Dwi wedi cael gafael ar gopi o cylchgrawn Sylw o’r diwedd. Dwi ddim yn gwybod be i feddwl o gylchrawn sy’n disgrifio Angharad Mair fel ‘darlledwraig dalentog’ ac ar yr olwg gynta ‘yr un hen bobl’ sy’n ysgrifennu yn y cylchgrawn yn dweud ‘dim byd llawer’ sy’n newydd.
Ond y peth doniolaf i fi yw erthygl Rhys Llwyd ar Golwg 360. Mae’r erthygl yn beirniadu diwyg y wefan a mae yna sgrîn-lun o’r wefan ar y dde. Ond arhoswch funud, nid gwefan Golwg 360 yw e ond yn hytrach fy fersiwn newydd i o’r dyluniad wnes i roi fyny ym mis Mai! Nid dim ond cylchgrawn Golwg sydd ddim yn talu ’sylw’ i’r manylion felly!

Rhodri ap Dyfrig
ar Gor 27, 2009
@ 09:09:
Ma honna’n glasur.
Rhys Llwyd
ar Gor 27, 2009
@ 09:19:
Jest isho gneud hi’n glir mae NID fi ddarpariodd y screen shot gyda’r erthygl!
Rhys
ar Gor 27, 2009
@ 09:35:
Sylwais i ddim o hynna. Embaras.
Mond newydd gorffen darllen trwy Sylw ydw i, ac i ddweud y gwir, does dim byd arbennig iawn amdano. Roedd heipio’r rhifyn cyntaf o amgylch rhyw fath o gyfweliad ’scŵp’ gyda Angharad Mair (sy’n fenyw ffein gyda llaw, pam mae pawb mor gas tuag ati?) briadd yn dwp.
Twitted by rhysw1
ar Gor 27, 2009
@ 09:45:
[...] This post was Twitted by rhysw1 [...]
iestyn
ar Gor 27, 2009
@ 11:33:
amazing