Traffig Cymru

Edryches i ar wefan Traffig Cymru heddiw sydd wedi cael ei ail-wneud yn weddol ddiweddar dwi’n credu. Am smonach. Dwi’n gallu deall fod peth o’r cynnwys Cymraeg ddim yna eto, nid fod hynna’n esgus. Ond pwy ddiawl sy’ wedi cyfieithu hwn, ac yn bwysicach, wedi caniatáu iddo fynd yn fyw? Oes pwynt i’r Cynulliad gael rhestr swyddogol o dermau os nad yw gwefannau eu asiantaethau yn ei ddefnyddio? A sut ddiawl mae rhywun yn llwyddo rhoi ‘Llwodraeth Cynulliad Cymru’ o fewn logo pan fo’r graffeg hynny yn un safonol sy’n cael eu ddefnyddio ymhobman?

Digon o gwestiynau dwl, cliciwch ar y llun i weld y camgymeriadau – coch am camsillafu/camdeipio a melyn am gyfieithiadau amheus.

Traffig Cymru

Pot Nwdls

Weithiau mae’r Cymry yn cael eu portreadu fel twpsod di-hiwmor sy’n methu cymryd jôc. Weithiau dwi’n cytuno fod hyn yn wir, o weld heddiw fod 37 o gwynion wedi’u derbyn am hysbyseb dychanol Pot Noodle – gan bobl nad oedd yn digon deallus i sylwi fod yr hysbyseb yn hwneud hwyl am ben ystrydebau o Gymru.

Heddlu’n saethu?

Mwy o benawdau amwys gan newyddion y BBC – “Mwy o heddlu wedi saethu“. Pan weles i hwnna yn y darllenydd RSS feddylies i “wedi saethu beth?”, wedyn o’n i’n meddwl mai “wedi’u” oedd e fod a mai sôn am rhyw gyflafan o heddweision wedi’u saethu rhywle.

A pan es i i’r stori lawn i weld be ddiawl o nhw’n feddwl ges i ffenest bach yn dod fyny a dweud “Helpwch ni i gadw ein bys ar y pyls.”. Pa byls? Oes rhywun yn anymwybodol? Fydd rhaid i fi wneud CPR? Dwi’n drysu..