Chwiliad newydd Google

Mae Google wedi lansio gwasanaeth er mwyn creu chwiliad addasedig. Mae wedi bod yn bosib ers tipyn i ddefnyddio Google i wneud chwiliad o fewn eich gwefan eich hun, ond mae hwn yn cynnig mwy o reolaeth dros ba allweddeiriau a safloedd i’w cynnwys neu eu blaenoriaethu.

Dwi ddim yn gweld llawer o fantais eto o ran chwiliadau Cymraeg. Os ydych chi’n chwilio am eiriau Cymraeg neu enwau sy’n ymddangos yn niwylliant Cymraeg yn unig, mi fyddwch chi’n debygol o gael canlyniadau boddhaol o brif wefan Google. Mi allai’r gwasanaeth yma helpu ychydig drwy gyfyngu i set o wefannau Cymraeg o’n dewis ni. Dwi wedi arbrofi drwy greu chwiliad isod, sydd yn chwilio’r We i gyd ond yn rhoi fwy o bwyslais ar rai gwefannau Cymraeg dwi wedi nodi. Y broblem gyda hyn yw fod angen cynnal a chadw y rhestr er mwyn ei gadw’n ddefnyddiol, er mai prif bwrpas technoleg yw gwneud pethau’n haws ac yn fwy otomatig.


One thought on “Chwiliad newydd Google

  1. Be sy’n neud fi mwyaf paranoid am Google Inc yw y faith fod y CIA ar ol y cwmni i cael holl ymchwiliadau ‘personol’ gan y cwmni. andros o cof ond rwi’n mwy ofalus yn defnyddio google ar safleuoedd eraill na’r safwe swyddogol. mae’r dolen cysyllt braidd angen-ree-di-ol arbyn heddiw. Ond pwy sy’n reoli rhai o’r cwmniau ‘ma. Rwi’n ofn o rhywun fel nic Daifys a Co yn blackmailio fi orherwydd yn y misoedd ddiwethaf rwi wedi teipo fan ”Mirain Haf”, ”Cymal 3”, ”Allan yn Fuan”, ”Nia Melville”, ”Rhys Lloyd”, ”Johnny R/R-Bennig”, ”Keith Best”, ”Andras Millward”, ”Mary Kate and Ashley”, ”y gwely blodau” a ”Diolch byth mae twat fel Aled Glyn Davis wedi mynd o’r BBC”..nath Minging Meinir Gwilym dim yn ymddangos ”Did You mean a crap Act” wedi ymweld!
    Ffydd
    R