Hei Mici

Mae Mici Plwm wedi cysylltu â fi i ychwanegu gwybodaeth i Curiad ynglŷn a’i hen fand ‘Poer y Wiwar’.

Na, dyw e ddim mewn gwirionedd, er mae’n ymgais digon da fel oedd rhaid i mi edrych dwywaith. Dwi’n amau mai’r boi tu ôl i ffug Mici ar Twitter (a Jonsi ‘fyd) wnaeth ei ddanfon.

Yn hytrach na’i ychwanegu, dwi am gofnodi’r manylion i chi fan hyn!

Poer y Wiwar

Aelodau:

  • Eifion Pennant Jones (Jonsi) – prif lais
  • Dewi Llwyd – gitâr flaen
  • Mici Plwm – bâs
  • Iestyn Garlick – drymiau

Disgyddiaeth:

Blaswch Poer Y Wiwar – 1p

Disgrifiad:

Oeddan ni’n hiwj yn Fiji, ma nhw’n fyr iawn fana.

Prynu MP3s Cymraeg

Fe wnaeth Chris Cope bwynt da ar Twitter, sef fod hi’n anodd dod o hyd i MP3s Cymraeg ar lein. Mae nifer o wasanaethau sy’n werthu cerddoriaeth ar ffurf MP3 a mae rhai yn well na’i gilydd. Mae’n anodd dod o hyd i gerddoriaeth Cymraeg ar rhai gwasanaethau heb wybod enw’r band o flaen llaw.

Mae system gaeëdig ond pwysig iTunes yn enghraifft dda o hyn. Yn ôl beth dwi’n gallu gweld does dim posib i labeli dagio eu caneuon neu albymau gyda iaith.

Dwi wedi bod yn ymchwilio i hyn ers tipyn felly mae’n werth rhannu y wybodaeth dwi wedi casglu yn barod. Mae gwasanaeth Spotify yn arbennig o dda am ei fod yn bosib chwilio yn ôl label. Dwi wedi creu rhestr fer o ddolennau defnyddiol fan hyn.

Dwi’n falch o dderbyn unrhyw wybodaeth ychwanegol am fwy o labeli.

419 Cymraeg

Da dydd i chi. Ym mis Ebrill fe ges i neges sbam yn Gymraeg. Nid neges wreiddiol ond un wedi ei gyfieithu drwy Google Translate. Am fod y cyfeiriad ebost wedi ei grafu oddi ar wefan uniaith Gymraeg dwi’n cymryd fod y sbamwyr wedyn gallu addasu iaith y neges i’r iaith honno. Mae’r neges i’w weld isod:

Annwyl wlad,

Da dydd, yr wyf yn Miss Sarah Thomas, O Abidjan Cote D’Ivoire, hoffwn i ofyn am eich cymorth yn fy cynlluniau buddsoddi yn eich canolfan, yr wyf yn dymuno buddsoddi mewn gweithgynhyrchu a rheoli ystadau go iawn yn eich sylfaen, mae hyn oherwydd yr wyf yn etifeddu swm bwysig o fy niweddar dad Prif Steve Thmas. a oedd yn gwenwyno gan ei bartneriaid busnes yn un o’u teithiau i discuse am fusnes.

Cyn marwolaeth fy nhad, a roddodd i mi yr holl ddogfennau cyfreithiol angenrheidiol ynghylch y blaendal y gronfa yn y banc, ei fod wedi arbed cyfanswm o ($ 7.5) saith miliwn 500,000 unedig ddoleri yn datgan yn unig, yn un o’r banc yma yn Cote D’Ivoire, yr arian hwn yn cael ei ddyddodi ar gyfer fy nawdd cymdeithasol ac ar gyfer buddsoddi ffrwythlon rhyngwladol, bydd eich awgrymiadau a syniadau yn cael ei ystyried yn fawr. Nawr yn caniatáu i mi i ofyn y cwestiynau hyn ychydig:

1. Allwch chi fy helpu i onest gan eich calon?
2. Alla i ymddiried yn llwyr chi?
3. Bydd Pa ganran o gyfanswm yr arian yn cael ei appreciateable i chi?

Os gwelwch yn dda, yn ystyried hyn ac yn dod yn ôl i mi cyn gynted ag y bo modd. Immedaitely Yr wyf yn cadarnhau eich parodrwydd, byddaf yn anfon i chi ar fy llun a hefyd yn rhoi mwy o fanylion am fy hun ac yn y banc lle mae fy niweddar dad a adneuwyd y gronfa, fel bod modd i chi gyrraedd y banc ac yn cadarnhau bodolaeth y gronfa yn ogystal, oherwydd gweld yn credu. Yr wyf yn aros am eich ymateb ar unwaith.

Dymuniadau gorau
Sarah Thomas

Dyma enghraifft arall o’r un neges ond y tro hyn yn Sbaeneg. Oes unrhywun arall wedi derbyn negeseuon tebyg i hyn?