddarparu HD. Ond mae’n edrych yn bert, felly peidiwch poeni am safonau technegol.

Mae’r BBC wedi darlledu ffrydiau HD ar yr iPlayer ers 2009. Nid yw’n HD ‘llawn’ ond mae e yn 720p a gyda datblygiadau yn cywasgu fideo mae’r ansawdd yn uchel iawn.

Er mwyn gwylio ffrydiau HD iPlayer mae’r BBC yn argymhell cysylltiad o 3.5Mbps er dwi’n gwybod fod yn gweithio ar gysylltiadau tua 3Mbps. Mae’n wir i ddweud nad oes gan bawb yng Nghymru gysylltiad rhyngrwyd da ar y cyflymder hyn ond bwriad y llywodraeth yw i ddarparu band llydan cyflym i’r rhan fwyaf o Gymru erbyn 2016. Hyd yn oed heb hynny mae dal yn bosib i lwytho lawr rhaglenni HD o’r iPlayer i’w gwylio heb drafferth.

Mae yna hefyd fwlch mawr o ran darparu rhaglenni S4C (hen a newydd) ar lwyfannau fel iTunes, Netflix ac ati – llwyfannau digidol lle taw cynnwys HD yw’r norm (a mae trafodaeth pellach am hyn ar Ffrwti).

Mewn adeg lle mae eu cyllid yn gwbl ansicr, yn hytrach na gwario miliynau ar ddarlledu lloeren, fasen i’n awgrymu yn garedig y byddai llawer gwell defnydd o gyllid S4C i fuddsoddi o ddifrif mewn gwasanaethau arlein fel Clic neu bartneriaethau gyda darparwyr digidol eraill.

Cofio Eirwen Davies

Anti Eirwen oedd hi i fi – nid perthynas gwaed ond yn yr arfer o gyfeirio at ffrindiau rhieni fel anti neu wncwl. Pan o’n i’n ddwy oed fe symudodd fy rhieni i dŷ yn Y Mynydd Bychan, Caerdydd. Roedd yna nifer o Gymry Cymraeg yn byw yr ardal – roedd gen i Anti a Wncwl go iawn yn byw rownd y gornel a amryw o ffrindiau meithrin/ysgol yn y strydoedd cyfagos.

Ond Eirwen Davies oedd yr agosaf o rheiny, yn byw ochr draw yr hewl. Fel plentyn roeddwn i’n edrych arni fel hen fenyw, ychydig bach fel Mamgu efallai ond dim ond yn ei 50au oedd hi ac yn dal i weithio i HTV ar y pryd.

Nid yn annisgwyl, fel plentyn doedd gen i ddim syniad o’i chefndir a’i lle yn hanes. Roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n gweithio ym myd teledu ond doedd hi ddim yn ymddangos ar y sgrîn erbyn hynny. Mi wnes i symud o Gaerdydd yn naw oed a dim ond flynyddoedd yn ddiweddarach wnes i ddarganfod mwy amdani. Mae hi wedi cymryd peth ymchwil i gasglu ychydig o ffeithiau cadarn amdani at eu gilydd – prin yw’r wybodaeth a’r cofnod am hanes teledu annibynnol yng Nghymru. Er mae yna dipyn o wefannau saesneg ar y pwnc a dwi’n ddiolchgar i Dinosaur TV a Transdiffusion.

Mae’n eitha sicr mai Eirwen oedd y cyflwynydd newyddion benywaidd cynta yng Nghymru ac yn Gymraeg. Fe ddarlledwyd y rhaglen Gymraeg “O Ddydd i Dydd” ar 1af o Fehefin, 1960 ar sianel TWW. Roedd Barbara Mandell wedi darllen a gohebu ar newyddion ITN o 1955 ymlaen, felly mae nifer o ffynonellau yn ei chyfri fel y fenyw gyntaf i gyflwyno’r newyddion yng ngwledydd Prydain. Yn y cyfamser ar y BBC, fe ddechreuodd Nan Winton gyflwyno rhaglenni newyddion rhwydwaith ar yr 19eg o Fehefin, 1960.

Mae Euryn Ogwen Williams yn nodi ar erthygl newyddion BBC fod ymateb negyddol wedi bod i’r cyflwynwyr benywaidd a fod y BBC ac ITV wedi tynnu’r menywod hyn oddi ar y sgrîn, ond y fod Eirwen dal yn cyflwyno drwy’r 60au ar “Y Dydd“. Ni chafwyd menyw ar newyddion rhwydwaith y BBC nes cyfnod Angel Rippon o 1975 ymlaen. Mewn erthygl ar wefan Golwg360 mae Gwilym Owen yn canu clodydd Eirwen gan ddweud “ei chryfder mawr oedd ei thrylwyredd ac mi fyddai’n talu i rai o ddarlledwyr heddiw edrych ar hen dapiau ohoni”.

Fe ddes i o hyd i glip fideo prin ohoni mewn rhaglen o 2006 oedd yn edrych ar hanes HTV a TWW.

Does gen i ddim ffynhonnell i hyn ond rwy’n deall fod Eirwen wedi chwarae rhan bwysig yn cadw a chatalogio archif cynnar TWW a HTV mewn cyfnod lle nad oedd cwmniau teledu yn ystyried gwerth yr archif rhaglenni ar gyfer y dyfodol. Mae’r archif honno nawr yng nghofal yr Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain yn Aberystwyth.

Roedd Eirwen yn hannu yn wreiddiol o bentre Pum Heol ger Llanelli a fe aeth hi nôl yna yn 2013 i lansio llyfr am hanes yr ardal. Roedd yna erthygl am y lansiad ym mhapur newydd y Llanelli Star, felly mae’n bosib mai dyma’r llun cyhoeddus olaf o Eirwen.

Bu farw Eirwen Davies ar y 12fed o Fawrth, 2014 yn Ysbyty Athrofaol, Caerdydd.

Diweddariad: Mae’r BBC wedi ryddhau podlediad o gyfweliad Eirwen ar Beti a’i Phobol yn 2005.

Gwylio yn y gwyll

Dwi’n edrych ymlaen i wylio Y Gwyll ar S4C, er fod y rhagflas yn llawn “cop-show clichés“. Mae yna gynildeb yn ysgrifennu ac actio y dramau “Scandinavian noir‘ sydd ddim yn amlwg yn nhraddodiad drama teledu Cymraeg.

Ar fater arall, fe gaewyd sianel Clirlun bron flwyddyn yn ôl. Dyma ebost wnes i ddanfon i S4C ddydd Mercher. Mi wna’i roi’r ateb fyny pan ga’i un.

Annwyl S4C,

Dwi’n edrych ymlaen i wylio Y Gwyll pan fydd e’n dechrau wythnos
nesa. Ond fe fydd yn rhaid diodde ei wylio ar y llun gwael arferol
sydd gan S4C ar Freeview (mewn SD).

Un o bleserau gwylio rhaglenni drama ‘sinematig’ yw gwylio llun HD o
ansawdd uchel. O ddewis mi fyddai’n well gen i wylio rhaglen mewn HD
os yw ar gael. Mi fydd y BBC yn lansio BBC Four HD y flwyddyn nesa,
efallai mewn pryd i ddarlledu Y Gwyll/Hinterland.

Yn eironig felly, ni fydd Y Gwyll yn cael ei weld ar ei orau nes
cael ei ddarlledu ar y BBC. Mae’r bwlch rhwng darpariaeth S4C a’r
prif sianeli eraill yn ymestyn o hyd.

Pa bryd felly y bydd gwasanaeth Clic yn darparu lluniau mewn ansawdd
HD?

 Diweddariad: 29 Tachwedd 2013

O’r diwedd daeth ymateb gan S4C:

Yn anffodus, roedd angen dileu’r gwasanaeth yma oherwydd ei gost yn sgil toriadau ariannol sylweddol i gyllideb y Sianel.

Rydym nawr yn edrych ar nifer o opsiynnau o ran cynnig lluniau o ansawdd uwch – ond fel y gallwch werthfawrogi, mae cost yn fater sy’n ddylanwadol iawn dros y penderfyniad.

Un peth rydym yn gobeithio gallu ei gynnig yn fuan iawn yw ansawdd uwch ar gyfer fidio ar alw sy’n cynnwys darpariaeth drwy wasanaeth Clic.  Mae hyn yn golygu y bydd Cyfradd Ddidau (Bit Rate) yn cael ei gynyddu o’r lefel uchaf ar hyn o bryd, sef 700Kb yr eiliad  i 1.8Mb yr eiliad.  Rydym yn ffyddiog y bydd hyn yn newid sylweddol fydd yn dod â’n gwasanaeth yn gyfartal â’r hyn sy’n cael ei gynnig gan ddarparwyr mawr eraill.

Yn anffodus fydd hyn ddim yn gwneud Clic yn gyfartal – roedd iPlayer y BBC yn cynnig ffrydiau HD 3.2Mbps (720p) yn 2009. Dwi’n amau fod S4C yn sôn am ffrwd SD gyda cyfradd uwch. Felly unwaith eto mae S4C yn cymryd dau gam ymlaen a un cam yn ôl.

Adolygiad Y Gwyll

Felly, fe ddangoswyd pennod cynta Y Gwyll o’r diwedd ar ôl misoedd o heip. Mae’r ymgyrch farchnata wedi cynnwys cymhariaethau pendant gyda The Killing a chyfresi eraill yn y genre ‘Scandinavian Noir‘. Roedd hyn yn ffôl iawn, iawn – yn bennaf, am ei fod yn codi disgwyliadau. Mae cyfresi ditectif am lofruddiaethau wedi bod ar S4C yn y gorffennol – y pryd hynny fe cymharwyd nhw a chyfresi Seisnig neu Americanaidd gan mai rheiny oedd yn boblogaidd ar y pryd.

Mewn gwirionedd, beth sydd yma yw drama dditectif Gymreig. Dyw hi ddim yn beth da i adolygiad wneud cymhariaethau gyda unrhyw gyfresi arall ond mae’r heip marchnata yn gwneud hyn yn anorfod.

Fel arfer mae’n rhaid i bennod cynta unrhyw gyfres newydd gyflwyno llawer o gymeriadau mewn amser byr. Fe lwyddwyd i wneud hynny heb unrhyw esboniadau hir. Roeddwn i’n meddwl fod ychydig gormod o ddeialog ar rai adegau lle ddylai fod tawelwch yn dweud mwy.

Am rhyw reswm mae’n anodd i ddrama gyfleu gwaith yr heddlu yn digwydd yn naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae sgript Y Gwyll yn rhoi Cymraeg cywir iawn yng nghenau’r cymeriadau. Yn y bennod gynta dyw’r deialog o fewn yr heddlu ddim yn rhedeg yn gwbl llyfn a naturiol i fy nghlust i.

I fi, roedd y ddrama yn gwella wrth weld golygfeydd rhwng rhai o’r cymeriadau ymylol gyda actorion anghyfarwydd, lle roedd cyfathrebu mwy realistig rhywsut.

Er hyn doedd y bennod ddim wedi gwneud i mi falio llawer am unrhyw gymeriad, hyd yn oed y wraig a lofruddiwyd. Mae’n rhaid i ddrama wneud i rywun deimlo rhywbeth am gymeriad – teimlo tosturi, edmygedd neu gasineb.

Un o nodweddion y cyfresi Sgandinafiaidd yw cynildeb y deialog, actio a’r golygfeydd. Dwi ddim yn credu fod hyn yn nodwedd yn y bennod gynta o’r Gwyll. Roeddwn i’n teimlo fel fod yna ruthr i symud rhwng golygfeydd a roedd gormod o doriadau camera o fewn y golygfeydd hynny. Doedd gen i ddim teimlad o densiwn wrth wylio yr awr gynta.

Fe ddaeth y cyffro yn y pum munud ola, gyda Mathias yn cwrso Hywel Maybury allan o’r hen gartref. Mae nhw wedi llwyddo i wneud un peth felly – creu cliffhanger.

I grynhoi mae’n edrych fel drama safonol nid campwaith. Mae gan S4C broblem wrth greu heip eu hunain o gwmpas y gyfres. Mewn byd gyda fideo-ar-alw a’r cyfryngau cymdeithasol mi fyddai’n well gadael i’r gynulleidfa eu hunain greu buzz am unrhyw raglen ond fydd hynny ddim yn digwydd heblaw fod y rhaglen yn un da. Dyna sut ydw i wedi darganfod pob rhaglen drama dwi wedi wylio yn y blynyddoedd diwetha – o The Killing i Breaking Bad.

Mae gan y Cymry Cymraeg dueddiad o or-glodfori unrhyw gynhyrchiad sydd ychydig bach yn well na’r cyffredin – efallai am fod hynny yn rhywbeth mor brin. Fe fydd hi’n ddiddorol gweld ymateb i’r gyfres pan ddangosir y fersiwn saesneg.

I’r cyfeiriad anghywir

Mae fy nhad wedi bod yn cwyno ers misoedd fod gwefan WalesOnline yn dangos hen storïau ar y dudalen flaen, er ei fod yn gallu cyrraedd y newyddion diweddaraf drwy ddolenni ar y dudalen. Doeddwn i ddim wedi meddwl llawer am y peth nes i mi gael golwg ar ei gyfrifiadur heddiw.

Y peth cynta sy’n amlwg yw fod dad yn hoffi defnyddio rhestr o ffefrynnau yn y porwr yn hytrach na chwilio Google neu deipio yn y bar cyfeiriad. Felly mae ganddo restr o ffefrynnau wedi ei osod blynyddoedd yn ôl. Roedd ei ffefryn WalesOnline yn mynd i’r cyfeiriad http://icwales.icnetwork.co.uk/ ond dyma beth sydd i’w weld ar hwnnw:

WalesOnline (hen)

Mae’r dudalen yna wedi ei rewi mewn amser ers i’r fersiwn newydd o’r wefan lansio ym mis Ebrill 2013 – er fod yna linell “Updated” ar ben y dudalen sy’n rhoi dyddiad heddiw. Dyma’r wefan newydd:

WalesOnline (newydd)

Felly esgeulustod syml sydd yma o anghofio ail-gyfeirio darllenwyr i’r wefan newydd. Sgwn i faint o ymwelwyr sy’n glanio ar y dudalen yma ac yn crafu eu pen? Mae’r hen gyfeiriad yn ymddangos ar dudalen gynta Google drwy edrych am “wales online” neu “wales news”.

Dwi wedi gofyn i WalesOnline iddyn nhw ail-gyfeirio’r hen wefan (gyda cod 301 wrth gwrs). Y pethau bach sy’n cyfri wrth redeg gwefan.