daflog

Diwrnod y Glec fawr

Dim ond 3 diwrnod sydd i fynd nes y bydd arbrawf yr LHC yn cychwyn yn CERN. Mi fydd yr arbrawf yn ail-greu y sefyllfa oedd yn bodoli ar ddechrau’r bydysawd (gyda ffracsiwn lleiaf o’r egni mae’n rhaid dweud).

Fydda’i ddim yn y gwaith y diwrnod hwnnw, felly dwi’n meddwl fydda’n dilyn y diwrnod gyda’r rhaglenni arbennig drwy’r dydd ar Radio 4.

A dyma fideo bach difyr i esbonio’r holl beth mewn 5 munud.

3 o sylwadau to “Diwrnod y Glec fawr”


  1. Mei
    ar Medi 7, 2008
    @ 22:20

    Ynde! Hollol ecsaited i weld beth fydd y canlyniadau, mae o unai yn mynd i ateb y cwestiwn, neu agor byd arall enfawr o gwestiynnau!


  2. Rhys Llwyd
    ar Medi 8, 2008
    @ 19:40

    Dwi’n disgwyl mlaen hefyd. Yr holl beth yn fy atgoffa o hanes Elias a Phroffwydi Baal ar fynydd Carmel yn 1 Brenhinoedd, Pennod 18. Yn ei hanfod y stori yw fod Elias a Chredinwyr y dydd yn cael ’show down’ gyda Proffwydi Baal, Baal oedd crefydd ‘boblogaidd’ y dydd. Gwyddorniaeth Ddarwinaidd/Big Bang a Seciwlariaeth ffwndametalaidd ydy crefydd ‘boblogaidd’ heddiw fel Baal yn nyddiau Elias. Roedd Proffwydi Baal mor convinced eu bod nhw’n iawn nes iddyn nhw osod arbrawf fynny i brofi mae Baal ac nid Duw Elias oedd yn wir. Wrth gwrs, fe chwythodd yr arbrawf fynny yn eu hwynebau oherwydd i Baal fethu darparu tra darparodd y Duw byw i Elias.

    Bydd yn ddiddorol gweld os lwyddith y gwyddonwyr i greu rhywbeth 1/100000000 mor annhygoel a chreadigaeth Duw. Dwi’n amau’n fawr.


  3. Huw Waters
    ar Medi 12, 2008
    @ 09:21

    Nid mater o geisio greu ‘rhywbeth cystal a Duw’ yw hwn, ond i greu y deunyddiau a oedd bosib yn bresennol adeg y Ffrwydriad Fawr os nath o ddigwydd. Mae mater a gwrth-mater yn bodoli, ond pam fod pop ar y ddaear ac o fewn gafael ni yn fater a nid gwrth-fater?

    Os ma mater a gwrth-mater yn dod digon agos at ei gilydd ma pethe od yn digwydd. E.e. os yw electron a phositron yn dod at ei gilydd mae proses o ‘complete annhilation’ yn digwydd, ble mae’r mass yn troi yn ddau photon egni gama 511keV yr un.

    Dwi’n edrych ymlaen i weld os nawn nhw ffindio’r boson ma neu beidio. Yn un peth, os mae o yn bodoli sut fydd nhw’n mesur y peth. Byswn i’n disgwyl i’r offer cael eu gwneud o’r bosons ma i allu ‘resolve’ y canfod.

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.