Y flwyddyn nesaf, fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn hanner cant mlwydd oed. Yn 1987 felly roedd y Gymdeithas yn 25. Fe gyhoeddwyd casét fel rhan o’r dathliadau, gan y grŵp H3. Fe wnes i brynu hwn rhai blynyddoedd yn ôl yn Recordiau Cob am 50 ceiniog. Dyma’r clawr:
Dyma’r ddau gan fer ar ddechrau’r tâp:
H3 – Y Blynyddoedd Aur (Penblwydd Hapus)
Gyda llaw, dyma’r daflen oedd yn dod tu fewn i’r casét.
Ac i gloi’r tâp mae mics hirach o’r ddau gan arall.


Diolchgar iawn am y gyfres newydd o gofnodion. O’n i’n gwrando ar Wham neu rhywgrap yn 1987, dim clem.
Mae hwn gen i hefyd. Dwi’n siwr na Dylan, drymiwr gwreiddiol Y Cyrff oed tu ôl i H3.