Yr Uwchdraffordd Wybodaeth

Nôl yn y 90au, roedd y rhyngrwyd a’r we wedi dod yn gyfarwydd iawn yn y byd academaidd. Roedd tipyn o ffordd i fynd er mwyn argyhoeddi’r cyhoedd am y chwyldro. Yn 1994, roedd rhaglenni fel ‘The Net’ ar BBC 2 yn cyflwyno’r dechnoleg newydd i’r gwylwyr.

Yng Nghymru fe ddangoswyd cyfres o dri rhaglen o’r enw ‘Cyber Wales’ ar BBC Wales yn 1995. Dyma glip o ddechrau’r rhaglen sy’n cael ei gyflwyno gan Gareth Jones.

Roedd y llywodraeth yng Nghymru, yn bennaf drwy’r WDA, yn ceisio codi ymwybyddiaeth hefyd. Roedd y dechnoleg yn cael eu gyflwyno mewn llefydd fel y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod. Tua’r un adeg yn 1995, roedd arddangosfa (yng Nghaerdydd neu Gasnewydd?) i bobl gael gweld nid yn unig dechnolegau’r rhyngrwyd ond datblygiadau eraill fel ‘fideo ar alw’. Yn y clip nesa, mae Gareth Jones yn siarad ar Heno am y dechnoleg newydd.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cyfryngau, Fideo, Technoleg, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Yr Uwchdraffordd Wybodaeth"