Gorsaf y Gofod – prog roc Cymraeg o 1981

Fe wnaeth y blog Cymruddyfodoliaeth gan Rhodri Nwdls fy atgoffa i o hen gaset oedd gen i yn disgwyl cael eu ddigideiddio. Albwm gysyniadol gan Dafydd Pierce yw “Gorsaf y Gofod M123” a gyhoeddwyd yn 1981.

Mae’n albwm o gerddoriaeth prog roc, ac yn waith offerynnol heblaw am un gân – “Gwalaxia”, lle cyfansoddwyd a canwyd y geiriau gan Bryn Fôn. Mae’r enwog Pino Palladino yn chwarae gitâr fas ar yr albwm.

Dyma’r albwm cyfan i chwarae ar y wefan a mae’n bosib llwytho lawr bob MP3 yn unigol. O dan hynny mae sgan o glawr y casét.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cerddoriaeth, Cymraeg, MP3. Llyfrnodwch y paraddolen.