Mae’n beth rhyfedd, ond dwi’n cael lot o sbam Cymraeg dyddie ‘ma. Ces i un heno i gyfeiriad yn y gwaith, cyfeiriad penodol sydd ddim yn ymddangos unrhyw le ar y rhyngrwyd felly ‘dwi ddim yn gwybod sut mae nhw wed cael gafael arno.
Dwi ddim yn gwybod pam dwi’n rhoi sylw i bobl sydd ddim yn gwybod am ddeddfau a chanllawiau marchnata ond dyna ni.
Llyfr newydd sy’n cael ei hysbysebu yn yr ebost a mae’n edrych yn reit ddiddorol. Addasiad Cymraeg o lyfr-cartŵn Ralf König. Mae yna wybodaeth a esiamplau o’r llyfr ar ei wefan y cyhoeddwr, Dalen.
Rhodri
ar Tach 2, 2005
@ 10:56:
Gesh innau’r union un. Edrych fel eu bod wedi gweithio – dau flogiad hysbysebu o fewn 24awr!
Nic Dafis
ar Tach 3, 2005
@ 17:06:
Ces i fe hefyd. Wnes i ddileu a’i farcio fel sbam. Mae’n debyg eu bod nhw’n targedu blogwyr – heb wybod taw blogwyr yw’r bobl ola dylet ti sbamio.