Gwenwch ffrindiau newydd!
Mae erthygl ar Ping Wales yn sôn am wefan o’r enw ‘Motivating Mates’ gafodd ei greu gan unigolyn o Ferthyr Tudful. Mae’r wefan nawr wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg, felly beth am gymryd cipolwg arno?
O na, baneri bach jac yr undeb er mwyn dewis iaith! Y brif neges ar y dudalen cartref yw “Gwenwch ffrindiau newydd… mae’n chychwyn yma!”. Nid y chychwyn gorau i fersiwn Gymraeg falle? Mae’r wefan i’w weld yn hyrwyddo syniad diddorol ond i feddwl fod cwmni proffesiynol wedi ei gyfieithu mae’n bosib y byddai gwasanaeth prawf-ddarllen y cwmni wedi bod yn ddefnyddiol cyn lansio.
2006-12-07 am 3:00 pm
2006-12-07 am 4:04 pm
Newydd siarad g un o’r cyfieithwyr sy’n cael eu crybwyll yn yr erthygl. O be dwi’n ddeall cyfieithwyd y wefan gan rhywun o’r cwmni (efallai nad oeddynt eisiau talu cyfieithydd) a rhoddwyd y ferswin Cymraeg ar y wê wythnos diwethaf ar gyfer ei lawnsio wythnos hwn.
Gofynwyd i Rhian (Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg a Gwent) i brawf ddarllen ambell dudalen ar fore Gwener i fod yn barod erbyn bore Llun (ac efallai gofynwyd i’r cwmni cyfiethu arall wneud yr un peth gyda thudalennau gwahanol). Fe brawf ddarllenodd a chywiro (wel cyfiethu mwy neu lai) llawer o’r testun. Am ryw reswm nid yw’r holl gywiriadau wedi eu newid.
Mae Rhian braidd yn anhapus wedi i mi bwyntio’r erthygl gan ei bod yn gwneud iddi hi edrych yn wael.
2006-12-07 am 4:17 pm
Diolch am yr esboniad, Rhys
Dwi’n deall yn iawn sut mae hyn yn gallu digwydd…
2006-12-07 am 11:18 pm
Gwaeth nag y Gymraeg yw hyn: Nid oes un person gyda diddordeb yn American football yn y cwbl o South Glamorgan.
2006-12-08 am 4:38 pm
Gwaeth nag y Gymraeg yw hyn: Nid oes un person gyda diddordeb yn American football yn y cwbl o South Glamorgan.
Yn wir mae angen cryn tipyn o Motivation i eistedd lawr o flaen y bocs am 3 awr yn yfed cwrw gwan a dynion yn peilio ar be eu gilydd.
Ond, i fod yn deg mae’r syniad yn un reit da a nid dim ond cyfieithu’r rhyngwyneb i’r Gymraeg (er mor wallus) mae’nt wedi ei wneud, ond mae nhw wedi rhoi naws Cymreig iddo hefyd. Gallwch nodi eich diddordebau fel chwarae ‘Coits‘ a dysgu’r Iaith (neu ‘Iaeth’) Gymraeg.
2006-12-11 am 6:43 pm
Mae’r wefan wedi ei gywiro nawr, ran fwyaf ond mae’r ffordd o ddewis ardaloedd yn rwystredig - dyw rhanbarthoedd fel ‘South Glamorgan’ ddim wedi bodoli ers 1996. (ddim ar gyfer unrhyw bwrpas defnyddiol ta beth)
2006-12-20 am 12:49 pm
Dwi ddim yn deall pam fod cymaint o wefannau’n defnyddio hen siroedd cyn-1996 ac mae’n fwy rhwystredig fyth pan maent yn wefannau swyddogol gan sefydliadau cyhoeddus.
Dwi’n cael yr argraff eu fod yn rhestrau default o rhywle i greu dewislen (?) fel nad oes rhaid i bobl trefferthu creu rhai eu hunain - yr un fath gyda rhestr gwledydd.
Ond ydi o wir ots yn yr achos yma i nodi os ydych yn byw mewn hen sir, neu o fewn awdurdod lleol? Mond eisiau synaid pwy sy’n byw yn agos at eu gilydd. os chi’n byw ym Mhontypridd ac yng Nghaerffili yn rydych yn agos iawn i’ch gilydd ond yn byw mewn dau awdurdod lleol gwahano, tra bod y ddau le o fewn yr hen Forgannwg Ganol.
2006-12-20 am 1:00 pm
Dwi ddim yn gwybod lle mae ‘De Morgannwg’ (hyd yn oed pan oedd e’n bodoli).
Mae’r chwiliad cod post yn well.