Comisiynydd plant

Fe aeth ein gwefan newydd hyfryd ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru yn fyw heddiw (wel ar y penwythnos i fod yn fanwl gywir).

Mae e’n llawn o wybodaeth ddefnyddio am waith y Comisiynydd, ac yn cynnwys gêm ddifyr i brofi faint rydych chi’n wybod am hawliau plant.

2 thoughts on “Comisiynydd plant

  1. Dw i am ddarllen hwn i weld os allai fynd ar ôl Dad am ol-daliad pres poced rhwng 1987 a 1994.

    Dim ffrwd rss ar gyfer tudalen newyddion?

  2. Mae’n debyg cafodd ffrwd RSS ei gynnig fel dewis ond ei wrthod. Fe fydde i’n meddwl y dylai fod yn rhan safonol o wefan, ond nid dyna fel mai pethau yn gweithio yn anffodus.

    Ar wefan fach heb llawer o gyllid mae rhaid chwilio am dorri rhai nodweddion er mwyn gwario fwy ar rywbeth sy’n bwysicach i’r cleient. Fe ddylai fod ffrwd RSS yn rywbeth sy’n rhan sylfaenol o nodwedd newyddion neu ddigwyddiadau ond dwi’n dal i ennill y ddadl honno pan mae angen cydbwyso cyllid a nodweddion.