Mynd ar Safari

Mae Apple wedi cyhoeddi fod porwr gwe Safari nawr ar gael i systemau Windows. Wnes i rhoi cynnig arno neithiwr ar beiriant Windows weddol newydd, pwerus. Dwi ddim yn gwybod lle mae Apple wedi cael ei ffigyrau o, ond roedd Safari yn hynod o araf yn fy mhrofiad i. Roedd e fel petai’n llwytho popeth ar y dudalen cyn ei ddangos, oedd yn cymryd 5-10 eiliad.

Yn sicr roedd e llawer arafach na Firefox neu Internet Explorer ar yr un peiriant. Er fod IE ychydig cyflymach ar y cyfrifiadur, mae’n well gen i ddefnyddio Firefox sydd yn ddigon cyflym ac yn llawn nodweddion defnyddiol. O ran nodweddion, wnes i ddim gweld dim byd hynod o ddefnyddiol yn Safari i gymharu a Firefox.

Dwi’n dueddol o agor llawer o dabiau ar yr un pryd, sy’n bwyta cof. Dyma lle mae Firefox yn well yn fy mhrofiad i, mae gen i 28 tab ar agor sy’n defnyddio 158MB o gof = 5.6MB yr un. Mae IE ar agor gyda 4 tab ac yn defnyddio 34MB = 8.5MB yr un. Dwi newydd agor 8 gwefan ar hap yn Safari a mae’n defnyddio 90MB = 11.25MB yr un. Dwi ddim wedi tiwnio dim byd chwaith. Mae IE yn waeth hefyd am nad yw’n gollwng y cof wrth gau lawr un tab, felly mae’n dueddol o dyfu yn fwy na sydd angen.

O ran fy mhrofiad i (ac ar fy nghyfrifiaduron penodol i) felly does dim byd arbennig i’w weld yma, ond mi fydd yn ddefnyddioll iawn cael copi o Safari ar y peiriant er mwyn profi gwefannau.

4 Sylw i'r cofnod “Mynd ar Safari”

  1. Meddai Huw Waters:

    Hmm, od iawn.

    Ar fy Mac, mae Firefox yn cychwyn i ffwrdd yn gyflymach na Safari efo pori ac agor tabiau, ond yn ddigon cyflym, mae’n dwyn y cof i gyd. Fel wedi ei nodi, nid ydyw’n gollwng y cof yn iawn, ac yn amal iawn oedd fy mheiriant yn arafu, dim ond i mi ddarganfod fod Firefox yn defnyddio tua 800MB o RAM.

    Mae Safari yn well am ollwng y cof, ond fel ti wedi gweld mae’n lawrlwytho’r wybodaeth ond yn gwrthod ei ddangos nes fod y tudalen i gyd wedi llwytho. Gall hyn fod yn boen, os ti ond yn edrych am darn bach ar dop y tudalen. Mae gwasgu ar stop fel arfer yn fforsio Safari i ddangos y cynnwys, ond yn rhoi diwedd ar y lawrlwytho.

  2. Meddai Huw Waters:

    Diweddariad:

    Sôn uchod ydwyf am Safari 2. Newydd diweddaru i Safari 3, ac ar Mac OS X 10.4 mae’n rhedeg yn gyflymach; y rhan JavaScript wedi ei ailgodio, achos oedd fidios youtube arfer a bod yn ‘buggy’ wrth trio newid amser y ffilm. Yn ogsytal a hyn, maent wedi dilyn arweiniad Firefox a integreiddio gwirydd sillafu. Tybed pryd fydd un Cymraeg ar gael?

  3. Meddai dafydd:

    Ypdêt: mae Safari i’w weld ar ei gyflymaf gyda gwefannau lleol, ar yr un rhwydwaith ac yn well gyda gwefannau sy’n defnyddio dyluniad CSS.

    Es i edrych ar y wybodaeth a fideos am Leopard nawr a fe dyfodd cof Safari i 230MB, felly mae rhaid fod ychydig o leaks i’w drwsio eto yn y fersiwn yma gyda Quicktime.

  4. Meddai sanddef:

    Oes gen ti syniadau ar gyfer y Welsh Blog Awards 2007?

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.