Mae’n debyg fod rywbeth o’r enw Cwpan y Byd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Does gen i ddim diddordeb mewn hynny heblaw i nodi hyn – os ydych chi’n chwilio Google am enw dau wlad sy’n cystadlu mae Google yn dangos y canlyniadau, ac yn Gymraeg hefyd. Cefn y rhwyd!
Yn anffodus, tydi Google ddim yn adnabod enwau Cymraeg y gwledydd.
Y wlad ‘hon’ mêt, y wlad hon!