daflog

Dr Hoo

Dim Hoo? Pwy yw Dr Hoo? Dyna’r cwestiwn sy’n cael ei ofyn yn y gyfres fer sy’n cael ei ddangos ar y we gan Virgin Media. Cwestiwn arall yw ‘pwy fyddai’n gwylio’r fath beth’? Mae e’n wael, ac eto’n dda a… dwi wedi drysu. Mae’r prif gymeriad i fod yn Gymro llysieuol aml-bersonoliaeth, sydd efallai yn esbonio pam fod yr acen ym amrywio o Lerpwl i Rhyl ac i rhywle amhenodol yn y Cymoedd.

Mae’n saff i’w wylio yn y gwaith gyda llaw ond mae yna ychydig o olygfeydd ynddo wnaeth i fi ddechrau meddwl “dal ‘mlan, lle mae hwn yn mynd nesa’”?

Mae’r golygfeydd yn Dr Hoo yn llusgo’n ymlaen ychydig yn rhy hir. Mae’r bylchau hir o ddistawrwydd yn teimlo’n lletchwith, fel ffilm Ffrengig ond heb y golygfeydd eang o gefn gwlad. Er, mai yna ryw fath o stori yma a rhaid i ddychymyg y gwyliwr lenwi’r bylchau. Dwi dal ddim yn gallu penderfynu os yw hwn yn waith athrylithgar neu yn un o’r syniadau gwaetha am raglen deledu ers peth amser.

Mae'r sylwadau wedi cau.

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.

Switch to our mobile site