ymgyrchchwaraedysgutyfucymru

Mae lansiad yr ymgyrch ‘Chwarae Dysgu Tyfu’ gan y Cynulliad yn enghraifft dda o sut i beidio trefnu ymgyrch aml-gyfrwng. Ni fydde’r hysbysebion teledu cawslyd ddim yn rhy ddrwg heblaw’r ffaith fod y fersiwn Cymraeg yn edrych fel petai e wedi cael ei ddybio’n wael.

Dyddie ‘ma, y cyfeiriad gwe yw’r peth pwysica mewn hysbyseb o’r fath, a mae nhw wedi dewis dangos chwaraedysgutyfucymru.gov.uk - sydd ddim yn bodoli, er y galle weithio. Mae angen y www ar y blaen i fod yn gywir. Hyd yn oed wedyn mae’r cyfeiriad yn anodd i’w gofio - wnes i gymryd tri cais cyn cael yr un iawn (a roedd hynny gyda’r fantais o allu edrych lan y cyfeiriad yn y DNS). Beth sydd yn bod gyda cymru.gov.uk/chwaraedysgutyfu ? Neu cymru.gov.uk/chdt ?

Dyw’r wefan ei hun, pan ddewch chi o hyd iddi, ddim yn ddrwg, heblaw am ychydig o wallau fel ‘Home’ a ‘Lincs’ (o’n i’n meddwl fod ni wedi penderfynu ar ‘Dolenni’ ers o leia 1995? Mi fyddai ‘tudalennau’ neu ‘cynnwys’ hyd yn oed yn well am eu bod yn ddolennau mewnol).

Ond beth sy’n sefyll mas ar y dudalen flaen i fi yw’r cwestiwn annealladwy os nad amheus “Ydych chi’n am drin plant?”

hafan

Un sylw i'r cofnod “ymgyrchchwaraedysgutyfucymru”

  1. Meddai Lucyrabbit:

    Yn cytuno’n llwyr. Dwi dal a methu dod o hyd i’r safle! Beth yn gwmmws yw’r hysbyseb yn trial ei ddweud? Pa fath o bobl mae nhw’n ceisio denu? Efallai fydda i byth yn gwybod os na ffeindia i’r safle. Af fi am y ffon tro nesaf.

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.