Meddalwedd gwebost

Ychydig o flynyddoedd yn ôl fe wnes i ddatblygu system ebost newydd i’r gwaith ac un o’r nodweddion pwysig ar gyfer y system newydd oedd gallu darllen cyfrif ebost ar y we ‘tebyg i Gmail’.

Mae ein system yn defnyddio IMAP ac yn storio’r holl ebost ar y gweinydd a felly mae hyn yn ddigon hawdd i’w ychwanegu. Roedd angen rhywbeth oedd yn rhedeg ar weinydd LAMP (sef Linux/Apache/MySQL a Perl, PHP neu Python – dim ots gen i pa iaith mewn gwirionedd).

Ar y dechrau wnes i ddefnyddio meddalwedd Squirrelmail, sy’n ddigon dda er ychydig yn hyll a’n drysu rhai defnyddwyr. Mae cyfieithiad Cymraeg ohono i gael ymysg nifer o ieithoedd eraill.

Felly tua blwyddyn yn ôl fe wnes i newid i feddalwedd Roundcube – mae hwn dal yn fersiwn cynnar ond mae’n cael ei ddatblygu yn gyson. Wnes i gyfieithu’r pecyn i’r Gymraeg a fe gyhoeddwyd fersiwn 0.4 o’r meddalwedd mis diwethaf.

Dyma sgrîn-lun o rhyngwyneb y meddalwedd:

Roundcube

Cerddoriaeth Cymraeg a breindaliadau

Ers 2007 mae’r cwmni sy’n casglu breindaliadau cerddoriaeth ar ran cyfansoddwyr – ‘PRS for Music’ wedi bod yn torri’r taliadau ar gyfer cerddoriaeth sy’n cael ei chwarae ar Radio Cymru; cam oedd yn bygwth bywoliaeth nifer o gyfansoddwyr ac artistiaid Cymraeg. Fe ffurfiwyd mudiad ‘Y Gynghrair’ gan y diwydiant yng Nghymru i ymateb i ac ymladd yn erbyn y newidiadau.

Fe gomisiynwyd adroddiad i edrych ar y posibilrwydd o greu corff Cymreig i gasglu breindaliadau. Awduron yr adroddiad yw Arwel Elis Owen a Deian ap Rhisiart a mae’r adroddiad nawr wedi ei gyhoeddi ar wefan Y Gynghrair.

Mae’r adroddiad yn argymell sefydlu corff newydd i Gymru fel dewis amgen i’r PRS.

Yn yr adroddiad, nid yw S4C na’r BBC yn gweld angen am gorff arall gan ddweud fod y sefyllfa bresennol gyda’r PRS yn foddhaol a fod llawer o waith wedi ei wneud ar systemau er mwyn hwyluso’r defnydd o gerddoriaeth ar rhaglenni’r sianel.

Mae’r adroddiad yn cydnabod hynny drwy ddweud “Mae ymateb ac agwedd BBC Cymru a S4C tuag at y corff yn mynd i fod yn allweddol“.

Sgwn i sut fydd pennaeth dros-dro y sianel (rhywun o’r enw Arwel Elis Owen) yn ymateb i’r adroddiad felly?

Rhaglen creu rhaglenni

Peidiwch gofyn sut ond dwi wedi cael gafael ar raglen sy’n cael ei ddefnyddio yn fewnol gan S4C. Dwi wedi ei roi ar y we i bawb gael ei weld.

Mae’r teclyn yn creu syniadau ar gyfer rhaglen, ar hap, gan ddefnyddio cronfa ddata helaeth. Os ydych chi’n gynhyrchydd, efallai bydd hwn yn gymorth i chi feddwl am raglenni rhad wrth i’r toriadau ddod i mewn flwyddyn nesa.

Braidd yn ‘hit and miss’ yw hi, ond nawr ac yn y man mae’n dangos awgrym ar gyfer rhaglen fyddai’n berffaith ar gyfer gwylwyr S4C.

Os ydych chi am awgrymu unrhyw welliannau neu ychwanegu unrhyw wybodaeth i’r gronfa ddata, dwedwch wrtha’i isod!

Ewch ati i greu rhaglenni!