Fideo 9.0

Dwi wedi bod yn casglu gwybodaeth am fideos Cymraeg ar YouTube ers tipyn ac eisiau gwneud rhywbeth gyda nhw yn defnyddio API YouTube. Dwi am esbonio sut wnes i hyn isod ond os ydych chi yn ddi-amynedd neu ddim eisiau gwybod y manylion technegol, ewch draw i wylio’r fideos.

Y bwriad oedd creu ‘jiwcbocs’ o fideos fyddai’n chwarae’n ddi-dor. Mae yna lawer o fideos gan fandiau Cymraeg ar YouTube – rhai wedi eu cymeryd o fideos ‘swyddogol’ a wnaed ar gyfer rhaglenni teledu fel Fideo 9, Y Bocs, Syth a Bandit. Mae eraill yn fideos amatur o gigs neu rhai wedi eu creu gan y defnyddwyr. Dwi wedi dewis defnyddio y fideos swyddogol wnaed ar gyfer y teledu (sy’n cynnwys perfformiadau byw mewn stiwdio) am mai rheina ar y cyfan sydd o’r ansawdd orau ac yn ddiddorol i’w gwylio.

Wnes i ddarganfod cod JavaScript ar y we gan rhywun oedd wedi sgrifennu sgript i ddangos ‘playlist’ o fideos a defnyddiais hwnnw fel sail. Roedd y sgript yn defnyddio rhestr o fideos wedi ei cofnodi yn y cod eu hunan, ond roeddwn i eisiau rhywbeth oedd yn gofyn i’r gweinydd am fideo newydd ar hap. Roedd angen tipyn o newidiadau felly i ychwanegu galwad i’r gweinydd drwy Ajax. Wedyn wnes i sgrifennu ychydig o god PHP ar y gweinydd er mwyn rheoli pa fideos oedd yn cael eu chwarae.

Unwaith mae fideo yn gorffen chwarae, mae’r cod yn danfon yr hen ID i’r gweinydd er mwyn cofnodi sawl gwaith mae’r fideo wedi ei ddangos. A mae’n danfon ID newydd yn ôl (wedi ei ddewis ar hap ond ddim yr un ID ac o’r blaen). Mae gwybodaeth am y gân yn cael ei ddanfon hefyd er mwyn dangos yn yr adran ‘Yn Chwarae’.

I orffen, wnes i adeiladu ffurflen bach syml er mwyn derbyn cynigion am fideos newydd – mae’r ffurflen yn chwilio os yw’r fideo ar gael yn barod. Ac yn olaf – enw. Dewisiais i ‘Fideo 9.0‘ mewn teyrnged i’r gyfres arloesol Fideo 9 (lle daw llawer o’r fideos ar y rhestr).

Fideo 9.0

Dwi wedi treulio tua 3 noson ar adeiladu y system mor belled felly beth allwn i wella ac ychwanegu?

  • Gwneud y fideos i chwarae gefn wrth gefn yn fwy llyfn (ond dwi’n credu mai cyfyngiad gyda’r ffordd mae YouTube yn gweithio yw hyn)
  • Dangos jingl neu hysbyseb bob 30 munud
  • Cadw cofnod o’r fideos sydd wedi eu gwylio fel nad yw cân yn cael ei ail-ddangos o fewn yr un sesiwn
  • Creu tudalen sy’n rhestru’r caneuon sydd ar gael yn y gronfa ddata, i’w wneud yn haws i bobl gynnig fideos newydd
  • Cyfyngu y rhestr chwarae i ganeuon o gyfnodau arbennig (80au, 90au, 00au) neu math o berfformiad (fideo ar ffilm, gig byw, fideo amatur)
  • Rhoi mwy o wybodaeth am ffynhonnell y fideo. Dwi’n cofnodi peth o hwn yn barod, ond dyw pob fideo ar YouTube ddim yn rhoi’r wybodaeth
  • Mae llawer o’r fideos wedi eu recordio o’r darllediad teledu ac yn cynnwys cyflwyniadau o’r rhaglen neu ddarnau o’r gân flaenorol neu’r un dilynol. Er fod hyn yn ddiddorol yng nghyd-destun hanesyddol, dwi eisiau dechrau/gorffen y fideo yn y man cywir. Dwi wedi ceisio gwneud hyn yn barod ond fe fydd angen gwella’r dechneg.

Ar hyn o bryd mae 76 o draciau yn y gronfa sydd yn 5 neu 6 awr o gerddoriaeth. Mi fasen i’n falch o gael ymateb, cwestiynau neu unrhyw welliannau.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cymraeg, Fideo, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.

5 Responses to "Fideo 9.0"