daflog

Llabystiau Llanelli

Fe wnaeth edefyn am Llanelli ar faes-e atgoffa fi am record o’r 90au cynnar. Yr adeg hynny daeth Llanelli ac Abertawe i sylw’r wasg oherwydd digwyddiadau o drais, dwyn ceir, gwefryrru a drygioni anghymdeithasol cyffredinol. Dwi’n cofio Craig Charles yn gwneud eitem am hyn ar raglen BBC 1 (Them and Us o bosib). Fe samplwyd yr eitem mewn trac gwych gan fand dawns/rap o Lanelli. Does gen i ddim syniad beth oedd enw’r band.

Llanelli – Sodom and Gomorrah? [3.61MB]

3 o sylwadau to “Llabystiau Llanelli”


  1. Huw Waters
    ar Awst 14, 2006
    @ 11:09

    Ma’r trac na’n ace.

    Dwi’n cymyd na gwefryrru ydi joyriding.

    Gall Abertawe a’r cylch fod cymaint gwell nag ydio. Fyny i’r cyngor ddinas benderfyny ar be yn union ma nhw’n trio neud efo’r lle. Adeiladu stwff er mwyn defnyddio sment. What’s the point?

    A ma’r Fforest Fach complex na wedi lladd canol siopa Abertawe.


  2. Rhys
    ar Awst 15, 2006
    @ 14:03

    Hollol, hollol wych. Rwy’n meddwl i ddeng mlynedd fynd heibio ers i fi glywed hwnna ddwetha (fe gafodd ei chwarae ar un o sioeau olaf Heno Bydd yr Adar yn Canu, os cofiaf). Diolch.


  3. Jon T
    ar Tach 7, 2006
    @ 23:23

    MC Waster o’dd enw band.
    Gret i clywed ‘to, dim ond tapiau si da fi.
    J

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.