Sefyllfa comedi

Fe soniais i o’r blaen am archif rhaglenni’r BBC, a dwi’n falch gweld fod rhaglen Gymraeg arall wedi ei ychwanegu, sef pennod eisteddfodol o Fo a Fe o’r 1970au.

Dwi’n gwybod fod y 70au yn ‘oes aur’ i comedi sefyllfa - dim ond tri sianel deledu oedd ar gael a roedd teledu, fel dull o adloniant, ar ei anterth. Ond rhaid gofyn y cwestiwn - os oedd mawrion fel Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones wedi gweld potensial y teledu i greu adloniant poblogaidd yn Gymraeg pam nad oes ganddon ni bobl tebyg yn gwneud yr un peth heddiw? Roedd cael actorion gwych fel Ryan Davies yn help mawr wrth gwrs - fe fyddai ei gymeriad ‘Twm Twm’ a’i fratiaith hyfryd yn rhoi harten i ‘amddiffynwyr’ safonau iaith heddiw.

Mae comedi sefyllfa wedi dod yn boblogaidd (ac safonol) unwaith eto yn saesneg a mae hyd yn oed cymdeithas Gymreig yn cael eu adlewyrchu ar gomediau fel Gavin a Stacey a rhaglenni Rob Brydon.

Felly lle mae’r comediau Cymraeg wedi mynd? Allwn ni ddim dibynnu ar ail-ddarllediadau o C’mon Midffild am byth. Oes yna hyd yn oed awduron fyddai’n gallu greu gomedi sefyllfa lwyddiannus a phoblogaidd heddiw? Neu fel fyddai Twm Twm yn dweud “os na rw’yn lan i’r job?”

2 Sylw i'r cofnod “Sefyllfa comedi”

  1. Meddai sanddef:

    Byddai rhywbeth fel fersiwn Cymraeg o “Spaced” yn plesio fi

  2. Meddai Rhodri:

    Roedd y gyfres radio “Y Pechaduriaid” yn reit dda.

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.