Cofio Eirwen Davies

Anti Eirwen oedd hi i fi – nid perthynas gwaed ond yn yr arfer o gyfeirio at ffrindiau rhieni fel anti neu wncwl. Pan o’n i’n ddwy oed fe symudodd fy rhieni i dŷ yn Y Mynydd Bychan, Caerdydd. Roedd yna nifer o Gymry Cymraeg yn byw yr ardal – roedd gen i Anti a Wncwl go iawn yn byw rownd y gornel a amryw o ffrindiau meithrin/ysgol yn y strydoedd cyfagos.

Ond Eirwen Davies oedd yr agosaf o rheiny, yn byw ochr draw yr hewl. Fel plentyn roeddwn i’n edrych arni fel hen fenyw, ychydig bach fel Mamgu efallai ond dim ond yn ei 50au oedd hi ac yn dal i weithio i HTV ar y pryd.

Nid yn annisgwyl, fel plentyn doedd gen i ddim syniad o’i chefndir a’i lle yn hanes. Roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n gweithio ym myd teledu ond doedd hi ddim yn ymddangos ar y sgrîn erbyn hynny. Mi wnes i symud o Gaerdydd yn naw oed a dim ond flynyddoedd yn ddiweddarach wnes i ddarganfod mwy amdani. Mae hi wedi cymryd peth ymchwil i gasglu ychydig o ffeithiau cadarn amdani at eu gilydd – prin yw’r wybodaeth a’r cofnod am hanes teledu annibynnol yng Nghymru. Er mae yna dipyn o wefannau saesneg ar y pwnc a dwi’n ddiolchgar i Dinosaur TV a Transdiffusion.

Mae’n eitha sicr mai Eirwen oedd y cyflwynydd newyddion benywaidd cynta yng Nghymru ac yn Gymraeg. Fe ddarlledwyd y rhaglen Gymraeg “O Ddydd i Dydd” ar 1af o Fehefin, 1960 ar sianel TWW. Roedd Barbara Mandell wedi darllen a gohebu ar newyddion ITN o 1955 ymlaen, felly mae nifer o ffynonellau yn ei chyfri fel y fenyw gyntaf i gyflwyno’r newyddion yng ngwledydd Prydain. Yn y cyfamser ar y BBC, fe ddechreuodd Nan Winton gyflwyno rhaglenni newyddion rhwydwaith ar yr 19eg o Fehefin, 1960.

Mae Euryn Ogwen Williams yn nodi ar erthygl newyddion BBC fod ymateb negyddol wedi bod i’r cyflwynwyr benywaidd a fod y BBC ac ITV wedi tynnu’r menywod hyn oddi ar y sgrîn, ond y fod Eirwen dal yn cyflwyno drwy’r 60au ar “Y Dydd“. Ni chafwyd menyw ar newyddion rhwydwaith y BBC nes cyfnod Angel Rippon o 1975 ymlaen. Mewn erthygl ar wefan Golwg360 mae Gwilym Owen yn canu clodydd Eirwen gan ddweud “ei chryfder mawr oedd ei thrylwyredd ac mi fyddai’n talu i rai o ddarlledwyr heddiw edrych ar hen dapiau ohoni”.

Fe ddes i o hyd i glip fideo prin ohoni mewn rhaglen o 2006 oedd yn edrych ar hanes HTV a TWW.

Does gen i ddim ffynhonnell i hyn ond rwy’n deall fod Eirwen wedi chwarae rhan bwysig yn cadw a chatalogio archif cynnar TWW a HTV mewn cyfnod lle nad oedd cwmniau teledu yn ystyried gwerth yr archif rhaglenni ar gyfer y dyfodol. Mae’r archif honno nawr yng nghofal yr Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain yn Aberystwyth.

Roedd Eirwen yn hannu yn wreiddiol o bentre Pum Heol ger Llanelli a fe aeth hi nôl yna yn 2013 i lansio llyfr am hanes yr ardal. Roedd yna erthygl am y lansiad ym mhapur newydd y Llanelli Star, felly mae’n bosib mai dyma’r llun cyhoeddus olaf o Eirwen.

Bu farw Eirwen Davies ar y 12fed o Fawrth, 2014 yn Ysbyty Athrofaol, Caerdydd.

Diweddariad: Mae’r BBC wedi ryddhau

      podlediad o gyfweliad
Eirwen ar Beti a’i Phobol yn 2005.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cyfryngau, Hanes, Teledu. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Cofio Eirwen Davies"