Oes y Cyfrifiaduron

Roedd Ffenestri yn fand synthpop Cymraeg ar ddechrau’r 80au. Aelodau’r band oedd Geraint James a Martyn Geraint (a ddaeth yn enwog wedyn fel diddanwr a cyflwynydd rhaglenni plant). Fe wnes i brynu eu albwm Tymhorau yn 1986 neu 87 a’i chwarae drosodd a throsodd.

Mae’r albwm yn cynnwys cân ‘Oes y Cyfrifiaduron’ wnaeth argraff arna’i ar y pryd mae dal yn ffefryn. Fe es i ati i wneud fideo ar gyfer y gân. Roeddwn am ddefnyddio fideo a lluniau dan drwydded Creative Commons ond roedd e’n gythreulig o anodd i ganfod deunydd addas, yn enwedig o wledydd Prydain. Dyna pam mae’r rhan fwyaf o’r deunydd yn tarddu o America.

Rwy’ am drafod y gân nes ymlaen ond dyma’r fideo i ddechrau (cliciwch y botwm sgrîn llawn i gael fersiwn HD).

Ar yr olwg gynta mae’n gân ysgafn am fyw yn oes y cyfrifiaduron. Mae’r geiriau ar y llaw arall yn sôn am fyd lle mae ‘cyfrifiaduron’ yn rheoli bywyd a dwyn swyddi. Cafodd y gân ei sgrifennu ynghanol diweithdra mawr yr 80au – “Y’ni eisiau’n gwaith yn ôl, mae’n ddiflas ar y dôl”. Oedd yna fai ar gyfrifiaduron?


Yng Nghymru, fe gollwyd y rhan fwyaf o’r swyddi yn y diwydiant glo a gweithgynhyrchu. Roedd y diwydiant electroneg a chyfrifiaduron yn un o’r meysydd prin lle roedd swyddi yn cael eu creu. Fe wnaeth y cwmni AB Electronics o Abercynon gynhyrchu nifer o gyfrifiaduron cynnar fel mae Amgueddfa Cymru yn esbonio.

Efallai roedd pethau’n edrych yn ddu yn nirwasgiad yr 80au ond roedd y math o broffwydo ar Tomorrow’s World yn eitha pell ohoni. Roedd yna deimlad y byddai cyfrifiaduron a’r robotiaid yn gwneud popeth drosto ni a fydde ni’n rhydd i fyw bywyd o hamdden mewn dinasoedd glan modern. Yn sicr mae robotiaid wedi disodli nifer o swyddi diflas mewn ffatrïoedd. Mae’n bosib dadlau hefyd mai gwarchod swyddi mae nhw’n wneud drwy wneud cynhyrchu nwyddau yn fwy effeithiol a felly’n gwneud hi’n bosib i gadw cwmnïau cynhyrchu mewn gwledydd fel Cymru lle mae cyflogau yn gymharol uchel.

Erbyn hyn dwi’n meddwl fod cyfrifiaduron wedi creu mwy o waith mewn meysydd cwbl newydd tra’n lleihau’r baich o weinyddu mewn meysydd eraill. Hyd at y 90au cynnar roedd swyddfeydd mawr yn arfer cyflogi stafelloedd llawn o bobl (menywod i fod yn gywir) oedd a’r gwaith penodol o deipio dogfennau a llythyrau. Doedden nhw ddim mwy na cyfrifiaduron dynol gyda gwirydd sillafu a geiriadur. Erbyn hyn mae pawb yn teipio – yn paratoi dogfennau a delio gyda’u gohebiaeth eu hunain, a hynny ar gyfrifiadur.

Doedd y swydd dwi’n wneud nawr ddim yn bodoli yn 1985. Roedd yna swyddi tebyg ar gael wrth gwrs mewn banciau, cwmni cyfrifydd neu yswiriant. Yr unig le arall fase swydd tebyg oedd mewn prifysgolion lle roedd sylfaen y dechnoleg dwi’n ddefnyddio nawr yn cael ei ddyfeisio a’i ddatblygu.

Felly ydi’r cyfrifiaduron wedi cymryd ein swyddi neu ydyn nhw wedi creu byd lle mae’n bosib creu swyddi gwbl newydd? Mae’n gân bop gwych ond hir oes i’r cyfrifiaduron.

  1. Hynod o ddifyr Dafydd, diolch yn fawr am y blog a’r fideo hyfryd.
    Ro’n i, fel ti’n gwybod yn Ffenestri Ffanatig yn y cyfnod. Dwi’n eitha siwr mai astudio Maths yn y coleg oedd Geraint James, ond dwi ddim yn siwr o’i hanes bellach, bydd rhaid holi MG.
    Dwi’n cofio trio cystadleuaeth ar Bilidowcar (neu rhaglen debyg) i ddylunio clawr i’r albwm. Mae gen i dipyn o luniau doji o’r band yn eu crysau unigryw y dylwn i eu sganio hefyd. Cofio creu un fy hun efo ‘dye crayons’ a chrys-t gwyn i fynd i noson wobrwyo Sgrech yng Nghaerfyrddin yn 1985 neu 1986.
    Diolch am y proc i’r cof hefyd felly!

    Newydd feddwl – bosib bod Geraint James wedi mynd i weithio i Mistar Gates, a ffeindio defnydd arall i enw’r band…! ;-)

  2. Gwaith ardderchog Dafydd!

    Rwy’n falch iawn i weld bod y gân o ddiddordeb heddiw – wyth mlynedd ar hugain ar ôl i mi ‘sgrifennu’r gân mewn sied ym mis Awst 1983.

    Rwyt ti wedi gweithio mor galed i greu y fideo ac mae’r lluniau yn berthnasol iawn. Hefyd, rwy’n cyd-fynd gyda dy ddehongliad o’r geiriau.

    Diolch hefyd i Rhodri, Carl a Nici am eu sylwadau. Rwy’n cofio Nici yn dda – mi roedd hi’n gefnogwraig selog.

    Fe ganodd Ffenestri mewn dros gant o gyngherddau dros Gymru rhwng 1984 a 1988. Wrth gwrs fe aeth Martyn Geraint i gyflwyno rhaglenni teledu ar S4C a chanu a chyflwyno sioeau o adloniant hyd at heddiw.

    Fe ddechreuais i yrfa fel cyfrifydd yn 1989 ac wedi gweithio mewn sawl maes ers hynny. Erbyn hyn rwy’n canolbwyntio ar gynorthwyo Mudiad (Ysgolion) Meithrin, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymdeithas Ty Tawe (Abertawe) a phrosiect adnewyddu adeilad hanesyddol yn Nhrecelyn yn y De-Ddwyrain. Mae fy nghartref yng Nghraig Cefn Parc, Abertawe ac mae gen i a fy ngwraig Helen bedawr o blant – Sioned (19), Ifan (17) , Bryn (13) a Betsan (11).

    Cofion i bawb
    Geraint James

  3. Diolch yn fawr am ymateb Geraint a mae’n wych cael clywed mwy am dy hanes. Mae’n fyd bach ondyw hi. Fe magwyd fy nhad yng Nghraig Cefn Parc (cafodd ei eni yn fferm Bwlch y Gwynt) a mae peth o’r teulu yn dal yn byw yno. Diolch eto!

Sylwadau wedi cau.