Dathlu deg

Mae gwefan newyddion y BBC yn ddeg mlwydd oed. Yr wythnos dwetha wnes i hefyd dathlu deg mlynedd yn gweithio i un cwmni (a felly dwi wedi bod yn darllen gwefan y BBC bob amser cinio ers hynny).

Roeddwn i wedi bod yn gweithio’n ffrilans am tua 18 mis cyn dechrau gweithio’n llawn amser, ar ôl bod yn arbrofi gyda gwefannau ers diwedd 1994 tra’n osgoi gwneud gwaith coleg. Wnes i sylweddoli yn reit gyflym fod hi’n anodd cael digon o waith fel unigolyn (yn enwedig yn y cyfnod cynnar hynny), a nad oedd gen i’r sgiliau llawn oedd angen. Felly wnes i chwilio am gwmni lle allwn i ganolbwyntio ar raglennu a chyd-weithio gyda pobl mwy dawnus a chymwys i ddylunio, gwerthu a marchnata. Ychydig iawn o ddewis oedd ar y pryd, a wnes i lunio rhestr o’r 4 neu 5 asiantaethau mwya nodedig yng Nghaerdydd, yn cynnwys adran rhyngweithiol y Western Mail.

Ddanfonais i lythyr at Imaginet yn gynta, oherwydd eu bod yn amlwg yn ffan o Linux a Perl a roeddwn i eisiau gweithio ar systemau ‘agored’. Ces i alwad ffôn y diwrnod wedyn, cyfweliad ar ddydd Iau, a wnes i ddechrau gweithio ar y dydd Llun. Yn eironig, y wefan gynta wnes i weithio arno gyda Imaginet oedd ‘Total Cardiff’, sef prosiect y Western Mail i roi cynnwys eu papurau newydd ar lein. Dyma sgrîn-lun o’r wefan ar y pryd:

Total Cardiff 1997

Yn 1999 fe wnaeth Trinity gyfuno a grŵp y Mirror, a fe lyncwyd Total Wales i anghenfil ‘rhwydwaith IC’ yn fuan wedyn. Gwefannau ‘IC’ oedd yr enghraifft orau o hen gyfrwng yn ceisio datblygu rhywbeth ‘cyfrwng newydd’ ac yn methu’n llwyr – dim ond yn y misoedd dwetha y mae icwaleswedi ail-lansio gyda chynllun synhwyrol.

Ond nôl at y gwaith – dwi wedi gwneud amrywiaeth o swyddi yn ystod y ddeg mlynedd. Ar rhai adegau dwi wedi bod yn gwneud 3 neu 4 swydd ar unwaith, sydd yn beth arferol mewn cwmni bach wrth gwrs. Wnes i ddechrau fel rhaglennwr Perl, yna datblygydd gwe (teitl mwy cyffredinol oedd yn cynnwys creu cronfeydd data, rhaglennu yn Perl, PHP a ASP). Am chwe mis ro’n i’n raglennwr teledu rhyngweithiol ac am gyfnod roeddwn i’n helpu gyda sgriptio Flash.

Wnes i hyd yn oed ychydig o waith ‘gwerthu’ fel cymorth i’r staff gwerthiant am nad oedden nhw’n deall y dechnoleg! Wedyn daeth cyfnod lle roeddwn i’n gofalu am grŵp o raglennwyr a gweinyddu systemau a cynorthwyo y broses werthiant. Erbyn hyn dwi wedi setlo lawr i fod yn reolwr TGCh, sy’n golygu mod i’n goruwchwylio ‘pob un o’r uchod’, ond gadael y gwaith budr i rywun arall.

Dwi ddim yn gwybod lle fydd y we mewn deg mlynedd arall, ond mae’n siwr y bydd y broses o gyfuno y gwahanol gyfryngau yn parhau. Fel llawer o bobl sydd wedi gweithio yn y byd TG cyn dianc, efallai erbyn hynny fydda’i wedi dod o hyd i yrfa ychydig mwy hamddenol.

Postiwyd y cofnod hwn yn Bywyd, Gwaith. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Dathlu deg"