Stori’r Byd

Mae’r Cymry yn hoff iawn o siarad, o bwyllgora, ac o beidio mentro gyda unrhywbeth heblaw fod rhyw grant ar gael. Dyma saga trist Y Byd:

Mae’n amlwg iawn mai academydd sydd wedi bod yn gwthio cynllun Y Byd, a nid entrepreneur. Mae gan academyddion yr holl amser yn y byd i gynllunio, trafod a threfnu. Yn y byd masnachol, mae’n rhaid cymryd y cyfle mor fuan a phosib gan fod y byd yn newid drwy’r amser. Yn 2001 roedd sefydlu papur dyddiol newydd yn ychydig o anachronism gyda dyfodiad y we, a mae’r syniad hyd yn oed yn fwy gwallgo heddiw.

Erbyn hyn, mae cylchgrawn Golwg yn sôn am sefydlu gwefan newyddion dyddiol. Sgwn i a fydd hwn yn gweld golau ddydd cyn diwedd y ddegawd?

5 thoughts on “Stori’r Byd

  1. mae’n gywilydd arnom ni i gyd nad oedd digon o bobl yn ddigon mentrus i roi’n llaw yn ein pocedi i gefnogi’r fenter hon. ‘self-fulfilling prophecy’ ydi’r holl beth wedyn (hy “snam pwynt rhoi achos methu wneith o…”). ewch i chwilio tu cefn i’ch soffa a chyfrannwch/thanysgrifiwch!

  2. Nes i pigo fewn i gwilio’r dadl yma, yn wir hollol wast o arian pur. Yng Nghymru heb nawdd, dim byd. Mae hwn yn simtwm fawr y ganrif i ‘petha cymraeg’ ynte? Mae syniad fi yw cael ‘sycar’ i dosbarthu y peth am flwyddyn, fel mae’r Daily Post yn neud gyda’r racsan cymraeg mae Rhys Mwyn yn malu cachu fewn. Nath hwnna yn mynd i’r wal heb y Daily Bost. as for golwg..heb prynnu’r cach ers degawd, Huw Stephens/Bethan Elfyn ruined the pop in that. ge di gweld lot o petha bop yn mynd i’r wal rwan, dim nawdd, dim roc..(diolch byth)..Y BYD, wel mae unrhyw ‘blog’ yn well ar y we. Dolig llawn i bawb, cofio Rhidian, dick head X-Factor, nice hair, shame about the beady eyes.. Y wasg gymraeg..RIP, yr SRG..RIP..S4C RIP..RC RIP..start a new lingo..english.

  3. Dw i’m yn meddwl ei fod yn syniad gwallgo, ond ti’n iawn i ddweud ei bod yn amlwg mai academyddion sy’n ei gwthio ac nid gwyr busnes – iawn, mae’n ddigon teg rhoi rhyw fath o grant i’r papur ond mae’n rhaid iddo gael sail ariannol gadarn annibynnol hefyd.

    Ond dw i’n teimlo bod y peth yn colli ei fomentwm a’i frwdfrydedd rwan ac yn ‘dragio’: mae hynny o weithiau y mae wedi cael ei ohirio jyst yn wirion. Serch hynny mi fyddaf yn ei brynu ac yn dymuno pob llwyddiant i’r fenter.

  4. “Mae’n amlwg iawn mai academydd sydd wedi bod yn gwthio cynllun Y Byd, a nid entrepreneur.”?! Academydd ydy Ned Thomas ond beth am y cyfarwyddwyr eraill?

    * Robat Gruffudd (Cyfarwyddwr a Chyfranddalydd Cychwynnol) – Brodor o Abertawe. Ef sefydlodd Gwasg y Lolfa (Argraffwyr a Chyhoeddwyr) yn Nhalybont, Ceredigion.

    * Robin Llywelyn (Cyfarwyddwr a Chyfranddalydd Cychwynnol) – Rheolwr Cyffredinol Portmeirion a nofelydd. Mae hefyd yn gyfarwyddwr nifer o gwmniau.

    * Gwyn Roberts (Cyfarwyddwr a Chyfranddalydd Cychwynnol) Bu’n gweithio i Virgin Management Ltd a Virgin Mobile yn Llundain a thrwy’r byd, ac mae’n byw yng Nghaerdydd. Creu cynlluniau busnes a datblygu mentrau newydd yw ei waith dyddiol.

    * Elis Evans (Ymgynghorydd) – Brodor o Ogledd Sir Benfro. Mae ganddo oes o brofiad ym maes rheoli a hysbysebu yn sgil ei waith dros y blynyddoedd gyda phapurau Thomson a Newscom. Bu’n ddirprwy reolwr y Scotsman a’r Western Mail ac hefyd yn reolwr Cyffredinol Celtic Press. Ef sefydlodd y Cardiff Independent.

    * Tom McGowran (Ymgynghorydd) – Brodor o’r Alban a chyn Brif Weithredwr grwp papurau newydd Tindle. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad yn rheoli papurau newydd. Mae’n ymgynghorydd i Ddyddiol Cyf. ar agweddau technegol y fenter.

    Nid diffyg cyfarwyddwyr mentrus sydd ond diffyg menter y Cymry ei hun a hefyd diffyg cefnogaeth Alun Pugh pan oedd ef dal o gwmpas.

  5. Wir yw mae cymru angen ‘Daily Sbort’ Cymraeg, tits plastered dros y peth. Dumb it down. Gwerthu fel slecs wedyn, far too much hi-brow dosbarth ganol cachu fel Barn (neud un siwr fod band Rhys llwyd yn cael mensh bob erthygl??) ie ‘Sbort Y Dydd’ soft porn, yr unig ateb.