Techflog #1

Dyma ymgais ar gyfres o gofnodion am greu, datblygu a cynnal gwefannau o fy mhrofiad ddydd i ddydd. Wnai drio esbonio pethau yn syml ond weithiau wnai gofnodi mwy o fanylion technegol (os oes diddordeb). Dwi’n gweithio fel gweinyddwr systemau i Imaginet ond fel gyda pob cwmni bach dwi’n gwisgo sawl het – a mi fydd hyn yn dod yn amlwg.

At heddiw felly. Roedd darn mawr o waith i fynd yn fyw ar gyfer cwmni rheilffyrdd Southern. Mae ganddyn nhw system cardiau clyfar i deithio ar y trên. Cyn hyn roedd yn bosib prynu tocynnau tymor drwy adran o’r wefan a roedd hynny yn cael ei drosglwyddo i’r cerdyn wrth gyffwrdd y gât tocynnau yn yr orsaf. Y darn nesaf o waith oedd ychwanegu tocynnau ‘talu wrth fynd’ a mae’r gwaith wedi cymeryd misoedd i ddatblygu a phrofi.

Roedd yn rhaid cau y porth cardiau clyfar drwy’r dydd i wneud y newidiadau. Fe wnes i sgrifennu sgript fase’n gwneud hyn yn awtomatig am 6 y bore er mwyn rhoi neges i ddefnyddwyr y wefan. Yn anffodus roedd yn rhaid i gyd-weithiwr godi yn gynnar i wneud yn siwr fod popeth wedi gweithio! Mae’r porth cardiau yn gymharol syml am ei fod wedi ei adeiladu ar ben gwasanaeth gwe (web service) gan gwmni arall, sy’n darparu systemau cardiau clyfar i ran fwyaf o’r diwydiant teithio. Er mwyn cwblhau’r gwaith roedden nhw yn diweddaru eu systemau yn ystod y bore.

Yna yn y prynhawn roedden ni yn ryddhau y diweddariad i’r wefan a’i brofi tu ôl y llenni. Roedd ychydig o broblemau i ddechrau ond nid o’n ochr ni. Fe wnaeth y cleient wedyn wneud eu profion nhw i sicrhau fod e’n barod i fynd yn fyw. Erbyn 7pm o’n i adre a fe ges i’r ebost i’w roi yn fyw a fe wnes i agor y porth eto.

Roedd hynny tua 10% o fy ngwaith heddiw. Be arall wnes i? Mae fy nghyd-weithiwr i ffwrdd ar wyliau (wedi bod yn Glastonbury) felly roeddwn i ar y ddesg gymorth, yn ateb neu ddidoli ticedi newydd, ateb ebost a cymryd galwadau ffôn. Ac ar ben hynny, mae angen cefnogi’r datblygwyr yn fewnol, drwy ryddhau diweddariadau i’r gwefannau profi a byw. A roedd gen i waith fy hun i wneud… ond dyna ddigon am heddiw.

Postiwyd y cofnod hwn yn Gwaith, Technoleg. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Techflog #1"