5 thoughts on “Chwant Seicoleg

  1. Diolch am hyn. Mae gen i lwyth o gasetiau Cymraeg sy erioed wedi’u rhyddhau ar CD (siwr bod gen ti lwyth a mynydd). Dylwn i fynd ati i ffeindio ffordd o’u digiteiddio, un dydd.

  2. Mi flogiodd Carl Morris, ond do, am gynffon hir yr SRG a’r ffordd nad oedd labeli yn talu sylw i’r gynffon honno. Mae’n eitha posib mai dyma sut mae ei chreu.

    Pwy oedd Ust, felly? Aethon nhw mlaen at brosiectau eraill, neu ai un o one-hit wonders y sîn oedden nhw?

  3. Llais – Rhian Williams
    Gitâr – Paul Edwards
    Bas – Huw Evans
    Allweddell – Llion Barnes
    Drymiau – Bryn Roberts

    Fe aeth Rhian ymlaen i ffurfio Amledd yn 2004 (mae nhw dal ar MySpace!)