Isdeitlau gorfodol S4C

Mae S4C wedi datgan eu bod am ddangos isdeitlau gorfodol (h.y. wedi llosgi ar y sgrîn) wythnos nesaf fel ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth isdeitlo. Mae hyn yn dilyn syniad dwl Tweli Griffiths ym mis Rhagfyr o roi isdeitlau otomatig ar y sianel.

Dyma gopi o ebost dwi wedi danfon at S4C.


 

Hoffwn gwyno am eich cynlluniau i osod isdeitlau saesneg gorfodol
ar rai rhaglenni wythnos nesa. Dwi’n gwrthwynebu am nifer o resymau:

1. Yr egwyddor

Rydych yn hoffi son o hyd mai S4C yw’r unig sianel Gymraeg yn y byd
(fel pe bai hyn yn rhinwedd yn hytrach na diffyg). Eto mae’r ‘unig
sianel Gymraeg’ yn gorfodi ei gynulleidfa craidd i edrych ar destun
Saesneg. Does dim synnwyr yn hyn.

Mi fydd gwylwyr sy’n drwm eu clyw neu byddar yn defnyddio isdeitlau
Cymraeg/Saesneg beth bynnag a fe alla’i hyn amharu gyda’r isdeitlau
wedi ei llosgi ar y sgrin.

2. Mae’n gosod cynsail peryglus.

Unwaith iddo gael ei wneud unwaith, fe fydd hi’n haws gwneud eto yn y
dyfodol ac yn arf defnyddiol i’r rhai sydd am weld y sianel yn troi’n
un dwyieithog.

Fe alla’i ragweld gwleidyddion anwybodus o Lundain yn ei ddefnyddio
fel esiampl o sut all S4C “ehangu ei apel” a pham ddim ei wneud drwy’r
amser? A pham ddim dybio rhaglenni neu ffilmiau saesneg? A pham ddim
rhaglenni dwyieithog? Ac ymhen dim dyna’r ‘unig sianel Gymraeg yn y
byd’ wedi diflannu.

3. Mae’n ddi-bwrpas

Dyw gwasgu botwm i droi isdeitlau ymlaen ddim yn anodd, mae wedi bod
yn dechnoleg safonol ar setiau teledu a bocsys digidol ers 35
mlynedd. Mae’n iawn i godi ymwybyddiaeth, fel yr ydych yn wneud gyda
hysbysebion ‘Bob’ ond peidiwch a dweud fod pobl di-Gymraeg yn rhyw dwp
a ddim yn gwybod sut i ddefnyddio isdeitlau.

Yn ol beth alla’i weld, ni fydd cyfle i weld copi ‘glan’ o rai
rhaglenni, fel Ochr 1 – Gwobrau’r Selar a Sam ar y Sgrin.

Felly, ni fyddaf yn gwylio S4C yr wythnos nesa o gwbl.


Diweddariad: Dyma ymateb Gwifren Gwylwyr S4C

Diolch yn fawr i chi am gysylltu i rannu eich safbwyntiau ynghylch y gwasanaeth isdeitlo Saesneg. Rydym wedi nodi eich sylwadau ac mi fyddan nhw’n cael eu rhannu â’r bobl berthnasol yn S4C.

Mae S4C yn cynnig sawl gwasanaeth er mwyn gwneud ein rhaglenni ar gael i gymaint o bobl â phosib. Mae hyn yn cynnwys arwyddo a sain ddisgrifio yn ogystal ag isdeitlau Cymraeg a Saesneg. Mae isdeitlau yn bwysig ar gyfer gwylwyr byddar a thrwm eu clyw ac yn ddefnyddiol ar gyfer dysgwyr hefyd. Rydym hefyd yn gwybod bod isdeitlau Saesneg yn rhoi cyfle i bobl sy’n llai hyderus yn y Gymraeg, di-gymraeg a chartrefi iaith gymysg i fwynhau ein rhaglenni.

Bwriad yr ymgyrch yma yw hyrwyddo gwasanaeth rydym yn ei gynnig yn barod. Am bum niwrnod wythnos nesa’ bydd isdeitlau yn awtomatig ar fwy o raglenni na’r arfer. Wedi hynny byddwn yn dychwelyd i’r drefn arferol ac yn annog gwylwyr sydd eisiau eu defnyddio i’w troi ymlaen er mwyn mwynhau ein rhaglenni.

Rydym yn derbyn adborth yn aml gan wylwyr sydd yn dymuno gwylio rhaglenni S4C ond ddim yn gwybod bod isdeitlau ar gael i’w helpu. Yn aml iawn hefyd mae pobl yn gofyn am help i droi isdeitlau ymlaen gan fod defnyddio’r gwasanaeth yn amrywio o deledu i deledu ac o ddyfais i ddyfais. Mae hyn yn broblem i lawer iawn o bobl ac rydym eisiau i wylwyr wybod ein bod ni yn gallu helpu drwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C.

Unwaith eto, diolch am gysylltu â ni i rannu sylwadau. Mae barn ein gwylwyr yn bwysig i ni. Bydd modd i chi wylio’r holl raglenni wythnos nesaf ar-lein ar alw heb yr isdeitlau. O ran y rhaglenni rydych chi wedi eu nodi yn benodol, yn ogystal â gwylio ar alw, bydd modd i chi weld Ochr 1: Gwobrau Selar heb isdeitlau ar S4C nos Fawrth 8 Mawrth am 10.05.

Mae yna rhesymeg od iawn fan hyn. Os oes yna ddarpar wylwyr yn dymuno gwylio ond ddim yn gwybod fod isdeitlau ar gael neu ddim yn gwybod sut i’w troi nhw ymlaen – yna dwedwch wrthyn nhw sut i wneud! Sut mae rhoi isdeitlau wedi ei llosgi ar y sgrîn yn helpu darpar wyliwr ddysgu sut i droi isdeitlau ymlaen ar gyfer gwylio yn y dyfodol? A dyw’r darpar wylwyr ddim yn gwylio S4C cofiwch felly beth yw’r pwynt dangos yr isdeitlau? Prin yw’r bobl sy’n ‘syrffio sianeli’ bellach gan fod pobl yn defnyddio EPG i ddewis beth i wylio.

Mae yna hysbysebion ‘Bob’ wedi ymddangos ar y sianel i hyrwyddo defnydd o isdeitlau ond cofiwch – fydd y darpar wylwyr ddim yn gweld hyn. Yr unig ffordd o’i cyrraedd yw hyrwyddo ar gyfryngau Cymreig eraill, er enghraifft drwy erthyglau mewn papurau newydd Cymreig neu hysbysebion ar BBC Wales neu ITV Wales. Felly mae’r ‘arbrawf’ o isdeitlau gorfodol yn un hollol ddi-bwynt ac yn fwy tebygol o ddieithrio siaradwyr Cymraeg mamiaith, ail iaith a dysgwyr.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cymraeg, Teledu. Llyfrnodwch y paraddolen.