Darllen y we

Mae Readspeaker yn wasanaeth masnachol sy’n gosod technoleg testun-i-lais mewn ffordd hwylus o fewn gwefan. Mae’n defnyddio meddalwedd Festival a felly yn gallu ‘siarad Cymraeg’ gyda’r llais a ddatblygwyd gan Ganolfan Bedwyr.

Mae Bwrdd yr Iaith newydd lansio hwn ar eu gwefannau (edrychwch am y botwm ‘darllennwch y dudalen’. Er fod y llais Cymraeg yn gwneud ymdrech deg iawn ar ddarllen y testun, mae’n werth cymharu gyda ansawdd a huodledd y llais Saesneg, sydd yn dangos be allwch chi gyflawni gyda fwy o arian ac ymchwil.

4 thoughts on “Darllen y we

  1. Pingback: Murmur » Y blog cyntaf sy’n siarad Cymraeg

  2. Hollol wast o arian ‘cyhoeddus’, pechod y dosbarth ganol. rhowch y pres i ysbyty glan hafren neu i somalia neu rwle. Find a cure for cancer cyn malu cachu gyda fath fentre, rwi’n dalu treth am y fath rwtsh, Morrisons rule!