daflog

  • Cyhoeddwyd: 22:16, Rhagfyr 5, 2006
  • Categori: Bywyd, Y We
  • Sylwadau: 2

Trafferthion teithio

Oherwydd y gwynt a glaw di-derfyn yn ddiweddar, mae e wedi bod yn ddigon anodd teithio ar drafnidiaeth cyhoeddus mewn rhannau o Gymru. Mae’r trênau o gwmpas Caerdydd wedi bod yn eitha annibynadwy – y diwrnod o’r blaen fe ganslwyd dau drên yn olynol, felly roedd rhaid cerdded lan Stryd Bute yn y glaw (ymarfer corff da falle ond ddim yn bleserus). Y dyddie yma, wrth gerdded drwy Caerdydd yn y tywyllwch gyda’r glaw yn tasgu oddi ar yr ymbarél, dwi’n hanner disgwyl tîm Torchwood i ruthro rownd y gornel ar drywydd ryw ddirgelwch arall.

Cyn i fy ffantasi gymryd drosodd, roedd pwynt i’r blogiad yma – sef nodi fod porthiant RSS Cymraeg gan y BBC o newyddion teithio Arriva Cymru. Alla’i ddim gweld hwn wedi ei hysbysebu unrhyw le, ddim yn y wefan Teithio na Travel News. Dangos y prif ddigwyddiadau mae hwn nid gwybodaeth am bob gorsaf ond mae’n fwy defnyddiol na ein hen ffrind, gwefan Arriva.

2 o sylwadau to “Trafferthion teithio”


  1. Rhys
    ar Rhag 7, 2006
    @ 13:33

    Diddorol, ond ar hyn o bryd wela i ddim llawer o Gymraeg o fewn y ffeil RSS. Mae’r teitl yn Gymraeg, ond y disgrifiad dal yn Saesneg…


  2. dafydd
    ar Rhag 7, 2006
    @ 13:46

    Ie, mae’n cael ei fwydo o’r un lle a’r un saesneg

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.